Galwad am gantorion/perfformwyr sy'n hyderus yn y Gymraeg

Y mae Cynhyrchiadau Leeway yn chwilio am 10 o berfformwyr sydd yn gallu canu, ac sydd ag awydd i fod yn rhan o'n prosiect 'Sioeau Cerdd Cwta' nesaf mewn partneriaeth a The Other Room a'r Eisteddfod Genedlaethol.

Mi fydd tal at gael at gyfer y perfformiad yn yr Eisteddfod a cyfle i fod yn rhan o'n sioeau 'Best Of' a tal ynghlwm a'r rhain hefyd.

Mi fyddwch yn rhan annatod o'r broses greadigol, yn cyd weithio gyda sgwennwyr a chyfansoddwyr i greu Sioeau Cerdd newydd ac yna yn cael y cyfle i'w perfformio yn The Other Room ac yn Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae hyn yn gyfle gwych i fod yn rhan o greu gwaith newydd yng Nghymru ac yn gyfle da i feithrin hyder pan yn ymdrin a'r cyfnod datblygu a sut i drin gwaith newydd. Mae hi hefyd yn gyfle gwych i gwrdd ag artistiaid newydd ac i rhwydweithio ymysg eich gilydd. 

Dyddiadau y brosiect at gael at waelod y dudalen.

Danfonnwch CV neu ychydig am eich hun, ac os oes modd, linc bach ohonoch yn canu i leewayprods@gmail.com

Mae hyn er mwyn neud yn siwr ein bod yn eich partneri chi gyda'r artistiaid cywir.

 

Dyddiad cau:  30 o Fehefin 2017

Dyddiadau:

Gweithdy 1

Gorffennaf 30ain

10:00 – 17:00    

The Other Room

Gweithdy 2 – sy’n cynnwys rhannu gwaith

Awst 6ed

10:00 – 18:00 

18:00 – rhannu gwaith

The Other Room

Rhannu’r gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Awst 10fed

16:00 – 17:00

Theatr y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017

Views: 381

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service