Creative Practitioner Callout! Galwad am Ymarferwyr Creadigol! - New deadline - dyddiad cau newydd!

Ysgol Gynradd Casmael/

Puncheston Primary School

Cyfle am Ymarferwr Creadigol/

Creative Practitioner Opportunity

 

 

Mae Ysgol Casmael yn chwilio am Ymafrerwyr Creadigol sydd yn frwdfrydig i gynllunio a chreu gwagel ysgrifennu creadigol tu fewn i dir yr ysgol.  Rydym yn bwriadu ysgogi ysgrifennu creadigol sydd yn deillio o adrodd straeon ar lafar er mwyn codi safonau llythrennedd Cymraeg yn ein hysgol gwledig (4-11).

 

Adeiladwyd yr ysgol yn y 50au, erbyn hyn mae'r adeilad yn cartref i gasgliad arbennig o ddarnau amrywiol o gelf gan artistiaid Cymreig, felly mae'r adeilad yn sail naturiol i ysbydoli prosiectau celf newydd a chyffrous.  Rydym yn gobeithio cyflogi dylunydd ysgogol gyda'r profiad o adeiladu setiau mawr, yn ogystal a storiwr dawnus, gyda'r profiad o rhannu storiau mewn gweithdai sydd yn hybu'r traddodiad lafar Cymreig.

 

Fe fydd y brosiect yn cymryd lle yn ystod tymor y Gwanwyn 2018, yn dechrau ym mis Ionawr, ac yn rhedeg am 12 wythnos.  Fe fydd angen cytuno ar amserlen addas gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus.

 

Rydym yn gobeithio cyfweld ag artistiaidsydd sydd yn arbennigo mewn cynllunio ac adeiladu setiau er mwyn creu gwagle ysgogol yn ogystal a storiwyr gyda phrofiad o ysgrifennu yn creadigol ac hybu ein traddodiadau llafar.

Cyfanswm y cyllid sydd ar gael ydy £5,000 ar gyfer cynllunio a darparu'r prosiect (£250 am ddydd o waith) yn ogystal a chostau teithio a chynhaliaeth rhesymmol.  Fe fydd y cyllid ghefyd yn cynnwys yr adnoddau ar gyfer y prosiect.

Dyddiad Cau: 5y.h, dydd Llun, Tachwedd 13fed.Fe fydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ar yn yr ysgol ar ol y dyddiad cau.

Fe fydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddianus mynychu hyfforddiant dau ddiwrnod ar Tachwedd 15fed a 16fed yn Landrindod neu ar 21af a 22fed yn Abertawe (ddi-dal on gyda chostau teithio a chynhaliaeth rhesymmol).  Am fwy o fanylion am y gyfle yma neu i gofrestru eich diddordeb, anfonwch eich CV at ein Asiant Creadigol: naomichiffi@nationaltheatrewales.org a Chydlynydd yr Ysgol: head.puncheston@pembrokeshire.gov.uk

Views: 178

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service