Pictured: Evie Manning, Rachel Trezise, Rhiannon White.
Source: Dimitris Legakis

The Emerging Director position is an opportunity for artists interested in working closely with more experienced lead artists/ directors, gaining close-up experience of their practice and inside knowledge of the creative processes that go into making one of our main productions. This role is a key component of the creative team and requires attendance during rehearsals, production week and performances.


We are currently looking to appoint an Emerging Director for an upcoming production with Common Wealth - We’re Still Here; working alongside co-artistic directors Evie Manning and Rhiannon White.

This will be a unique production, written by Rachel Trezise and co-produced by Common Wealth, in a location near the historic Port Talbot steel works.

Common Wealth make site-specific theatre events that encompass electronic sound, new writing, visual design and often deploys verbatim techniques to address contemporary politics and concerns of our times. Their work is staged in locations that are right at the heart of communities and aim to engage people who might not usually think theatre is for them.

 

“Full of sweaty, sweary joy at the sheer possibilities of life”

Lyn Gardner, The Guardian.

 

Dates:

As with all Emerging Director positions, attendance during the rehearsal and production period is very important. There will also be opportunities to be involved in key creative and production meetings throughout the production process.

 

We're Still Here

Rehearsals commence:
w/c 14 Aug (full-time)

Tech week commences:
w/c 11 Sep

Performances:
18 - 30 Sep

19 Sep Press Night

Please note: the Emerging Director will not be expected to attend performance dates beyond press night.

Location: All dates for the production will take place on site in Port Talbot.

Occasional meetings will happen on site and in central Cardiff.

Bursary available: £2500

Deadline for applications: noon on 26th May 17.

Interviews will be held on the 7th June between 9.30am and 1.30pm.

 

Please note, we are especially interested in hearing from individuals who have strong connections to the local community i.e. Neath, Port Talbot and Swansea area.

NTW will strive to help find the best solution to travel and accommodation if you are not based locally.

This opportunity is open to artists of any age, gender, ethnicity, sexual orientation and disability status. We will strive to make any required provisions, at interview and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. If you’d like to discuss your needs, please don’t hesitate to be in touch.



You should include in your application:

CV -

  • full contact details and link to your NTW Community Profile
  • details of your directing/theatre-making experience - working with professional and non-professional casts
  • the contact details of two referees who know your work


Cover letter – (we ask that you keep your cover letter to one side of A4):

  • a statement about why you think this is the right opportunity to support you and your development at this time and what you hope to get out of the experience
  • a statement about your connection to Wales: we are focused on the development of theatre and theatre-making in Wales.

Completed Equal Opportunities form

Please send the above to: emerge@nationaltheatrewales.org

Deadline for applications: noon on 26th May 17.

***********************************

Mae swydd y Cyfarwyddwr Newydd yn gyfle i artistiaid sydd â diddordeb mewn gweithio’n agos ag artistiaid/cyfarwyddwyr arweiniol a mwy profiadol, gan gael profiad uniongyrchol o’u harfer a gwybodaeth am y prosesau creadigol sydd ynghlwm wrth wneud un o’n prif gynyrchiadau. Bydd y rôl hon yn rhan allweddol o’r tîm creadigol ac yn gofyn am fod yn bresennol yn ystod ymarferion, wythnos y cynhyrchiad a pherfformiadau.

Rydym yn dymuno penodi Cyfarwyddwr Newydd ar gyfer cynhyrchiad sydd ar y gweill gyda Common Wealth - We’re Still Here; gan weithio ochr yn ochr â’r cyd-gyfarwyddwyr artistig Evie Manning a Rhiannon White.

Bydd hwn yn gynhyrchiad unigryw, wedi’i ysgrifennu gan Rachel Trezise a’i gyd-gynhyrchu gan Common Wealth, mewn lleoliad ger gweithfeydd dur hanesyddol Port Talbot.

Mae Common Wealth yn gwneud digwyddiadau theatr safle-benodol sy’n cynnwys sain electronig, ysgrifennu newydd, dylunio gweledol ac yn aml yn defnyddio technegau verbatim i fynd i’r afael â gwleidyddiaeth gyfoes a phryderon ein hoes. Mae eu gwaith yn cael ei lwyfannu mewn lleoliadau sydd wrth wraidd cymunedau ac yn anelu at ymgysylltu pobl sydd efallai yn meddwl fel arfer nad yw theatr yn rhywbeth iddynt hwy.   

 

“Full of sweaty, sweary joy at the sheer possibilities of life”

Lyn Gardner, The Guardian.

 

Dyddiadau:

Fel gyda’r holl swyddi Cyfarwyddwyr Newydd, mae bod yn bresennol yn ystod y cyfnod ymarfer a chynhyrchu yn bwysig iawn. Bydd cyfleoedd hefyd i gymryd rhan mewn cyfarfodydd creadigol a chynhyrchu allweddol drwy gydol y broses gynhyrchu.

 

We’re Still Here

Ymarferion yn dechrau: 
wythnos yn dechrau 14 Awst (llawn amser)

 

Wythnos dechnegol yn dechrau: 
wythnos yn dechrau 11 Medi

 

Perfformiadau: 
18 - 30 Medi  
19 Medi Noson y Wasg
Sylwer: ni fydd disgwyl i’r Cyfarwyddwr Newydd fynychu dyddiadau’r perfformiadau y tu hwnt i noson y wasg.

 

Lleoliad: Bydd yr holl ddyddiadau ar gyfer y cynhyrchiad yn digwydd ar y safle ym Mhort Talbot. Bydd cyfarfodydd achlysurol yn digwydd ar y safle ac yng nghanol Caerdydd.

 

Bwrsari ar gael: £2500

 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: canol dydd ar 26 Mai 17.
Cynhelir y cyfweliadau ar 7 Mehefin rhwng 9.30am a 1.30pm.

 

 

Sylwer, mae diddordeb arbennig gennym mewn clywed gan unigolion sydd â chysylltiadau cryf â’r gymuned leol h.y. Castell-nedd, Port Talbot ac Abertawe.

Bydd NTW yn ymdrechu i helpu i ddod o hyd i’r atebion gorau o ran teithio a llety os nad ydych yn byw’n lleol.

Mae’r cyfle hwn yn agored i artistiaid o unrhyw oed, rhyw, ethnigrwydd, tueddfryd rhywiol a statws anabledd. Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddarpariaethau gofynnol, yn y cyfweliad ac yn y gwaith, i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i’r cyfle hwn. Os hoffech drafod eich anghenion, mae croeso i chi gysylltu.



Dylech gynnwys yn eich cais:

CV -

  • manylion cyswllt llawn a linc i’ch Proffil Cymuned NTW
  • manylion am eich profiad cyfarwyddo/gwneud theatr - gweithio gyda chastiau proffesiynol a rhai nad ydynt yn broffesiynol
  • Manylion cyswllt dau ganolwr sy’n adnabod eich gwaith


Llythyr eglurhaol - (gofynnwn i chi gadw eich llythyr eglurhaol i un ochr o A4):

  • datganiad am pam yr ydych yn credu mai dyma’r cyfle i’ch cefnogi chi a’ch datblygiad ar hyn o bryd a beth yr ydych yn gobeithio ei gael o’r profiad
  • datganiad am eich cysylltiad â Chymru: rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu theatr a gwneud theatr yng Nghymru.

Ffurflen Cyfle Cyfartal wedi’i llenwi

Anfonwch yr uchod i: emerge@nationaltheatrewales.org

 

Views: 1386

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service