Arad Goch
Share on Facebook Share on Facebook MySpace
 

Arad Goch's Page

Profile Information

What I do:
Theatr i bobl ifanc / Theatre for young audiences
A little more about me:
Mae Arad Goch yn creu theatr gyffrous a pherthnasol ar gyfer plant a phobl ifanc. Rydym yn anelu at greu profiad theatrig sy’n ysbrydoli, ysgogi ac yn gofiadwy. Mae ein gwaith yn tynnu ar ddeunydd a thraddodiadau cynhenid Gymraeg yn ogystal â themâu ac arddulliau cyfoes a heriol.

Trwy deithio yn helaeth o amglych Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg i theatrau, ysgolion, neuaddau a chanolfanau rydym yn ceisio sicrhau bod y gynulleidfa ehangaf posibl, ym mhob cwr o’r wlad, yn cael cyfle i weld a mwynhau theatr gyfoes o’r radd flaenaf.

Rydym yn gweld ein gwaith mewn cyd-destun rhyngwladol ac wedi ymweld â nifer o wyliau tramor i berfformio, beirniadu neu arsylwi. Mae Arad Goch wedi cyfieithu a pherfformio cynyrchiadau o dramor gan ymdrechu i sicrhau bod cynulleidfaoedd ifanc Cymru yn cael y cyfle i weld y theatr orau bosibl.

Yn ogystal, Cwmni Theatr Arad Goch sy’n trefnu Gŵyl Agor Drysau yma yn Aberystwyth ac mewn trefi eraill bob yn ail flwyddyn. Gŵyl ryngwladol ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc yw Agor Drysau, mae mwy o wybodaeth ar dudalen yr Ŵyl.

Er mwyn cyfoethogi profiadau plant a phobl ifanc rydyn ni’n cynnal nifer o weithgareddau cyfranogol - gan gynnig cyfleoedd iddynt gydweithio ag artistiaid proffesiynol trwy amrywiol glybiau, cyrsiau a gweithdai. Yn aml mae cyd-weithio gyda grwpiau o bobl ifanc wedi sbarduno prosiectau eraill o fewn gwaith proffesiynol y cwmni. Hefyd rydyn ni’n cynnal gweithgareddau hyfforddiant proffesiynol i artistiaid eraill, i athrawon ac i aeoldau’r gymuned; ewch i’r dudalen addysg i weld mwy.

Mae Arad Goch wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd yn llwyddiannus ar draws Cymru a thu hwnt ers 1989.
Location:
Aberystwyth
Projects I’m working on:
Agor Drysau / Opening Doors International Festival for young audiences
Personal Website/CV:
http://www.aradgoch.cymru
Twitter @username:
@aradgoch

Arad Goch's Blog

Swyddi Technegol / Technician Jobs - Aberystwyth

Rydym yn chwilio am Rheolwyr Llwyfan, Dechnegwyr Theatr Sain a Golau i weithio ar gytundebau penodol ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau. Cysylltwch â ni os oes gennych diddordeb.

We are looking for Stage Managers, sound and light theatre technicians to work on specific contracts for a variety of productions. Please contact us if you are interested.

Sioe haf / Summer show

Aberystwyth / Touring Welsh theatres.…


Continue

Posted on January 15, 2019 at 5:00

Comment Wall

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

  • No comments yet!
 
 
 

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service