It’s My Shout & S4C yn chwilio am Dalent Ysgrifennu Newydd!

Mae It’s My Shout Productions, mewn partneriaeth ag S4C, yn chwilio am Dalent Ysgrifennu Newydd!

Croesewir ceisiadau gan ysgrifenwyr newydd a rhai profiadol o bob oed, i fod yn rhan o gyfres It's My Shout o ffilmiau byr eleni. Caiff yr ysgrifenwyr llwyddiannus eu dewis i weithio gydag It’s My Shout ac S4C i ddatblygu sgript deg munud yr un. Bydd yr ysgrifenwyr yn cael eu mentora gan weithwyr yn y diwydiant a chânt hefyd weithdai sgriptio. Caiff y sgript ei datblygu a’i chynhyrchu cyn ei darlledu gyntaf ar S4C, yn ogystal a cael ei ddangos yn digwyddiad blynyddol It's My Shout, noson wobreuo a dangosiad cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd ym mis Tachwedd.

Dyma'r trydydd flwyddyn i It's My Shout gydweithio gyda S4C ar y gyfres o ffilmiau, ac eleni fe fydd y tîm yn gwneud y ffilmiau yng Nghaernarfon ac yn y Cymoedd. Yn y ddwy flynedd dwethaf, cafodd y ffilmiau ei datblygu gyda cymunedau Dyffryn Nantlle, Ruthin, Rhydaman, Senghenydd ac Bala. Mae cyfloedd i phobl lleol actio a gwiethio tu ol i'r camera yn y ffilmiau.

Am fwy o wybodaeth: http://www.itsmyshout.co.uk/get-involved
Dyddiad Cau: Mai 29fed 2015.

Os gwelwch yn dda gyrwch y neges yma ymlaen i ysgrifenwyr, phobl a grwpiau addas. Diolch.

(ENGLISH TRANSLATION: It's My Shout & S4C are looking for new Welsh-language writing talent, please forward this call for scripts on to any relevant writers, people or groups. Thank you.)

Views: 302

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service