CASTING / CASTIO: As Long as the Heart Beats

CASTING BREAKDOWN

NHS70: As Long as the Heart Beats 

 

PRODUCTION:

As Long as the Heart Beats will be a site-located, theatrical journey inspired by the Outpatient Department at Royal Gwent Hospital. Drawing on the many stories NTW have collected from people across Wales, this brand new production will celebrate the dedication and care provided every day by the NHS.

In intimate groups, the audience will be invited to hear stories from staff and patients sharing their experiences of the first 70 years of the NHS, including some of the groundbreaking work performed here in Wales.

Featuring specially-composed music and interactive elements, co-directed by Marcus Romer and Ben Tinniswood with original music by Tic Ashfield, As Long as the Heart Beats has care and compassion at its heart, just like the NHS itself.

Part of the NHS70 festival.

DATES:                    Rehearsals begin Thursday 12th July
                                 Days off: Sunday 15th and Monday 16th July

                                 Performances on Saturday 21st and Sunday 22nd July

                                 Engagement concludes Sunday 22nd July

 

LOCATIONS:          Rehearsal venue TBC, in either Newport or Cardiff

                                Performance venue: Outpatient Department, Royal Gwent Hospital, Cardiff Road, Newport NP20 2UB

 

REMUNERATION:        Company wage is £585 per week.
                                      To be paid pro rata for incomplete week i.e. 12th, 13th and 14th July.

 

Holiday pay and pension contributions will be made as per the UK Theatre / Equity Subsidised Agreement. Relocation or commuting allowance, when applicable, will be paid in line with the associated rates for 2017-19.

ROLES:

 

We are seeking performers to create an ensemble company for As Long as the Heart Beats.

The work will demand creative, intuitive performers, at ease interacting with and working in close proximity to the audience.

All performers should:

  • have some experience of promenade, immersive or interactive work
  • be confident improvisers
  • be confident singers
  • be comfortable working in a hospital (outpatient) environment and with content related to health and illness.

 

Portable musical instruments are desirable.

 

We are particularly interested in meeting performers of Philippine and South Asian heritage, to reflect the work-force of the NHS in South Wales.

 

All performers will play a primary role and others, as cast, including NHS staff, patients, family members & volunteers

 

  1. FEMALE 25-35 – Staff member. Should be a confident physical performer.
  2. FEMALE 40s - Consultant Ophthalmologist
  3. FEMALE 55+ - Volunteer
  4. MALE 20-30 – Patient
  5. MALE 50-60 – Mental Health Nurse
  6. MALE 35- 45 - Porter

 

Auditions will likely be held on the 8th, 9th and 14th May.

 

To be considered for this role, please send

  • Your CV
  • Headshot
  • A covering note of no more than 300 words including why you’d like to be involved and highlighting your relevant experience

to casting@nationaltheatrewales.org with the subject line “ HEART BEATS” 
before 6pm on the 19th April.

 

We will strive to make any required provisions, at audition and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. To discuss how we can meet your access requirements or additional needs, please don’t hesitate to get in touch.

 

NTW CASTING POLICY:

 

Every project is unique and NTW auditions to discover the most talented performers who connect to the company’s values and can help us to create extraordinary work. In doing so, NTW is flexible but committed in pursuit of the following priorities across each project:

  • Creating opportunities for performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
  • Casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

 

MANYLION CASTIO

NHS70: As Long as the Heart Beats

 

 

CYNHYRCHIAD:

Bydd As Long as the Heart Beats yn daith theatrig, safle-benodol wedi’i hysbrydoli gan Adran Cleifion Allanol Ysbyty Brenhinol Gwent. Gan ddefnyddio’r straeon niferus y mae NTW wedi’u casglu gan bobl ar draws Cymru, bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn dathlu’r ymroddiad a’r gofal a ddarperir bob dydd gan y GIG.


Mewn grwpiau bach gwahoddir y gynulleidfa i glywed straeon gan staff a chleifion yn rhannu eu profiadau o 70 mlynedd gyntaf y GIG, yn ogystal â rhai o’r triniaethau arloesol newydd a wnaed yma yng Nghymru.


Yn cynnwys cerddoriaeth a gyfansoddwyd yn arbennig ac elfennau rhyngweithiol, wedi’i gyd-gyfarwyddo gan Marcus Romer a Ben Tinniswood gyda cherddoriaeth wreiddiol gan Tic Ashfield, mae gan As Long as the Heart Beats ofal a chydymdeimlad wrth ei gwraidd, yn yr un modd â’r GIG ei hun.

 

DYDDIADAU:          Ymarferion yn dechrau ddydd Iau 12 Gorffennaf
                                    Diwrnodau i ffwrdd: Dydd Sul 15 a dydd Llun 16
                               Gorffennaf

Perfformiadau ddydd Sadwrn 21 a dydd Sul 22
           Gorffennaf

                                    Cyfnod Gwaith yn dod i ben ddydd Sul 22 Gorffennaf

 

LLEOLIADAU:        Lleoliad ymarferion i’w gadarnhau, nail ai Casnewydd neu
                               Gaerdydd

Lleoliad y perfformiadau: Adran Cleifion Allanol, Ysbyty Brenhinol Gwent, Ffordd Caerdydd, Casnewydd NP20 2UB

 

CYFLOG:                 Cyflog y cwmni yw £585 yr wythnos. I’w thalu pro rata am wythnosau anghyflawn h.y. 12, 13 a 14 Gorffennaf.

 

Gwneir tâl gwyliau a chyfraniadau pensiwn yn unol â Chytundeb Cymhorthdal UK Theatre / Equity. Telir lwfans adleoli neu gymudo, lle y bo’n berthnasol, yn unol â’r cyfraddau cysylltiedig ar gyfer 2017-19.

ROLAU:

 

Rydym yn chwilio am berfformwyr i greu cwmni ensemble ar gyfer As Long as the Heart Beats.

 

Bydd y gwaith yn gofyn am berfformwyr creadigol, greddfol, sy’n gyfforddus wrth ryngweithio â’r gynulleidfa a gweithio’n agos iddynt.

Dylai pob perfformiwr:

  • meddu ar beth profiad o waith promenâd, ymdrochol neu ryngweithio
  • bod yn weithwyr byrfyfyr hyderus
  • bod yn gantorion hyderus
  • bod yn hyderus yn gweithio mewn amgylchedd ysbyty (cleifion allanol) a gyda chynnwys yn ymwneud ag iechyd a salwch.

 

Mae offerynnau cerdd cludadwy yn ddymunol.

 

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn cwrdd â pherfformwyr o dras Philipinaidd a De Asiaidd, i adlewyrchu gweithlu’r GIG yn Ne Cymru.

 

Bydd yr holl berfformwyr yn chwarae prif rôl a rolau eraill, fel cast, yn cynnwys staff y GIG, cleifion, aelodau teuluoedd a gwirfoddolwyr

 

  1. BENYW 25-35 - Aelod o staff. Dylai fod yn berfformiwr corfforol hyderus.
  2. BENYW 40au - Offthalmolegydd Ymgynghorol
  3. BENYW 55+ - Gwirfoddolwr
  4. GWRYW 20-30 - Claf
  5. GWRYW 50-60 - Nyrs Iechyd Meddwl
  6. GWRYW 35- 45 - Porthor

 

Mae’n debygol y cynhelir clyweliadau ar 8, 9 a 14 Mai.

 

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon, anfonwch

  • Eich CV
  • Llun pen
  • Nodyn eglurhaol heb fod yn hwy na 300 gair yn cynnwys pam yr hoffech gymryd rhan ac yn nodi eich profiad perthnasol

i casting@nationaltheatrewales.org gyda “HEART BEATS” yn y llinell deitl cyn 6pm ar 19 Ebrill.

 

Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddarpariaethau gofynnol, yn ystod y clyweliadau ac yn y gwaith, i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i’r cyfle hwn. I drafod sut y gallwn gwrdd â’ch gofynion mynediad neu anghenion ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

POLISI CASTIO NTW:

Mae pob prosiect yn unigryw ac mae NTW yn cynnal clyweliadau er mwyn darganfod y perfformwyr mwyaf talentog sy’n cysylltu â gwerthoedd y cwmni ac sy’n gallu ein helpu i greu gwaith eithriadol. Wrth wneud hynny, mae NTW yn hyblyg ond wedi ymrwymo i ddilyn y blaenoriaethau a ganlyn ar draws pob prosiect:

  • Creu cyfleoedd i berfformwyr sy’n Gymry, sy’n byw yng Nghymru neu a gawsant eu hyfforddi’r broffesiynol yng Nghymru
  • Castio’n gynhwysol, gan hybu cyfle cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru yn ddilys.

 

Views: 873

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service