Perfformiadau i’r Chwilfrydig // Performances for the Curious : Galwad am Berfformiadau Llwyfan Agored // Scratch Performance Call Out

Perfformiadau i’r Chwilfrydig: Galwad am Berfformiadau Llwyfan Agored

Yr hydref hwn, bydd Perfformiadau i’r Chwilfrydig yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru. Nod y tymor hwn yw dathlu gwahaniaeth. Mae ein rhaglen yn cynnwys gwaith gan gwmnïau lleol a rhyngwladol gan gynnwys Le Gateau Chocolat, Milk Presents a Mess up the Mess. Cadwch olwg am y gyfres gyntaf o gynyrchiadau a fydd ar werth ddiwedd mis Gorffennaf.

Mae perfformiadau llwyfan agored yn ganolog i’n rhaglen. Nod llwyfan agored yw rhannu syniad â’r cyhoedd wrth ddechrau ei ddatblygu. Pan fyddwch yn cyflwyno syniad ar lwyfan agored, fe allwch chi ofyn cwestiynau ac ystyried sylwadau pobl. Bydd hyn yn eich helpu i symud i’r cam nesaf gyda’ch syniad. Nid oes yn rhaid ichi fod wedi cael unrhyw brofiad blaenorol; yr unig beth y mae ei angen yw syniad da a'r brwdfrydedd i’w roi ar waith.

Rydyn ni wrthi'n chwilio am bobl sy’n awyddus i fynegi diddordeb mewn cyflwyno syniad, a hynny ar y thema dathlu gwahaniaeth. Bydd y perfformiadau’n digwydd yn ystod ein hwythnos o berfformiadau Llwyfan Agored rhwng 26 a 30 Tachwedd yn Stiwdio Weston.

Gall y Ganolfan gynnig:

  • Gofod ymarfer mewn ystafell drwy ei llogi ymlaen llaw.
  • Yr hawl i ddefnyddio Stiwdio Weston o 4pm ar ddiwrnod eich perfformiad, gyda’r perfformiad i ddechrau am 8pm.
  • 1 technegydd i’ch helpu yn y gofod. Nodwch: ni fyddai disgwyl ichi ddefnyddio llawer o gyfarpar technegol yn y digwyddiad hwn, os o gwbl.   
  • Byddai'r artistiaid yn cael 100% o’r arian tocynnau. Bydd hyn yn gweithio ar sail ‘Talwch yr hyn fynnwch chi’. Bydd cwsmeriaid yn archebu tocyn am ddim ac yn rhoi beth bynnag y maen nhw’n ei feddwl sy’n deilwng ar y diwedd.
  • Tudalen ar ein gwefan a sylw ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Beth ydyn ni’n disgwyl gennych chi:

  • Cynnig syniad llawn
  • Y gallu i drefnu ymarferion, cytundebau a gofynion cynhyrchu eich prosiect
  • Copi a llun ar gyfer eich prosiect ar gyfer ein gwefan a chyfryngau cymdeithasol
  • Hyrwyddo eich noson llwyfan agored drwy eich rhwydweithiau

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch gyda disgrifiad byr o’ch prosiect drwy anfon e-bost i: jenny.sturt@wmc.org.uk. Defnyddiwch PERFFORMIAD LLWYFAN AGORED fel pwnc i’r e-bost.

Y dyddiad cau: Dydd Llun 30 Gorffennaf 5pm.

Nodwch na fydd neb yn monitro’r cyfeiriad e-bost hwn rhwng 7 a 30 Gorffennaf. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn pob e-bost ar ôl y dyddiad cau a byddwch yn cael gwybod y naill ffordd neu’r llall am y canlyniad erbyn 7 Awst.

 

 

Performances for the Curious; Scratch Performance Call Out

This Autumn, Performances for the Curious returns to Wales Millennium Centre. This season is about celebrating difference. Our programme is made up of work from local and international companies including; Le Gateau Chocolat, Milk Presents and Mess up the Mess. Keep an eye out for the first wave of productions going on sale at the end of July.

Central to our programme are scratch performances. Scratch is about sharing an idea with the public at an early stage of its development. When you Scratch an idea, you can ask people questions and consider their feedback. This helps you work out how to take your idea on to the next stage. You do not have to have any previous experience, just a good idea and the passion to make it happen.

We’re currently seeking expressions of interest for ideas that explore our theme of celebrating difference and that can take place during our week of Scratch performances, 26-30 November, in the Weston Studio.

The Centre can offer;

  • Function room rehearsal space, booked in advance
  • Access to the Weston Studio from 4pm on the day of your performance with an 8pm performance start time.
  • 1 technician- to support you in the space. Please note; it would be expected that this event would require little or no technical equipment.  
  • 100% of Box office takings would be the artists. This works on a ‘Pay what you Decide’ basis. Customers book a free ticket and pop in a bucket what they think it was worth at the end.
  • A page on our website and coverage on our social media(s)

What you would offer;

  • A proposal of an idea
  • The ability to co-ordinate the rehearsals, agreements and production requirements of your project
  • Copy and an image for your project for use on our website and social media(s)
  • Promote your scratch performance evening through your networks

 

If you are interested in this opportunity, get in touch with a short description of your project, to; jenny.sturt@wmc.org.uk Please use SCRATCH PERFORMANCE as the subject title.

Deadline; Monday 30 July 5pm.

Please note; this email address will be unmonitored between 7-30 July. We will acknowledge receipt of all emails after the deadline and you will be notified either way of the outcome by 7 August.

Views: 392

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service