Technegydd Teithio Yn Eisiau! / Tour Technician Wanted!

Please scroll down for English version

Technegydd Teithio Yn Eisiau

 (cyfnod penodol tymor yr hydref, misoedd Hydref – Rhagfyr 2018)

Cwmni ballet proffesiynol yw Ballet Cymru, sydd â’i ganolfan yng Nghasnewydd, De Cymru, ac sy’n mynd â chynyrchiadau dihafal a chydnaws ar daith i oedfannau drwy hyd a lled gwledydd Prydain bob blwyddyn.

 

Y Rôl

Mae Ballet Cymru ar drywydd Technegydd brwdfrydig, hyblyg a dibynadwy i ymuno â thîm o un neu ddau dechnegydd a’r Rheolwr Technegol ar daith hydref y Cwmni. Bydd y Rôl yn cynnwys rhoi help llaw i wneud y get-in a’r get-out, gan gynnwys llwytho a dadlwytho fan deithio, ac o bryd i’w gilydd bod yn gyfrifol am osod cefnlenni a’r llenni ystlys a rhoi cyfarwyddiadau i’r criw lleol.

 

Rhaid i’r ymgeiswyr ddangos peth gwybodaeth mewn unrhyw un o’r meysydd canlynol: gosod a ffocysu goleuadau, Q- Lab (Sain), taflunio a meddalwedd Isadora. Bydd y Technegydd yn rhannu rheoli’r sioe naill ai ar y goleuadau neu Q-lab â’r technegwyr eraill, a phan na fydd yn rheoli bod ar lefel y llwyfan, i roi cliriad i’r dawnswyr.

 

Bydd gofyn i’r Technegydd hefyd rannu gyrru fan hur yn ystod y daith, felly rhaid i ymgeiswyr am y rôl yma fod yn 21 oed neu’n hŷn, a chanddyn nhw drwydded yrru lân ers o leiaf tair blynedd.  Y cwmni fydd yn talu treuliau teithio a llety dros nos yn ôl y gofyn ar gyfer y rhaglen deithio.

 

Cadwir y cerbydau, yr eitemau a’r offer teithio yng nghanolfan y cwmni yng Nghasnewydd rhwng cyfnodau teithio, felly’n ddelfrydol yn Ne Cymru neu Fryste y bydd cartref y person i’r rôl yma.

Bydd Ballet Cymru yn mynd â dau gynhyrchiad ar daith drwy hyd a lled gwledydd Prydain yn yr hydref, ac er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl yma bydd gofyn i chi fod ar gael 1 Hydref - 12 Rhagfyr 2018. Rhestrir dyddiadau sioeau’r Cwmni yma:  http://welshballet.co.uk/whats-on/tour-dates

 

Cyflog £450 yr wythnos, cytundeb cyfnod penodol.

 

I wneud cais, anfonwch eich CV a manylion eich profiad perthnasol at Darius James, Cyfarwyddwr Artistig, Ballet Cymru dariusjames@welshballet.co.uk

 

Cynhelir y cyfweliadau ddechrau mis Medi yng Nghasnewydd, De Cymru.

Cofiwch: dim ond at ymgeiswyr a ddetholwyd i gael cyfweliad y byddwn yn anfon ateb.

Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal

Elusen Rhif 1000855

www.welshballet.co.uk

Tour Technician Wanted
(fixed term autumn season October - December 2018)


Ballet Cymru is an award-winning professional ballet company based in Newport, South Wales, touring unique and accessible productions in venues across the UK each year.

The Role

Ballet Cymru is looking for an enthusiastic, adaptable and reliable Technician to join a team of 1-2 technicians and Technical Manager for the Company’s autumn tour. The Role will include helping with get ins and outs, including loading and unloading the tour van, and occasionally be responsible for putting up backdrops and legs and giving instruction to local crew.

Applicants must demonstrate some knowledge in any of the following: lighting set up and focusing, Q- Lab (Sound), projection and Isadora software. The Technician will share the operating of the show either on lighting or Q-lab with the other technicians, and when not operating be on stage level, to give clearance to the dancers.

The Technician will also be required to share the driving of a hired van during touring, so applicants for this role must be 21 years old or older, and have held a clean driving license for at least 3 years. Travel costs and overnight accommodation as required for the touring schedule will be paid for by the company.

The tour vehicles, touring items & equipment will be kept at the company’s base in Newport between touring periods, so ideally the person for this role will be located in South Wales or Bristol.
Ballet Cymru will be touring two productions across the UK in the autumn, and to be considered for this role you will need to be available 1 October – 12 December 2018. The Company show dates are listed here: http://welshballet.co.uk/whats-on/tour-dates

Salary £450 p/w, fixed term contract.

To apply, please send your CV and details of relevant experience to Darius James, Artistic Director, Ballet Cymru dariusjames@welshballet.co.uk

Interviews will take place in early September in Newport, South Wales.

Please note we will only respond to applicants who have been selected for interview.

Ballet Cymru is an Equal Opportunities Employer

Charity No. 100085
www.welshballet.co.uk

Views: 151

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service