Adolygiad Young Critics: 'Our Town' gan Everyman Theatre @everymancdf

         

          Mae ‘Our Town’ gan Thornton Wilder yn sioe sydd yn dilyn  bywydau cymdogion pentref yn bach yn America drosd cyfnod o deg flwyddyn yn yr 1900au. Mae’r sioe yn gael ei ystyried fel un o’r sioeau clasurol fwyaf America. Mae’r sioe yn gael ei perfformio ar draws America yn dyddiol ag bellach wedi dod i Chapter, yng Nhaerdydd gyda ‘Everyman Theatre’.

        Er fod hi’n sioe sydd yn enwog am cael bron i ddim o set, mae cyfarwyddwr Ray Thomas yn benderfynol o adlewyrchu’r themau o cymuned unedig yn y sioe trwy wneud i’r cast cyfa osod y pentref i fyny oflaen y gynilleidfa.

Yno, mae’r sioe yn cael ei gyflwyno a’i symud ymlaen oddi wrth y ‘Stage Manager’ (Geraint Dixon) sef gymeriad sydd yn ymwybodol o’r gynilleidfa a’i rhan nhw yn y sioe. Trwy gydol y sioe mae’r stage manager yn torri’r pedwerydd wal ag yn siarad gyda’r cynilleidfa sydd yn creu awyrgylch cymunedol a cartrefol.

Fel mae’r sioe yn mynd ymlaen rydym ni yn cael dod i adnabod rhai o cymdogwyr y pentref gyda prif focws ar  cwpwl ifanc a’i ddatblygiad a’r chanlyniad o’i perthynas. Mae’r actorion hynod o dalentog , Faebian Averies a Sion Owen yn chwarae’r rhannau o Emily Webb a George Gibbs yn berffaith, gyda’r gynilleidfa wrth ei bodd yn gweld y cwpwl yn tyfu fyny ag disgin mewn cariad.

          Yn y drydydd act ‘Death and Dying’ mae naws y sioe yn newid ag yn mynd yn fwy swreal gyda perfformiad wych gan Faebian Averies fel y merch a bu farw sydd yn edrych yn ol ar ei fywyd. Mae estblygiad Emily o fod yn ferch diniwed i berson ofnadwy o trisd yn torr-calonus ag yn pwysleisio neges y ddrama fod pobol byth yn gwerthfawrogi beth sydd ganddyn nhw tan maen’t yn edrych yn ol yn gryf iawn. 

Llywela Ann

Views: 293

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service