Cynhyrchiadau Leeway yn cyflwyno Sioeau Cerdd Cwta mewn partneriaeth â ‘The Other Room’ ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Yn dilyn llwyddiant eu prosiectau cyntaf mae Cynhyrchiadau Leeway yn hynod falch o gyhoeddi y bydd Sioeau Cerdd Cwta yn cael cefnogaeth gan yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â ‘The Other Room’ yr haf hwn.

-Nodwch os gwelwch yn dda bod y cyfle arbennig hwn ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig-

Mae’r datganiad cyffrous hwn o werth mawr i ni fel cwmni wrth i ni ymgeisio i annog a meithrin pobl greadigol i ysgrifennu yn y Gymraeg ar gyfer y theatr gerddorol yng Nghymru.

Dywedodd Jane Oriel am ein digwyddiad diwethaf “Mae’r wythnos o ymarferion arbrofol wedi agor cyfoeth o bosibiliadau ar gyfer theatr gerddorol newydd yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn agoriad llygaid i ddysgu bod cymaint mwy yn bosib o’r ffurf gelfyddydol a ddisgwyliais cyn lleied ohoni o’r blaen. Da iawn i bawb fu ynghlwm a disgwyliaf ymlaen at y datblygiadau nesaf”

Mae Sioeau Cerdd Gwta yn ffordd wych o rwydweithio, datblygu eich ffordd o weithio ac o edrych ar y gefnogaeth rydych ei hangen wrth ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu yn y genre hwn. Rydym yn annog cyswllt parhaol gyda phobl greadigol, ac yn credu bod y prosiect datblygiad creadigol hwn yn ffordd wych o ddechrau taflu goleuni newydd ar eich ffordd o weithio.

Lowri Cooke ar ein digwyddiad diwethaf  -“Fe aeth y pedwar cynhyrchiad â mi dros dro i fydoedd gwahanol iawn. Yr hyn gafodd ei brofi’n bendant gan bawb yn yr ystafell oedd yr awydd cynyddol i weld theatr ymylol yng Nghaerdydd - a thu hwnt - mewn ymateb i’r ymadawiadau i’r West End yn Llundain gan bobl dalentog Cymreig sydd wedi’u diflasu. Gyda’r safle perffaith - bar Porters yng nghanol y ddinas, mae’n ymddangos bod hedyn o gyffro, a doniau eithriadol yno yn barod.”

Yn galw am: Cyfansoddwyr / Dramodwyr / Libretwyr / Beirdd / Cerddorion / Ysgrifenwyr geiriau caneuon

-Rydym yn chwilio am bobl arloesol gyda’r awydd i wthio’r ffiniau a chwarae gyda dulliau.

-Rydym yn chwilio am bobl greadigol gyda’r awch i ddatblygu eu sgiliau’n barhaol.

-Mae’n rhaid i chi fod yn agored i chwarae, a bod yn fodlon arbrofi gyda dulliau newydd er mwyn datblygu’r sgiliau a fydd yn galluogi cyd-weithio ar raddfa fwy.

-Bydd rhaid i chi ymrwymo i ddyddiadau’r 3 gweithdy sydd ynghlwm â’r prosiect, fydd hefyd yn golygu rhannu gwaith yn ‘The Other Room’ ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gweithdy 1

Gorffennaf   23ain               

10:00 – 17:00    

The Other Room

Gweithdy 2

Gorffennaf 30ain

10:00 – 17:00    

The Other Room

Gweithdy 3 – sy’n cynnwys rhannu gwaith

Awst 6ed

10:00 – 18:00 

18:00 – rhannu gwaith

The Other Room

Cyfle i rhannu’r gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 10fed

16:00 – 17:00

Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

Bydd Cynyrchiadau Leeway yn darparu cefnogaeth mentora drwy gydol y broses, a chefnogi artistiaid wrth iddynt ymgymryd â thasgau a allai ymddangos yn frawychus.

Bydd cyfle i rannu eich gwaith yn ‘The Other Room’ ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru fel uchafbwynt i’r broses ac i arddangos llafur eich gwaith caled.

 

Cost: £80 yr artist

Bydd hwn yn cynnwys tri phenwythnos o fentora, templed o weithgareddau a chyfle i rannu eich gwaith yn The Other Room a’r Eisteddfod.

 

I Fynegi Diddordeb:

-Gallwch fynegi diddordeb fel artist unigol a byddwn yn edrych i’ch paru gydag artist arall,

Neu

Os ydych eisoes yn dîm ysgrifennu/cyfansoddi

-Anfonwch esiampl fer o’ch gwaith gydag CV/bywgraffiad, neu ychydig o eiriau am eich hun gan ymelaethu ar yr hyn yr hoffech gael o’r profiad yma i leewayprods@gmail.com

 

-Rhowch eich enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn fel rhan o’r ebost

 

Dyddiad Cau: Mai 26ain am 17:00

Views: 703

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service