Ai dihiryn ynteu ddioddefwr a gafodd ei
drin yn hallt yw Shylock, benthyciwr arian
Iddewig Marsiandwr Fenis?
Mae drama un-dyn rymus Gareth
Armstrong yn herio’r stereoteipiau hyn
drwy lygaid unig ffrind Shylock –ac unig
Iddew arall holl waith Shakespeare –Tiwbal.
Ar ein siwrne, cawn gyfarfod a llu o
gymeriadau lliwgar eraill; yn eu plith mae
Portia a Phontius Peilat, Romeo a Max
Reinardt, Barabas a Richard Burbage.
Dewch i ddathlu iaith unigryw a chyfoethog
Shakespeare yn y driniaeth fanwl, hudol a
doniol hon o Shylock a’i bobl.
BEST TOURING PRODUCTION (WELSH)
WALES THEATRE AWARDS 2018
RSVP for Theatr Soar Yn Cyflwyno: SIEILOC to add comments!
Join National Theatre Wales Community