Ydych chi’n gerddor, artist gweledol, dawnsiwr neu’n actor? Oes gennych chi syniad gwych ar gyfer prosiect celfyddydol ond heb syniad lle i ddechrau?
Mae’r Cynllun Hyfforddi Artistiaid Cymunedol yn cynnig trosolwg arfer celfyddydol cymunedol i artistiaid o bob dull celfyddydol ac yn pwysleisio pethau i’w hystyried wrth baratoi prosiectau celfyddydol wedi’u lleoli yn y gymuned. Mae’r cynllun yn cynnig y wybodaeth a’r sgiliau i artistiaid o bob oedran a phrofiad ddatblygu eich syniadau creadigol.
Wedi’i ddyfeisio gan Dimau Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Torfaen, Rhondda Cynon Taf a hefyd gan Head4Arts, sefydliad celfyddydol cymunedol o Gymoedd y De Ddwyrain, caiff yr hyfforddiant ei gyflenwi gan y tîm a nifer o siaradwyr gwadd.
Bydd y themâu dan sylw yn cynnwys: Cychwyn Allan, Cytuno’r Cytundeb, Gweithredu nid Trafod, Effaith/dilyniant a Ble Mae’r Arian!
Bydd y cwrs yn rhedeg o 10.00am - 4.00pm ar 22ain- 25ain Hydref yn Sefydliad y Glowyr, Llanhiledd. Cost y cwrs fydd £50 y person a darperir lluniaeth.
Am wybodaeth bellach neu i dderbyn ffurflen gais cysylltwch â Sarah Campbell-Horner, Swyddog Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen dros e-bost at sarah.campbell-horner@torfaen.gov.uk neu drwy ffonio 01633 628966 (8966) neu ffôn symudol 07980 682139.
Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich cais yw Dydd Llun 30ain Medi.
Os ydych chi’n meddwl efallai bod hyn o ddiddordeb i chi neu hoffech chi dderbyn gwybodaeth bellach mae croeso mawr i chi gysylltu â ni!
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community