Cyfle Gwych ar gyfer Lleoliad gyda NTW TEAM - Dyddiad Cau Newydd!

Mae TEAM NTW yn cynnig cyfle ar gyfer lleoliad cynhyrchiad ar 'NHS70', gŵyl Cymru gyfan NTW, sy'n dathlu gwaith y GIG. Enw’r elfen hon o'r ŵyl yw 'NHS70: Peggy’s Song', ac mae’n cael ei chynnal yn Wrecsam.

 

Mae hwn yn lleoliad wythnos o hyd, gyda chyfle ar gael yn un o'r adrannau canlynol:

  • Rheoli Llwyfan - mae'r rôl hon yn gofalu am y propiau, yr actorion a'r defnydd o'r llwyfan. Mae’n darparu cymorth ymarferol i'r cyfarwyddwr.
  • Adran Dechnegol - mae'r adran hon yn gofalu am agweddau Goleuo, Sain a Digidol y cynhyrchiad
  • Rheoli’r Cynhyrchiad - mae'r rôl hon yn goruchwylio'r cynhyrchiad o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys y gyllideb, adeiladu set, yr amserlen ac asesu risg y sioe.
  • Rheoli Blaen Tŷ - mae'r rôl hon yn gofalu am y gynulleidfa a'u profiad

 

Mae hyn yn agored i unrhyw aelod TEAM 18+ oed sy’n angerddol dros y celfyddydau ond heb unrhyw brofiad proffesiynol hyd yn hyn.

 

Mae'r cyfle hwn ar gyfer unrhyw un sy'n byw yn Wrecsam, neu rywun sy'n gallu ymrwymo i fod yn Wrecsam am y lleoliad o wythnos. Byddwn yn cynnig hyd at £10 y dydd ar gyfer teithio a chynhaliaeth, ar ôl derbyn derbynebau.

 

Dyddiadau: 2il – 7fed Mehefin 2018. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau ac amserau a restrir isod.

Dydd Llun 2il    10am - 6pm

Dydd Mawrth 3ydd 10am - 6pm

Dydd Mercher 4ydd 2pm - 10pm

Dydd Iau 5ed         2pm - 10pm

Dydd Gwener 6fed   2pm - 10pm

Dydd Sadwrn 7fed   2pm - 10pm

 

Safle’r lleoliad yw Undegun, Regent Street, Wrecsam.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost atom gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Paragraff byr amdanoch chi'ch hun,
  • Yr adran yr hoffech gael eich rhoi ynddi, a pham,
  • Paragraff yn rhoi gwybod inni beth rydych chi'n gobeithio ei gael o'r lleoliad hwn,
  • Paragraff ynghylch sut y byddai'r profiad yn helpu eich gyrfa yn y dyfodol.

 

Anfonwch yr e-bost hwn at team@nationaltheatrewales.org erbyn hanner dydd ar ddydd Gwener 15 Mehefin 2018.

 

Byddwn yn dewis hyd at 10 o bobl i sgwrsio â ni ymhellach. Os na chewch eich gwahodd y tro hwn, cadwch lygad ar dudalen TEAM NTW ac edrychwch am gyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn y dyfodol yn ystod y misoedd nesaf.

 

Views: 164

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service