CASTING BREAKDOWN. New work from NTW and QUARANTINE.

Casting Breakdown: A new performance piece from National Theatre Wales and Quarantine

 

National Theatre Wales (NTW) is collaborating with leading UK contemporary theatre company, Quarantine, to create a new piece of performance for the NTW’s  next season.

 

The production will look at ideas related to language and migration - with a focus on the relationship between ‘voice’ and identity and the enforced learning of language as part of the immigration process.

 

The creative team will work with one professional performer to create a piece intended for touring. The piece is likely to see the team working with an interpreter and with migrants to the UK, who speak little or no English. Both companies have a wealth of experience in working with people who might not normally perform in theatre. 

 

WORKSHOP AUDITIONS will take place in Cardiff on 7th & 8th September 2017.

 

** Please let us know your availability for these dates when you suggest yourself.**  

 

If you have the relevant skills and experience and are excited about this project, please send your CV, a recent headshot and a little something about why you'd like to be involved in this project (no more than 100 words) to casting@nationaltheatrewales.org before 5pm on the 4th September

 

 

PRODUCTION DETAILS:

 

Director:  Richard Gregory

 

Research & development on the project will begin in November 2017. 

 

Rehearsals in April/May 2018 (in Cardiff) for a premiere in June 2018, prior to UK and international touring.

Wage: £570 per week rehearse and play

 

Relocation, commuting or touring allowance, if/when applicable, will be paid in line with UK Theatre / Equity Subsidised Agreement Rates for 2017-19

 

 

PERFORMER, any gender, playing age 30 – 55


We’re looking for a confident, generous, intelligent and creative with strong devising skills and the ability to work both with complex text and spontaneously in live performance, to collaborate with Quarantine’s creative team on the development and creation of this new piece and to be the sole performer in the work.  


What would be ideal is someone with a knowledge of and a passion for exploring ideas around migration and language. Someone who is as excited by the politics of the piece as by the process of creating it.


Given the subject matter of the production, performers who are fluent in both Welsh and English are preferred.  


Please note: Quarantine’s work draws upon the personal history and experience of its performers - we’re not looking for actors to play fictional characters on this project. We are keen to consider performers who come from non-traditional performance backgrounds of training and experience.


Casting Dates and NTW Casting Policy:

 

Every project is unique and NTW auditions to discover the most talented performers who connect to the company’s values and can help us to create extraordinary work. In doing so, NTW is flexible but committed in pursuit of the following priorities across each project:

  • Creating opportunities for performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
  • Casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

 

Additional needs:

 

We will strive to make any required provisions, at interview and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. To discuss how we can meet your access requirements and/or additional needs, please don’t hesitate to be in touch.

Amlinelliad castio: Darn Perfformiad Newydd oddi wrth National Theatre Wales a Quarantine

 

Mae National Theatre Wales (NTW) yn cydweithio gyda chwmni theatr cyfoes blaena’r DU, Quarantine, er mwyn creu darn newydd i’w berfformio yn ystod tymor nesaf NTW.

 

Bydd y cynhyrchiad yn ystyried syniadau yn ymwneud ag iaith a mudo - gan ganolbwyntio ar y berthynas rhwng ‘llais’ a hunaniaeth a’r orfodaeth i ddysgu iaith fel rhan o’r broses fewnfudo.

 

Bydd y tîm creadigol, yn cynnwys dramodydd, yn gweithio gydag un perfformiwr proffesiynol er mwyn creu’r darn y bwriedir y bydd iddo fynd ar daith. Mae’r darn yn debyg o weld y tîm yn gweithio gyda pherfformwyr nad ydynt yn broffesiynol; yn cynnwys lladmerydd a phobl sydd wedi mewnfudo i’r DU, sy’n siarad ychydig neu ddim Saesneg. Mae gan y naill gwmni a’r llall fôr o brofiad o ymwneud cymunedol.

 

Cynhelir GWEITHDY CLYWELIADAU yng Nghaerdydd ar 7fed a’r 8fed Medi 2017.

 

** Rhowch wybod os ydych ar gael ar y dyddiadau hyn pan fyddwch yn eich argymell eich hun.**  

 

Os oes gennych y medrau perthnasol a’r profiad, ac yn teimlo cyffro ynghylch y prosiect hwn, yna anfonwch eich CV os gwelwch yn dda, llun pen ac ysgwyddau diweddar a llinell neu ddwy ynghylch pam yr hoffech fod yn rhan o’r prosiect hwn (dim mwy na 100 gair) at casting@nationaltheatrewales.org cyn 6pm ar y 5ed Medi

 

 

MANYLION Y CYNHYRCHIAD:

 

Cyfarwyddwr:  Richard Gregory

 

Cychwynnir ar Ymchwil a Datblygiad y prosiect hwn ym mis Tachwedd 2017. 

 

Ymarferion Ebrill/Mai 2018 (yng Nghaerdydd) ar gyfer perfformiad cyntaf ym Mehefin 2018, cyn mynd ar daith yn y DU ac yn rhyngwladol.

Cyflog: £570 yr wythnos yn y cyfnod ymarfer a pherfformio’r ddrama

 

Bydd lwfans adleoli, cymudo ynteu deithio, os/pan yn berthnasol, yn cael ei dalu yn unol â Chyfraddau Sybsideiddio Cytundeb UK Theatre / Equity ar gyfer 2017-19

 

 

PERFFORMIWR, naill ryw neu’r llall, yn chwarae oedran 30 – 55


Rydym yn chwilio am unigolyn hyderus, hael, deallus a chreadigol gyda medrau dyfeisio cryf a’r gallu i weithio gyda thestun cymhleth ac yn fyrfyfyr yn ystod perfformiadau byw, a chyd-weithio gyda thîm creadigol Quarantine ar ddatblygiad a chreu’r darn newydd hwn ac i fod yn unig berfformiwr y gwaith. 


Byddai’n ddelfrydol pe buasai’r unigolyn â gwybodaeth ynghylch a diddordeb ysol mewn archwilio syniadau o gwmpas mudo ac iaith. Rhywun sy’n teimlo llawn mor gyffrous ynghylch gwleidyddiaeth y darn ac yn y broses o’i greu.


O ystyried natur y pwnc dan sylw yn y cynhyrchiad, byddai cael perfformwyr sy’n rhugl yn Gymraeg a Saesneg o fantais.  


Noder os gwelwch yn dda: Mae Quarantine yn esgor o hanes a phrofiad personol ei berfformwyr - nid ydym yn chwilio am actorion i chwarae rhannai cymeriadau ffuglen yn y prosiect hwn. Rydym yn frwd i roi ystyriaeth i berfformwyr sy’n dod o gefndiroedd perfformio nad ydynt efallai yn rai traddodiadol o ran profiad a hyfforddiant.

Dyddiadau castio a Pholisi Castio NTW:

 

Mae pob prosiect yn unigryw ac mae NTW yn cynnal clyweliadau er mwyn dod o hyd i’r perfformwyr mwyaf dawnus sy’n medru ymgorffori gwerthoedd y Cwmni, a’n cynorthwyo i greu gwaith anarferol a rhyfeddol. O wneud hynny, mae NTW yn hyblyg ond wedi ei ymrwymo ei hun i ddilyn y blaenoriaethau canlynol trwy gydol pob prosiect:

  • Creu cyfleoedd i berfformwyr o Gymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ynteu wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru.
  • Castio gyda dynesiad cynhwysol, gan hyrwyddo cyfleoedd cyfartal yn  y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru mewn ffordd ddilys.

 

Anghenion pellach:

 

Gwnawn ymdrech i sicrhau ein bod yn cyflawni unrhyw ddarpariaeth sydd ei angen, yn ystod y cyfweliad a’r gwaith, er mwyn sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i’r cyfle hwn. Er mwyn trafod sut y medrwn gyflawni eich gofynion mynediad ac/ynteu anghenion pellach, peidiwch â phetruso cyn cysylltu â ni.

Views: 1002

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service