Cyfle i archwilio’r potensial ar gyfer Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid sy’n cysylltu darparwyr ac ymarferwyr celfyddydau ieuenctid ar draws Cymru.
Pryd: Dydd Sadwrn 2 Mawrth 2014 (10am – 4pm)
Lle: Theatr Felinfach
Cost: *AM DDIM*
Darperir cinio
Bydd y diwrnod yn cynnwys:
(i) gweithgareddau ymarferol i rannu sgiliau, dan arweiniad cyd-ymarferwyr;
(ii) cyflwyno meysydd ar gyfer trafodaeth*;
(iii) cyfleoedd am drafodaeth a syniadau newydd;
(iv) crynodeb a ‘camau nesaf’.
*Mae’r meysydd i’w trafod yn cynnwys:
- Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru Gyfan – rhesymeg, ar gyfer pwy, sut
- rhannu sgiliau a fframweithiau cefnogi ar gyfer ymarferwyr
- cynnwys lleisiau a syniadau pobl ifanc – diweddaru ac ehangu’r Rhwydwaith
Diddordeb?
Cofrestrwch eich bwriad i fynychu drwy e-bostio nyaw@nyaw.co.uk a rhoi Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid yn y llinell pwnc, gan nodi (i) rhif ffon cysylltu , a (ii) a fyddech yn fodlon arwain sesiwn rhannu sgiliau.
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu yn nhrefn y cyntaf i’r felin. Dyddiad Cau: 27 Chwefror 2014.
Byddwch yn rhan o’r cam cyntaf hwn i greu rhwydwaith sy’n cefnogi a datblygu’r Sector, a’n gwaith gyda phobl ifanc!