Adolygiad Young Critics: 'Recall' gan Joanna Young @JoannaYoungCo @SHERMANCYMRU

             

             Mae sioe diweddaraf Joanna Young wrthi’n teitho ar ledled Cymru ag wedi dechrau ar nodyn dda.‘Recall’ yw’r drydydd sioe mewn cyfres o berfformiadau gan Joanna Young a’i chwmni. nod y perfformiad yw i fynd yn ôl at y perfformiad gyntaf o’r gyfres sef ‘Re-creating Pen Gwyn’ ble roedd dawnswyr yn symud ogwmpas y gofod i creu fyd newydd ag  mynd ymlaen i edrych ar beth sydd yn newid ag yn diflannu pan mae cylchedd yn dechrau eto. Mae’r sioe yn canolbwyntio ar y perthynas rhwng y dawnswyr a’r gofod trwy ystyried ei gilydd a beth sydd o’i gwmpas. Gyda’r defnydd o ddau fachgen (Jacob Ingram-Dodd; Innpang Ooi) a dwy ferch (Makiko Aoyama a Louise Tanoto) mae’r sioe yn ffocysu ar ddilyniant o symudiadau cain a trawiadol sydd yn symud ymlaen i greu cylchedd prydferth a swynol. Roedd y newid yn y ddawnswyr o symyd fel unigolion i fewn i ddeuawd yn slic ag yn hyfryd.

       Er bod y set yn eithaf syml gyda dim ond bocsys meintiau gwahanol wedi ei osod ar draws y llwyfan, mae’r dawnswyr yn symud drwy’r llwyfan ag yn  creu i rywbeth hollol wahanol. Ar adegau gallwch weld anifeiliaid mewn sw, wedyn mae’n symud i awyrgylch busnes sydd yn awgrymu fod y sioe ddim hefo naratif penodol ond yn hytrach sioe sydd yn gadael i chi edrych fewn i byd arall.

       Roedd lleoli’r sioe mewn theatr mor fawr yn Sherman Cymru yn gwneud i’r berfformiad teimlo’n anferth sydd yn tynnu oddiwrth yr agosatrwydd a’r naws o’r peth, er mwyn osgoi hyn mi wnaeth Joanna Young creu defnydd effeithiol iawn o’r set trwy defnyddio lampau i oleuo’r llwyfan. Mi roedd hyn yn galluogi’r dawnswyr i reoli’r golau er mwyn newid maint y llwyfan a creu cysgodion er mwyn rheoli tymer y stafell. Yn sicr roedd y gerddoriaeth yn llwyddiannus ac yn cymorth y dawnswyr i greu adegau o densiwn a hapusrwydd ond ar y llaw arall, mae’n bosib i weld y gerddoriaeth fel rhwystr; roedd yn tueddu i denu’r cynulleidfa o’r perfformiad gan fod seibiau amlwg rhwng y golygfeydd yn lletchwith ar adegau. 

Llywela Ann

Views: 308

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service