Designer required for NTW TEAM project in Cardiff / Angen dylunydd ar gyfer prosiect TEAM NTW yng Nghaerdydd

Designer required for NTW TEAM  project in Cardiff

Various dates between 17th March and 18th May 2017 (see below for details). This is a paid role.

Location: Cardiff

National Theatre Wales TEAM is creating an original piece of work with Ocean Park Academy, a school in Splott, Cardiff.  Working with the school over two terms, we will be asking the pupils to devise their own creative piece. Taking our lead from the learners, we will apply the TEAM approach to turning their ideas into something unique.  

Designer

We are looking for a Designer to be be part of the creative team. The final production will be the result of a co-creation process involving a variety of arts practitioners including poets, musicians  and activists. The final piece is scheduled for performance on Thursday 18th May 2017.

Roles, requirements and responsibilities:

  • The Designer will be working within a school setting with young performers, so experience of working collaboratively with young people, other creatives and/or community groups is essential.

  • At least 1 years professional experience in theatre and the arts.

  • Experience of designing staging for theatre productions in non-traditional settings would be an asset.

  • An understanding of the approach and ethos of NTW TEAM would be advantageous.

  • To ensure that high production standards are maintained throughout the design, rehearsal and performance period.

  • Proactive, imaginative, adaptable, and able to collaborate with the wider creative team.

  • Adhering to NTW’s Health and Safety policies and other policies as appropriate.

  • Full UK driving licence.

  • Right to work in the UK.

FEE: Total Fee is £1000 - for the equivalent of 10 days’ work.

AVAILABILITY: Sessions at Ocean Park Academy are usually held on Fridays, but some flexibility will be required in the weeks leading up to the final performance in May.

Please apply with a current CV and a covering letter (no more than one side of A4) stating why you have the right experience and skills for the role and why you would like to work with NTW, to team@nationaltheatrewales.org along with a digital portfolio your work by Wednesday 1st March, 12:00 midday.



DATES & TIMES:

Deadline Wednesday 1 March

Interviews Tuesday 7 March

Start date Friday 17 March

We are grateful to the Arts Council of Wales for supporting this project through the Creative Collaboration fund, and are delighted to be able to demonstrate our commitment to the Creative Learning through the Arts scheme.

-----------

Angen dylunydd ar gyfer prosiect TEAM NTW yng Nghaerdydd

Dyddiadau amrywiol rhwng 17 Mawrth a 18 Mai 2017 (gweler isod am fanylion). Mae hon yn rôl â thâl.

Lleoliad: Caerdydd

Mae TEAM National Theatre Wales yn creu darn gwreiddiol o waith gyda Ocean Park Academy, ysgol yn Sblot, Caerdydd.  Gan weithio gyda'r ysgol dros ddau dymor, byddwn yn gofyn i'r disgyblion lunio eu darn creadigol eu hunain. Gan gymryd arweiniad gan y dysgwyr, byddwn yn cymhwyso dull TEAM i droi eu syniadau yn rhywbeth unigryw.  

 

Dylunydd

Rydym yn chwilio am Ddylunydd i fod yn rhan o'r tîm creadigol. Bydd y cynhyrchiad terfynol yn ganlyniad proses o gyd-greu sy'n cynnwys amrywiaeth o ymarferwyr y celfyddydau gan gynnwys beirdd, cerddorion a gweithredwyr. Bydd y darn terfynol yn cael ei berfformio ddydd Iau 18 Mai 2017.

Rolau, gofynion a chyfrifoldebau:

  • Bydd y Dylunydd yn gweithio mewn lleoliad ysgol gyda pherfformwyr ifanc, felly mae profiad o weithio ar y cyd â phobl ifanc, pobl greadigol eraill a/neu grwpiau cymunedol yn hanfodol.
  • O leiaf blwyddyn o brofiad proffesiynol yn y theatr a'r celfyddydau.
  • Byddai profiad o ddylunio llwyfannau ar gyfer cynyrchiadau theatr mewn lleoliadau anhraddodiadol yn gaffaeliad.
  • Byddai dealltwriaeth o ddull ac ethos TEAM NTW yn fanteisiol.
  • Sicrhau bod safonau cynhyrchu uchel yn cael eu cynnal drwy gydol y cyfnod dylunio, ymarfer a pherfformio.
  • Rhagweithiol, llawn dychymyg, hyblyg, ac yn gallu cydweithio â'r tîm creadigol ehangach.
  • Cadw at bolisïau Iechyd a Diogelwch NTW a pholisïau eraill fel y bo'n briodol.
  • Trwydded yrru lawn y DU.
  • Yr hawl i weithio yn y DU.

FFI: Cyfanswm y ffi yw £1000 - ar gyfer yr hyn sy'n cyfateb i 10 diwrnod o waith.

AR GAEL: Mae'r sesiynau Ocean Park Academy fel arfer yn cael eu cynnal ar ddydd Gwener, ond bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd yn yr wythnosau yn arwain at y perfformiad terfynol ym mis Mai.

Gwnewch gais gyda CV cyfredol a llythyr eglurhaol (dim mwy nag un ochr A4) yn nodi pam fod gennych y profiad a'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd a pham y byddech yn hoffi gweithio gyda NTW, i  team@nationaltheatrewales.org  ynghyd â phortffolio digidol o'ch gwaith erbyn dydd Mercher 1 Mawrth 12:00 ganol dydd.

 

DYDDIADAU & AMSEROEDD:

Dyddiad cau Dydd Mercher 1 Mawrth

Cyfweliadau Dydd Mawrth 7 Mawrth

Dyddiad cychwyn Dydd Gwener 17 Mawrth

Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi'r prosiect hwn drwy'r gronfa Cydweithio Creadigol, ac yn falch iawn o allu dangos ein hymrwymiad i'r cynllun  Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.

 

Views: 558

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service