Cipolwg 'Deffro'r Gwanwyn'/ Sneak Peak 'Deffro'r Gwanwyn'

Ges i’r cyfle i eistedd mewn ar un o ymarferion olaf ‘Deffro’r Gwanwyn’ bore ddoe. Mae’r sioe gerdd yn agor  ar y 9fed o Dachwedd yn adeilad cartrefol cwmni Theatr Genedlaethol Cymru, sef Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin. Mae rediad y sioe yn dilyn llwyddiant ysgubol y daith gyntaf yn 2009. Yn seiliedig ar ddrama Frank Wedekind o 1892, mae’r cyfieithiad Cymraeg o’r sioe gerdd ‘Spring Awakening’ yn archwilio canlyniadau anwybodaeth rywiol sydd wedi cael ei achosi gan gymdeithas gul ac adwasgol. Cafodd y cyfieithiad Cymraeg gan y dramodydd Dafydd James ei lwyfannu’n wreiddiol yn 2009, a nawr mae Theatr Genedlaethol Cymru yn ôl gyda thaith newydd a ffres gyda pedwar aelod newydd i’r cast. Ond dydi’r ffaith bod y sioe wedi cael ei llwyfannu yn barod ddim yn effeithio’r broses baratoi o gwbl. Wrth wylio’r ymarfer mae'n amlwg bod y broses yn fanwl ac yn drwyadl iawn. Dyw hynny ddim syndod gydag Elen Bowman yn cyfarwyddo, ac mae’r actorion yn treulio amser yn ceisio deall y cymeriadau er mwyn cyflwyno’r perfformiad gorau o fewn eu gallu. Gyda chymaint o ffocws ar ansawdd y cynhyrchiad, mae’n argoeli i fod yn sioe well nag erioed.

 

Yesterday morning I had the opportunity to sit in on one of the last rehearsals for ‘Deffro’r Gwanwyn’. The musical opens on the 9th of November in Theatr Genedlaethol’s home building Y Llwyfan in Carmarthen. The show’s  run follows an immensely successful first tour in 2009. Based on Frank Wedekind’s controversial play from 1892, the Welsh translation of the musical ‘Spring Awakening’ explores the consequences of a sexual ignorance caused primarily by a repressive society. The translation, by Welsh playwright Dafydd James, was staged originally in 2009, and now Theatr Genedlaethol is back with a fresh, exciting tour and four new cast members. The fact that this is not the show’s first run doesn’t seem to have affected the rehearsal process at all. Sitting in on the rehearsal, the process seems to be extremely thorough and in-depth. With a director like Elen Bowman, this isn’t really a surprise, and the actors spend time trying to understand the characters and their motives in order to give the best performances they possibly can. With such focus on the quality, the show promises to be better than ever before.

 

Dyddiadau ‘Deffro’r Gwanwyn’

 

9-11 Tachwedd, 7.30 y.h, Y llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin.

 

15-17 Tachwedd, 7.30 y.h, Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog.

 

21-22 Tachwedd, , 7.30 y.h, Canolfan Hamdden Y Flash, Y trallwng

 

25, 26 a 28 Tachwedd, , 7.30 y.h, Canolfan Hamdden Pontardawe

 

1-3 Rhagfyr, 8 y.h. Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Views: 914

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service