Some Thoughts and Reflections / Ychydig o feddyliau a myfyrdodau

To lead any theatre company is a huge privilege.  To lead a national company like National Theatre Wales (NTW), which endeavours to reflect the aspirations and desires of its diverse peoples, is to take on a privilege that comes with added challenges and expectations. I certainly take my responsibilities as Artistic Director of NTW very seriously, not least because someone like me - a working class woman of colour - doesn’t get these opportunities very readily or very often. Some might say I’ve overstepped the mark but, like NTW, I’ve not always done what was expected.   The company and I share a healthy desire to interrogate the nature of what we do and the ways in which we do it.

From the very beginning, NTW has sought to explore what theatre is and can be. We are a theatre company with no building, so we make work in all sorts of places, with all sorts of people for all sorts of audiences.  I cherish that responsibility and understand the vital role we play in supporting and developing the ecology of theatre in Wales.   We achieve this, not only through the major shows we make but also by acting as a catalyst for change, a place for conversation and a safe environment for theatre-makers to play with ideas and engage with communities. 

Throughout my career I have fought for the artistic rights of the many, not just the few.  I have created opportunities for artists to make the best work they can and I have made connections with audiences and communities who see theatre as something not for them. The impact of some of my decisions may not be visible to all, but there are many artists, in Wales and beyond, for whom the route into the arts hasn’t been straightforward.  Often, there has been someone like me (or an organisation like NTW) opening a door that would otherwise have remained firmly shut. Perhaps we don’t shout about those things loudly enough but if we want to truly expand access to the arts we need to address and challenge some long held beliefs and assumptions. This is something for which I will continue to strive and which lies at the heart of the NTW’s core values, as demonstrated by the extraordinary members of TEAM.

The recent correspondence with our Chairman raises some deep rooted and historic questions about the role of a national theatre which, as we head towards the 10th anniversary of our artistic programme, are in the forefront of all of our minds.   What is the role of a national theatre in the civic life of its nation?  How do we play our part in this unique cultural landscape?  And, as the world shifts on its axis, what is the role of the arts in our society?  How do we try and connect? What stories do we want to tell and who should tell them?

New work has been at the heart of the company’s vision since its inception and that focus has not changed. New writing has been and is an important strand in our portfolio of artistic activity. However, a core part of our work has also been to nurture and support all artists. We remain committed to working with a diverse range of theatre practitioners – actors, singers, dancers, directors, designers, choreographers, writers, technicians and stage managers, who seek to explore, in different ways how theatre is made, where it is made, with and for whom it is made.  Our desire is to strengthen the artistic voice of Wales and help create a more ambitious and dynamic independent arts sector across the country. We may not always get it right and we can’t do everything for everyone, but our task is to continue to push the boundaries of artistic expression, be responsive, adventurous and open to bold ideas, balancing risk with pragmatism.

Culture is an organic thing – it needs nurturing to multiply and grow, adapt and change. As artists we are curious, learning from each other, seeking out different experiences and navigating new thoughts, ideas and creative expression to leave a mark in some way.  Theatre is no different. To follow one singular narrative about what theatre is, is to close down ideas and contain the imagination; to build walls around our diverse forms of expression. To assume theatre, as understood by some, can and does only occur in black boxes or behind closed doors for the select few is to limit its potency and reach.

The status quo is sometimes hard to shift. I have often been told that what I am trying to do is impossible, irrelevant or unacceptable.  Interrogating and challenging existing models and approaches is neither easy nor without risk but it is crucial if our arts are to thrive.   NTW exists to create radical and innovative theatre – we make no apology for that.

Theatre is made through collective experience, by artists in conversation with spectators, those who bear witness to the experience.  It may be a play, with the writer being the primary creator of the work and the director its primary interpreter, but that is just one strand of how the rich tapestry of theatre is made, shaped and shared. The growth of site-located work, immersive theatre, verbatim theatre, gig theatre, devised practice and festivals suggest that there is a hunger for, and a desire to participate in, theatre in many different ways. These are not in opposition to more traditional forms but are part of a broader canvas through which we can tell the stories that need to be told and contribute to a thriving cultural landscape.

NTW has always been about questioning the role of theatre and its relationship to audiences in contemporary Wales. That model is not traditional and will inevitably be supported by some and rejected by others.  That healthy tension provokes conversation which we are happy to have with as many people as possible. I believe passionately that our existence as a national theatre requires us to be bold and that the understandable urge to protect the rich and unique culture of Wales should not channel us towards becoming introspective and inward facing.  I want the theatre we all create to be forged by a rich, complex and confident Wales; emboldened to engage with and foster new artistic partnerships.

In 2020 NTW reaches a milestone – its 10th birthday. As part of our planning process we are inevitably already asking: What next? Where next? Who are we now? What are the challenges and opportunities for artists and audiences alike.

Recent dialogue with some within the arts sector has already highlighted differing ideas of what NTW should be. I suspect there are as many versions of what NTW is or should be, as there are artists and audiences in Wales. We will be talking with many of you over the coming months to help us shape our thinking. In the meantime, what is already clear is that a bigger conversation, beyond NTW, is necessary about the needs, wants, and ambitions of the artistic sector in Wales.  As austerity bites and political and social divisions grow, we must collectively navigate the best way forward and face the challenges ahead. I hope we can all engage with kindness and generosity at a time when rage and division appear to dominate so much of the world.

Kully Thiarai
Artistic Director
National Theatre Wales

-----

Mae arwain unrhyw gwmni theatr yn fraint enfawr.  Mae arwain cwmni cenedlaethol fel National Theatre Wales (NTW),  sy'n ymdrechu i adlewyrchu dyheadau a dymuniadau ei bobloedd amrywiol, yn golygu derbyn braint sy'n cynnwys heriau a disgwyliadau ychwanegol. Yn sicr rwy'n cymryd fy nghyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Artistig NTW o ddifrif, yn bennaf oherwydd nad yw rhywun fel fi - menyw dosbarth gweithiol groendywyll - yn cael y cyfleoedd hyn yn rhwydd iawn nac yn aml iawn. Efallai bydd rhai yn dweud fy mod wedi mynd yn rhy bell, ond fel NTW, dydw i ddim bob tro wedi gwneud yr hyn a ddisgwylid gennyf.   Mae'r cwmni a minnau yn rhannu awydd iach i chwilio natur yr hyn a wnawn a'r ffordd yr ydym yn ei wneud.

O'r dechrau'n deg, mae NTW wedi ceisio archwilio yr hyn yw theatr a'r hyn y gall fod. Rydym yn gwmni theatr heb adeilad, felly rydym yn gwneud gwaith ym mhob math o leoedd, gyda phob math o bobl i bob math o gynulleidfaoedd.  Rwy'n trysori'r cyfrifoldeb hwnnw ac yn deall y rôl hanfodol yr ydym yn ei chwarae wrth gefnogi a datblygu ecoleg theatr yng Nghymru.   Rydym yn cyflawni hyn, nid drwy'r sioeau mawr a wnawn yn unig ond hefyd drwy weithredu fel catalydd ar gyfer newid, lle ar gyfer sgwrs ac amgylchedd diogel i wneuthurwyr theatr chwarae gyda syniadau ac ymgysylltu â chymunedau. 

Drwy gydol fy ngyrfa rwyf wedi ymladd dros hawliau artistig y lliaws, nid yr ychydig.  Rwyf wedi creu cyfleoedd i artistiaid wneud y gwaith gorau y gallant, ac rwyf wedi gwneud cysylltiadau gyda chynulleidfaoedd a chymunedau sy'n gweld theatr fel rhywbeth nad yw ar eu cyfer hwy. Efallai na fydd effaith rhai o'm penderfyniadau yn weladwy i bawb, ond ceir llawer o artistiaid, yng Nghymru a thu hwnt, nad yw'r llwybr i mewn i'r celfyddydau wedi bod yn syml iddynt.  Yn aml, bu rhywun fel fi (neu sefydliad fel NTW) yn agor drws y byddai fel arall yn sicr wedi aros ar gau. Efallai nad ydym yn gweiddi'n ddigon uchel am y pethau hynny ond os ydym wir am ehangu mynediad i'r celfyddydau mae angen i ni fynd i'r afael â rhai credoau a rhagdybiaethau hirsefydlog a'u herio. Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i anelu ato ac sydd wrth wraidd gwerthoedd craidd NTW, fel y dangosir gan aelodau anhygoel TEAM.

Mae'r ohebiaeth ddiweddar gyda'n Cadeirydd yn codi rhai cwestiynau dwfn a hanesyddol am rôl theatr genedlaethol , sydd, wrth i ni ddynesu at 10fed pen-blwydd ein rhaglen artistig, yn flaenllaw yn ein meddyliau ni i gyd.  Beth yw rôl theatr genedlaethol ym mywyd dinesig ei chenedl?  Sut ydym ni'n chwarae ein rhan yn y dirwedd ddiwylliannol unigryw hon?  Ac, wrth i'r byd droi ar ei echel, beth yw rôl y celfyddydau yn ein cymdeithas?  Sut y gallwn geisio cysylltu? Pa straeon ydym am eu hadrodd a phwy ddylai wneud hynny?

Mae gwaith newydd wedi bod wrth wraidd gweledigaeth y cwmni ers ei sefydlu, ac nid yw'r ffocws hwnnw wedi newid. Mae ysgrifennu newydd wedi bod yn elfen bwysig yn ein portffolio o weithgarwch artistig, ac mae hynny'n parhau. Fodd bynnag, rhan graidd o'n gwaith hefyd fu meithrin a chefnogi pob artist. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i weithio gydag ystod amrywiol o ymarferwyr theatr – actorion, cantorion, dawnswyr, cyfarwyddwyr, dylunwyr, coreograffwyr, awduron, technegwyr a rheolwyr llwyfan, sy'n ceisio archwilio, mewn gwahanol ffyrdd sut mae theatr yn cael ei gwneud, lle y'i gwneir, a gyda phwy ac i bwy y'i gwneir.  Ein dymuniad yw cryfhau llais artistig Cymru a helpu i greu sector celfyddydau annibynnol mwy uchelgeisiol a deinamig ledled y wlad. Efallai na fyddwn yn llwyddo bob tro ac ni allwn wneud popeth i bawb, ond ein tasg ni yw parhau i wthio ffiniau mynegiant artistig, bod yn ymatebol, yn anturus ac yn agored i syniadau beiddgar, gan gydbwyso risg a phragmatiaeth.

Mae diwylliant yn beth organig – mae angen ei feithrin er mwyn iddo amlhau a thyfu, addasu a newid. Fel artistiaid rydym yn chwilfrydig, yn dysgu gan ei gilydd, yn chwilio am brofiadau gwahanol a llywio meddyliau, syniadau a mynegiant creadigol er mwyn gadael marc mewn rhyw ffordd.  Nid yw theatr yn wahanol. Mae dilyn un naratif neilltuol ynghylch yr hyn yw theatr, yn golygu cau syniadau i lawr a chyfyngu'r dychymyg, ac adeiladu waliau o amgylch ein hamrywiol ffurfiau ar fynegiant. Mae tybio bod theatr, fel y mae rhai yn ei deall, yn digwydd dim ond mewn blychau du neu tu ôl i ddrysau caeedig ar gyfer yr ychydig ddethol yn cyfyngu ar ei heffaith a'i hapêl.

Mae'r status quo weithiau yn anodd ei newid. Dywedwyd wrthyf yn aml bod yr hyn yr wyf yn ceisio'i wneud yn amhosibl, yn amherthnasol neu'n annerbyniol.  Nid yw archwilio a herio modelau a dulliau presennol yn hawdd nac heb risg ond mae'n hanfodol gwneud hynny er mwyn i’n celfyddydau ffynnu.   Mae NTW yn bodoli i greu theatr arloesol a radical – nid ydym yn ymddiheuro am hynny.

 

Gwneir theatr drwy brofiad ar y cyd, gan artistiaid yn sgwrsio gyda gwylwyr, y rhai sy'n dystion i'r profiad.  Gallai fod yn ddrama, gyda'r awdur fel crëwr sylfaenol y gwaith a'r cyfarwyddwr fel ei brif ddehonglydd, ond un agwedd yn unig yw hynny ar sut mae tapestri cyfoethog y theatr yn cael ei wneud, ei lunio a'i rannu. Mae twf gwaith wedi'i leoli ar safle, theatr ymdrochol, theatr verbatim, theatr gigiau, arfer dyfeisiedig a gwyliau yn awgrymu bod awydd ar gyfer theatr mewn llawer o ffyrdd gwahanol, a dymuniad i  gymryd rhan ynddo. Nid yw'r rhain yn gwrthwynebu'r ffurfiau mwy traddodiadol ond yn rhan o ddarlun ehangach y gallwn ei ddefnyddio i adrodd y straeon y mae angen eu dweud a chyfrannu at dirwedd ddiwylliannol ffyniannus.

Hanfod NTW erioed fu cwestiynu rôl theatr a'i pherthynas â chynulleidfaoedd yn y Gymru gyfoes. Nid yw'r model hwnnw yn draddodiadol ac mae’n anochel y caiff ei gefnogi gan rai a'i wrthod gan eraill.  Mae'r tyndra iach hwnnw yn ysgogi sgwrs yr ydym yn hapus i'w chael gyda chynifer o bobl â phosibl. Credaf yn angerddol fod ein bodolaeth fel theatr genedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn feiddgar ac na ddylai'r awydd dealladwy i ddiogelu diwylliant unigryw a chyfoethog Cymru ein gwyro tuag at fod yn fewnblyg a wynebu i mewn.  Rwyf am i'r theatr yr ydym i gyd yn ei chreu i gael ei llunio gan Gymru gyfoethog, cymhleth a hyderus; sy'n ddigon dewr i ymgysylltu â phartneriaethau artistig newydd a'u meithrin.

Yn 2020 mae NTW yn cyrraedd carreg filltir – ei 10fed pen-blwydd. Fel rhan o'n proses gynllunio rydym eisoes yn anochel yn gofyn: Beth nesaf? Ble nesaf? Pwy ydym ni nawr? Beth yw'r heriau a'r cyfleoedd ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd fel ei gilydd?

Mae trafodaethau diweddar gyda rhai o fewn y sector celfyddydau eisoes wedi amlygu gwahanol syniadau o'r hyn y dylai NTW fod. Rwy'n amau bod cynifer o fersiynau o'r hyn yw NTW neu'r hyn y dylai fod, ag y mae artistiaid a chynulleidfaoedd yng Nghymru. Byddwn yn siarad â llawer ohonoch dros y misoedd nesaf i'n helpu i lywio ein syniadau. Yn y cyfamser, yr hyn sydd eisoes yn amlwg yw bod sgwrs ehangach, y tu hwnt i NTW, yn angenrheidiol am anghenion, dymuniadau a dyheadau'r sector artistig yng Nghymru.  Wrth i galedi gael effaith ac wrth i raniadau gwleidyddol a chymdeithasol dyfu, rhaid i ni ar y cyd lywio'r ffordd orau ymlaen a wynebu'r heriau sydd o'n blaenau. Gobeithio y gallwn oll ymgysylltu â charedigrwydd a haelioni ar adeg pan ymddengys mai dicter a rhaniadau sydd amlycaf yn rhannau helaeth o'r byd.

Kully Thiarai
Cyfarwyddwr Artistig
National Theatre Wales

Views: 2087

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service