Mae TEAM NTW yn cynnig cyfle ar gyfer lleoliad cynhyrchiad ar 'Tide Whisperer', sef cynhyrchiad wedi'i leoli yn Ninbych-y-pysgod, wedi'i gyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig NTW, Kully Thiarai.
Mae hwn yn lleoliad wythnos o hyd, gyda chyfle ar gael yn un o'r adrannau canlynol:
Mae hyn yn agored i unrhyw aelod o TEAM 18+ oed sy’n angerddol dros y celfyddydau ond heb unrhyw brofiad proffesiynol hyd yn hyn.
Mae'r cyfle hwn ar gyfer unrhyw un sy'n byw yn Dinbych-y-Pysgod, neu rywun sy'n gallu ymrwymo i fod yn Dinych-y-Pysgod am y lleoliad o wythnos. Byddwn yn cynnig hyd at £10 y dydd ar gyfer teithio a chynhaliaeth, ar ôl derbyn derbynebau.
Dyddiadau: 6ed – 12fed Medi 2018. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau ac amserau a restrir isod.
Dydd Iau 6ed 10am - 6pm
Dydd Gwener 7fed 10am - 6pm
Dydd Sadwrn 8fed 10am - 6pm
Dydd Llun 10fed 10am - 6pm
Dydd Mawrth 11eg 2pm - 9pm
Dydd Mercher 12fed – 2pm-9pm
Safle’r lleoliad yw canol y dref, Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost atom gyda'r wybodaeth ganlynol:
Anfonwch yr e-bost hwn at team@nationaltheatrewales.org erbyn hanner dydd ar ddydd Llun 6 Awst 2018.
Byddwn yn dewis hyd at 10 o bobl i cwrdd â ni naill ai yn Dinbych-y-Pysgod neu trwy Skype ar ddydd Mercher 15 Awst, i sgwrsio â ni ymhellach. Os na chewch eich gwahodd y tro hwn, cadwch lygad ar dudalen TEAM NTW ac edrychwch am gyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn y dyfodol yn ystod y misoedd nesaf.
© 2024 Created by National Theatre Wales. Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community