Rydym yn falch iawn i'w gynnig tocynnau am ddim i aelodau TEAM i'r rhagolwg 'Tide Whisperer' sioe newydd National Theatre Wales.
Profiad ymdrochol wedi’i ysgrifennu gan y bardd a dramodydd Louise Wallwein, mi fydd Tide Whisperer yn mynd i’r afael â’r ffenomen byd-eang o ddadleoli a symudiadau torfol. Mae niferoedd uwch nag erioed yn symud ar draws y byd. Sut beth yw gadael eich cartref, i fyw gyda’r ansicrwydd efallai na fyddwch byth yn dod o hyd i un arall?
Mae The Tide Whisperer yn llawn straeon, yn fythol yn nomad, wedi teithio i’r cefnforoedd ac wedi cael ei gludo gan y llanw i lannau newydd braf. Ar lannau Dinbych-y-pysgod, mae’r gynulleidfa yn casglu. Mae’r llanw yn troi’n gyflym ac mae storm yn dod. Mae’r dyfodol yn teimlo’n ansicr – mae dynoliaeth yn symud ac yn ceisio lloches. A fyddwn yn wynebu caredigrwydd neu’n cael ei gwrthod; yn cael cynnig lle diogel neu’n gorfod goroesi ar y môr peryglus, brawychus?
Fydd y TEAM Social yn digwydd yn Pafiliwn De Valence, 6.30pm ar Dydd Mercher 12 Medi.
Fydd tocynnau am aelodau TEAM ac mae'r niferoedd yn gyfyngedig felly cystylltwch â ni yn fuan!
Os hoffech chi ymuno gyda ni at y sioe wych yma, ac am rhagor o wybodaeth, anfonwch ebost at team@nationaltheatrewales.org
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community