A oes gennych ddiddordeb yn y celfyddydau neu’n teimlo'n angerddol dros ogledd Cymru ac effaith newid yn yr hinsawdd?

Mae Egin yn gyfnod preswyl rhyngwladol newydd sbon i artistiaid yng Nghapel Curig yng Ngwynedd, sy'n gosod newid yn yr hinsawdd, y gellid dadlau yw'r mater mwyaf sy'n wynebu dynolryw, ar frig yr agenda.

 

Mae'r trefnwyr yn chwilio am 13 o 'Gysylltwyr Lleol' i gymryd rhan. Bydd pob Cysylltydd Lleol yn cael eu paru gydag artist sy'n cymryd rhan yn y cyfnod preswyl er mwyn helpu i ddatblygu eu gwybodaeth a'u cysylltiad â'r lleoliad cyn iddynt gyrraedd. Cewch eich gwahodd hefyd i groesawu eich artist, i fynychu trafodaethau (wedi'u rhaglennu o gwmpas themâu newid yn yr hinsawdd) ac i brofi peth o'r gwaith a grëwyd gan yr artistiaid yn ystod eu hamser yn Eryri.

 

Bydd y trefnwyr yn talu costau teithio rhesymol.

 

Am ragor o wybodaeth, dewch i'n digwyddiad Cysylltydd Lleol i ddysgu rhagor am National Theatre Wales, Egin a rôl y Cysylltydd Lleol.

 

Lleoliad: Plas Y Brenin, Capel Curig, LL24 0ET

Dyddiad: 2 Mai 2019

Amser: 7pm

 

Cysylltwch â gwenfairhawkins@nationaltheatrewales.org i gadarnhau y byddwch yn bresennol.

 

Rhagor am:

 

EGIN

1-13 Gorffennaf 2019

Parc Cenedlaethol Eryri

 

Nawr yn fwy nag erioed mae angen y celfyddydau a diwylliant arnom i'n helpu i ymateb; i'n hysbrydoli a'n hysgogi drwy gynnig syniadau sy'n herio ein cysyniadau ac yn dylanwadu ar ein hymddygiad.

 

Nod Egin yw roi hwb i ymatebion artistig newydd i'r pwnc. Gan ddechrau gydag arbrofi creadigol, mae Egin yn ceisio llywio ymarfer newydd, dychmygu dyfodol posibl, ac ysbrydoli dulliau cynaliadwy o fyw.

 

Wedi'i ddatblygu gan National Theatre Wales, mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Cyngor Prydeinig a Pharc Cenedlaethol Eryri.

 

https://www.nationaltheatrewales.org/ntw-projects/egin/

Views: 119

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service