Cyfle Gwych ar gyfer Lleoliad gyda NTW!

Mae TEAM NTW yn cynnig cyfle ar gyfer lleoliad cynhyrchiad ar 'English', cyd-gynhyrchiad NTW gyda Quarantine, a fydd yn cael ei berfformio fel rhan o 'Ŵyl y Llais.' 

Mae hwn yn lleoliad wythnos o hyd, gyda chyfle ar gael yn un o'r adrannau canlynol:

  • Rheoli Llwyfan - mae'r rôl hon yn gofalu am y propiau, yr actorion a'r defnydd o'r llwyfan. Mae’n darparu cymorth ymarferol i'r cyfarwyddwr.
  • Adran Dechnegol - mae'r adran hon yn gofalu am agweddau Goleuo, Sain a Digidol y cynhyrchiad
  • Rheoli’r Cynhyrchiad - mae'r rôl hon yn goruchwylio'r cynhyrchiad o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys y gyllideb, adeiladu set, yr amserlen ac asesu risg y sioe.

Mae hyn yn agored i unrhyw un 18+ oed sy’n angerddol dros y celfyddydau ond heb unrhyw brofiad proffesiynol hyd yn hyn.

Mae'r cyfle hwn ar gyfer unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd, neu rywun sy'n gallu ymrwymo i fod yng Nghaerdydd am y lleoliad o wythnos. Byddwn yn cynnig hyd at £10 y dydd ar gyfer teithio a chynhaliaeth, ar ôl derbyn derbynebau.

 

Dyddiadau: 11eg - 16eg Mehefin 2018. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau ac amserau a restrir isod.

Dydd Llun 11eg 10am - 6pm

Dydd Mawrth 12fed 10am - 6pm

Dydd Mercher 13eg 2pm - 9pm

Dydd Iau 14eg 1pm - 9pm

Dydd Gwener 16eg 2pm - 9pm

Dydd Sadwrn 17eg 2pm - 9pm

Safle’r lleoliad yw Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Pierhead Street, Bae Caerdydd.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost atom gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Paragraff byr amdanoch chi'ch hun,
  • Yr adran yr hoffech gael eich rhoi ynddi, a pham,
  • Paragraff yn rhoi gwybod inni beth rydych chi'n gobeithio ei gael o'r lleoliad hwn,
  • Paragraff ynghylch sut y byddai'r profiad yn helpu eich gyrfa yn y dyfodol.

 

Anfonwch yr e-bost hwn at team@nationaltheatrewales.org erbyn hanner dydd ar ddydd Llun 9 Ebrill 2018. 

Byddwn yn dewis hyd at 10 o bobl i ddod i'n swyddfa yng Nghaerdydd ddydd Mawrth 24 Ebrill, i sgwrsio â ni ymhellach. Os na chewch eich gwahodd y tro hwn, cadwch lygad ar dudalen TEAM NTW ac edrychwch am gyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn y dyfodol yn ystod y misoedd nesaf.

 

Views: 179

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service