Temporary Youth Arts Officer (Maternity Cover)

Temporary Youth Arts Officer (Maternity Cover)

Full Time, 37 hours per week

Fixed Term contract to June 2019 or return of the postholder

£23,120.23 per annum

Are you passionate about youth arts and drama and engaging young people from diverse backgrounds? Are you committed to making sure all young people are able to participate regardless of the particular barriers they may face?

 

We’re looking for an experienced youth arts professional to play a key role in our Well Iawn programme while our Youth Arts Officer takes maternity leave.

 

Well Iawn is a 3 year project, funded by the Big Lottery Fund, which uses drama and arts activities to support the wellbeing of young people. Well Iawn takes a holistic view of wellbeing, looking at factors including environment and community as well as physical and emotional wellbeing. Working with our regular groups in Ammanford and Brynaman, and with disadvantaged young people from across South Wales, you’ll need lots of enthusiasm and initiative to fulfil the 2 aspects of the role:

 

  • Delivery – creating and delivering drama and creative wellbeing activities to young people
  • Project Management and Co-Ordination – identifying potential youth groups who could benefit from the project and planning, organising and arranging programmes of creative wellbeing activities with them.

 

For further information, download an application pack from the website: http://www.messupthemess.co.uk, email info@messupthemess.co.uk, or call 01269 591 167.

 

Applicants must respond with an application form that clearly states how you meet the post’s person specification. CVs will not be accepted.

 

Closing date: Monday 2nd July 2018, 10.00 am

 

Selection Day: Thursday 19th July 2018

 

This post has been funded by Big Lottery Fund.

 

Please note that this post is exempt from the Rehabilitation of Offenders Act and an enhanced DBS disclosure, including a check against the Children’s barred list, will be made before the successful candidate can be confirmed in post.

Swyddog Celfyddydau Ieuenctid Dros Dro (Cyfnod Mamolaeth)

Llawn-amser, 37 awr yr wythnos

Contract Cyfnod Penodol hyd nes mis Mehefin 2019

neu hyd nes i ddeiliad y swydd ddychwelyd

£23,120.23 y flwyddyn

Wyt ti’n teimlo i’r byw ynghylch celfyddydau ieuenctid a drama ac ymgysylltu â phobl ifanc o amrywiol gefndiroedd? Wyt ti wedi ymrwymo i sicrhau bod pob unigolyn ifanc yn gallu cymryd rhan, waeth pa rwystrau mae’n eu hwynebu?

 

Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol, profiadol, ym maes celfyddydau ieuenctid i chwarae rhan allweddol yn ein rhaglen Well Iawn tra bod ein Swyddog Celfyddydau Ieuenctid i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth.

 

Prosiect 3 blynedd a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr yw Well Iawn, ac mae’n defnyddio gweithgareddau drama a’r celfyddydau i gefnogi llesiant pobl ifanc. Mae Well Iawn yn edrych ar lesiant mewn ffordd holistaidd, gan edrych ar ffactorau sy’n cynnwys yr amgylchedd a’r gymuned yn ogystal â lles corfforol a emosiynol. Byddi di’n gweithio gyda’n grwpiau rheolaidd yn Rhydaman a Brynaman, a gyda phobl ifanc dan anfantais o bob rhan o Dde Cymru, a bydd arnat angen digonedd o frwdfrydedd a mentergarwch i gyflawni’r 2 elfen sy’n gysylltiedig â’r rôl:

 

  • Cyflwyno – creu a chyflwyno gweithgareddau llesiant creadigol a drama ar gyfer pobl ifanc
  • Rheoli a Chydlynu’r Prosiect – adnabod grwpiau ieuenctid posibl a allai elwa o’r prosiect a chynllunio a threfnu rhaglenni o weithgareddau llesiant creadigol gyda nhw.

 

Am wybodaeth bellach, lawrlwytha becyn cais oddi ar y wefan: http://www.messupthemess.co.uk, e-bostia info@messupthemess.co.uk, neu ffonia 01269 591 167.

 

Rhaid i ymgeiswyr ymateb gyda ffurflen gais sy’n nodi’n glir sut y maent yn bodloni disgrifiad person y swydd. Ni dderbynnir CVs.

 

Dyddiad cau: Dydd Llun 2 Gorffennaf 2018, 10.00yb

 

Diwrnod Dethol: Dydd Iau 19 Gorffennaf 2018

 

Ariennir y swydd hon gan y Gronfa Loteri Fawr.

 

Sylwer bod y swydd hon wedi’i heithrio rhag y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac y byddwn yn gofyn am ddatgeliad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, gan gynnwys gwirio yn erbyn y rhestr o bobl sydd wedi’u gwahardd rhag gweithio gyda phlant, cyn cadarnhau’r ymgeisydd llwyddiannus yn y swydd.

Views: 230

Comments are closed for this blog post

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service