Join TEAM Panel for our Fourth Year!

 

This year we are looking for a group of enthusiastic people to represent National Theatre Wales (NTW) TEAM and be part of TEAM Panel for our fourth year!

 

What is TEAM Panel?

TEAM Panel feed into the overall development of NTW advising on issues such as recruitment, programming, marketing and training. Building on our achievements over the past three years the Panel places TEAM firmly at the centre of the organisation. Panel members are our representatives at events and performances, and attend meetings and give presentations on our behalf. They regularly feedback to NTW staff and Board. Meeting as a group throughout the year, we are always looking for people with a diverse range of skills, knowledge, views, experience and backgrounds.

 

Role description

Being a TEAM Panel member means that you will have a responsibility to contribute towards the future of TEAM and NTW. Panel meet up four times a year (starting from January 2016) and evaluate TEAM throughout the year, influencing the way NTW works. We would require you to attend various meetings and events on behalf of TEAM and help us in developing how we work. In return for your commitment we will provide you with training, support and help you to develop your skills in confidence and leadership.

 

 

Responsibilities

 

  • Attending four TEAM Panel meetings over a year (These are generally held on Saturdays between 11-5pm)
  • Being responsible for engaging with a particular area in Wales and finding ways to make things happen and develop more TEAM activity and support in that area
  • Attending NTW Ideas Meetings, training sessions, NTW Board meetings and representing National Theatre Wales and TEAM at performances and events
  • Organising and facilitating at least one TEAM Critical Chinwag event
  • Actively spreading the word about TEAM, being an advocate for TEAM in your area and further a field. – This includes promoting TEAM events, helping recruit new TEAM members and getting people involved in what we do.
  • Social media & Community- Help in promoting TEAM activity, reaching as many people as possible and expanding our networks

 

How to apply;

 

We would ask that you could get in touch highlighting:

  • Why you would like to be on the Panel
  • What your connection is to TEAM
  • How you would promote TEAM in your area

 

You can email us on team@nationaltheatrewales.org, chat to us in person or give us a call on 02920 353070

 

Deadline: Monday 2nd November 2015, Midday

 

If you are successful we will ask that you could prepare a pitch, and invite you to come to the NTW office the week commencing 9th November to deliver your pitch to a panel. This can be in any form you like, if you would prefer to present a video pitch, a drawing, a slide show or just tell us your thoughts then that’s fine, we want you to present to us in a way that suits you. We will send you more information when we invite you along to do this.

***********

Ymunwch â TEAM Panel ar gyfer ein Pedwaredd Flwyddyn!

 

Eleni rydym yn edrych am grŵp o bobl frwdfrydig i gynrychioli TEAM National Theatre Wales (NTW) a bod yn rhan o TEAM Panel ar gyfer ein pedwaredd flwyddyn!

 

Beth yw TEAM Panel?

Mae TEAM Panel yn bwydo i mewn i ddatblygiad cyffredinol NTW gan gynghori ar faterion fel recriwtio, rhaglennu, marchnata a hyfforddiant. Gan adeiladu ar ein cyflawniadau dros y tair blynedd diwethaf mae’r Panel yn gosod TEAM yn gadarn wrth wraidd y sefydliad. Aelodau’r panel yw ein cynrychiolwyr mewn digwyddiadau a pherfformiadau, ac maent yn mynd i gyfarfodydd a rhoi cyflwyniadau ar ein rhan. Maent yn rhoi adborth rheolaidd i staff a Bwrdd NTW. Gan gwrdd fel grŵp yn ystod y flwyddyn, rydym bob amser yn edrych am bobl ag ystod amrywiol o sgiliau, gwybodaeth, barn, profiad a chefndiroedd.

 

Disgrifiad o’r rôl

Mae bod yn aelod o TEAM Panel yn golygu y byddwch yn gyfrifol am gyfrannu at ddyfodol TEAM a NTW. Mae’r panel yn cwrdd pedair gwaith y flwyddyn (gan ddechrau ym mis Ionawr 2016) ac yn gwerthuso TEAM drwy gydol y flwyddyn, gan ddylanwadu ar y ffordd y mae NTW yn gweithio. Byddem yn gofyn i chi fynd i amrywiol gyfarfodydd a digwyddiadau ar ran TEAM a’n helpu i ddatblygu’r ffordd yr ydym yn gweithio. Yn gyfnewid am eich ymrwymiad byddwn yn rhoi hyfforddiant a chefnogaeth i chi, a’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau o ran hyder ac arweinyddiaeth.

 

 

Cyfrifoldebau

 

  • Mynd i bedwar cyfarfod TEAM Panel y flwyddyn (Cynhelir y rhain fel arfer ar ddydd Sadwrn rhwng 11-5pm)
  • Bod yn gyfrifol am ymgysylltu ag ardal arbennig yng Nghymru, a darganfod ffyrdd i wneud i bethau ddigwydd a datblygu mwy o weithgarwch a chefnogaeth TEAM yn yr ardal honno
  • Mynd i Gyfarfodydd Syniadau NTW, sesiynau hyfforddi, cyfarfodydd Bwrdd NTW a chynrychioli National Theatre Wales a TEAM mewn perfformiadau a digwyddiadau
  • Trefnu a hwyluso o leiaf un diwyddiad Critical Chinwag TEAM
  • Lledaenu’r gair am TEAM, gan fod yn eiriolwr dros TEAM yn eich ardal a thu hwnt. Bydd hyn yn cynnwys hyrwyddo digwyddiadau TEAM, helpu i recriwtio aelodau TEAM newydd a chael pobl i gymryd rhan yn yr hyn yr ydym yn ei wneud.  
  • Cyfryngau cymdeithasol a Chymuned. Helpu i hyrwyddo gweithgarwch TEAM, cyrraedd cynifer o bobl â phosibl ac ehangu ein rhwydweithiau

 

Sut i wneud cais;

 

Gofynnwn i chi gysylltu drwy nodi:

  • Pam yr hoffech fod ar y Panel
  • Beth yw eich cysylltiad â TEAM
  • Sut byddech yn hyrwyddo TEAM yn eich ardal

 

Gallwch e-bostio ar team@nationaltheatrewales.org, siarad â ni wyneb yn wyneb neu ffonio ar 02920 353070

 

Dyddiad cau: dydd Llun 2 Tachwedd 2015, Canol dydd

 

Os ydych yn llwyddiannus byddwn yn gofyn i chi baratoi cyflwyniad, a’ch gwahodd i swyddfa NTW yn ystod yr wythnos yn dechrau 9 Tachwedd i roi eich cyflwyniad i banel. Gall hwn fod ar unrhyw ffurf o’ch dewis. Os hoffech gyflwyno ar ffurf fideo, llun, sleidiau neu siarad yn unig mae hynny’n iawn, rydym am i chi gyflwyno mewn ffordd sy’n addas i chi. Byddwn yn anfon mwy o wybodaeth atoch pan fyddwch yn eich gwahodd atom ni.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Views: 567

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service