Youth Arts Lead

P/T, 18.5 hours per week

Maternity Cover

Fixed term contract from 1st May 2018 to 31 January 2019 or return of postholder

£28,774.77 pro rata

£14,387.39 actual

Are you passionate about youth arts and drama and engaging young people from diverse backgrounds? Are you committed to making sure all young people are able to participate regardless of the particular barriers they may face? Can you lead a small team delivering regular workshops in Ammanford and Brynaman and outreach work across South Wales.

Mess Up The Mess have been working with the hardest to reach young people in our communities since 2007. Our vision is to make “awkward and brave theatre, by, for and with young people.”

We’re looking for an experienced youth arts worker with a drama or performing arts background to deliver sessions and lead and mentor the creative delivery team whilst our Artistic Director takes maternity leave. This will include 3 local weekly drama workshops and sessions, and projects with partner youth groups as part of our Big Lottery Funded Well Iawn project. Experience of engaging hard to reach and disadvantaged young people and knowledge of how drama and the arts can improve individual young people’s wellbeing is essential for this role.

This post has been funded by BBC Children in Need.

Applicants who are interested in applying must respond with an application form that clearly states how you meet the post's person specification. CVs will not be accepted.

 

Download an application pack from the website: http://www.messupthemess.co.uk Or e-mail info@messupthemess.co.uk or call 01269 591 167 for an information pack and application form.

Closing date for applications:

Wednesday 7th March 2018, 1.00 pm

Selection Day: Thursday 22nd March 2018. Selection will include an interview during the day and a leading a practical workshop session in the evening.

Candidates invited for interview will be notified by telephone.  If you have not heard from us in 2 weeks please assume your application has been unsuccessful.

Please note that this post is exempt from the Rehabilitation of Offenders Act and an enhanced DBS disclosure, including a check against the Children’s barred list, will be made before the successful candidate can be confirmed in post.

Arweinydd Celfyddydau Ieuenctid

Rh/A, 18.5 awr yr wythnos

Cyfnod Mamolaeth

Cytundeb cyfnod penodol o 1 Mai 2018 tan 31 Ionawr 2019 neu ddychweliad deiliad y swydd

£28,774.77 pro rata

£14,387.39 mewn gwirionedd

Ydych chi’n frwdfrydig iawn ynghylch celfyddydau ieuenctid a drama ac ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd amrywiol? Ydych chi wedi ymrwymo i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn gallu cymryd rhan, waeth pa rwystrau unigol maen nhw’n eu hwynebu? Allwch chi arwain tîm bach, gan ddarparu gweithdai rheolaidd yn Rhydaman a Brynaman a gwaith allgymorth ar draws De Cymru?

Mae Mess Up The Mess wedi bod yn gweithio gyda’r bobl ifanc anoddaf eu cyrraedd  yn ein cymunedau, ers 2007. Ein gweledigaeth yw gwneud “theatr letchwith a dewr, gan bobl ifanc, ar eu cyfer a gyda nhw.”

Rydyn ni’n chwilio am weithiwr celfyddydau ieuenctid profiadol sydd â chefndir mewn drama neu’r celfyddydau perfformio, i ddarparu sesiynau ac i arwain a mentora’r tîm cyflawni creadigol tra bod ein Cyfarwyddwr Artistig ar gyfnod mamolaeth. Bydd hyn yn cynnwys 3 gweithdy a sesiwn ddrama wythnosol yn lleol, a phrosiectau gyda grwpiau ieuenctid partner fel rhan o’n prosiect Well Iawn a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr. Mae profiad o ymgysylltu â phobl ifanc anodd eu cyrraedd a phobl ifanc dan anfantais, ynghyd â gwybodaeth o’r modd y mae drama a’r celfyddydau’n gallu gwella llesiant pobl ifanc unigol, yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Ariannwyd y swydd hon gan BBC Plant Mewn Angen.

Rhaid i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymgeisio ymateb gyda ffurflen gais sy’n nodi’n glir sut yr ydych yn bodloni disgrifiad person y swydd. Ni dderbynnir CVs.

 

Lawrlwythwch becyn cais oddi ar y wefan: http://www.messupthemess.co.uk neu e-bostiwch info@messupthemess.co.uk neu ffoniwch 01269 591 167 am becyn gwybodaeth a ffurflen gais.

 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau:

Dydd Mercher 7 Mawrth 2018, 1.00yp

 

Diwrnod Dethol: Dydd Iau 22 Mawrth 2018. Bydd y broses ddethol yn cynnwys cyfweliad yn ystod y dydd ac arwain sesiwn gweithdy ymarferol gyda’r hwyr.

Bydd unrhyw ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad yn cael gwybod dros y ffôn.  Os nad ydych wedi clywed wrthym ymhen pythefnos, dylech gymryd na fu’ch cais yn llwyddiannus.

Sylwer bod y swydd hon wedi’i heithrio rhag y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac y gwneir datgeliad uwch gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan gynnwys gwiriad yn erbyn y rhestr o bobl sydd wedi’u gwahardd rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc, cyn y gellir cadarnhau’r ymgeisydd llwyddiannus yn ei swydd.

Views: 284

Comments are closed for this blog post

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service