Cyfle Gwych ar gyfer Lleoliad gyda NTW TEAM - Mission Control!

Cyfle ar gyfer Lleoliad

Mae TEAM NTW yn cynnig cyfle ar gyfer lleoliad gwaith cynhyrchu ar Mission Control, cywaith National Theatre Wales â Hijinx.

Beth yw Mission Control?

Hijinx a National Theatre Wales

Cyfarwyddwyd gan Kully Thiarai a Ben Pettitt-Wade, 
a’i greu gyda Seiriol Davies

Hanner canrif ar ôl i ddyn lanio ar y lleuad am y tro cyntaf, mae Mission Control yn archwilio ochr dywyll y lleuad.

Wedi’i berfformio gan gast o actorion proffesiynol, niwro-amrywiol a rhai ag anableddau dysgu, bydd y wledd weledol ymdrochol hon yn ail-greu’r awyrgylch o ofn, paranoia ac optimistiaeth a arweiniodd at ddau bŵer mawr yn credu mai nhw ddylai fod gyntaf i roi dyn ar y lleuad. Cynhyrchiad newydd sbon sy’n archwilio natur gwirionedd, propaganda, ysbïo, dylanwadu ar bobl ac angenrheidrwydd chwedlau a’u grym achubol.

Edrychwch ar wefan NTW am ragor o fanylion. 

Y lleoliad-

Mae hwn yn lleoliad wythnos o hyd, gyda chyfle ar gael yn un o'r adrannau canlynol:

  • Rheoli Llwyfan – 

Mae'r rôl hon yn gofalu am y propiau, yr actorion a'r defnydd o'r llwyfan. Mae’n darparu cymorth ymarferol i'r cyfarwyddwr.

  • Adran Dechnegol – 

Mae'r adran hon yn gofalu am agweddau Goleuo, Sain a Digidol y cynhyrchiad.

  • Rheoli’r Cynhyrchiad / Cynhyrchydd – 

Mae'r rôl hon yn goruchwylio'r cynhyrchiad o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys y gyllideb, adeiladu set, yr amserlen ac asesu risg y sioe.

  • Rheoli Blaen Tŷ – 

Mae'r rôl hon yn gofalu am y gynulleidfa a'u profiad.

 

Mae peth hyblygrwydd o ran y lleoliad a’r rôl y byddwch yn ei chyflawni. Trafodir hyn yn ddiweddarach yn y broses.

Mae’n agored i unrhyw aelod o TEAM 18+ oed sy’n angerddol dros y celfyddydau ond heb unrhyw brofiad proffesiynol hyd yn hyn.

Mae'r cyfle hwn ar gyfer unrhyw un sy'n byw yng Nghaerdydd, neu rywun sy'n gallu ymrwymo i fod yng Nghaerdydd am y lleoliad o wythnos. Byddwn yn cynnig hyd at £10 y dydd ar gyfer teithio a chynhaliaeth, ar ôl derbyn derbynebau. 

Dyddiadau 18 – 24 Tachwedd 2019. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer yr holl ddyddiadau ac amseroedd a restrir isod.

Dydd Llun 18fed 10am - 6pm

Dydd Mawrth 19eg 9am - 6pm

Dydd Mercher 20fed 9am - 10pm 

Dydd Iau 21ain 9am - 10pm

Dydd Gwener 22ain 1pm - 10pm

Dydd Sadwrn 23ain 1pm - 10pm

Dydd Sul 24ain 9am – 6pm

Lleolir y lleoliad o fewn ardal Caerdydd. Bydd yr union leoliad yn cael ei gadarnhau ac yn seiliedig ar y rôl y byddwch yn ei chyflawni. 

Ar ddiwedd eich lleoliad, hoffem i chi greu blog ar gyfer y dudalen TEAM, yn amlinellu eich profiad, pethau’r ydych wedi eu dysgu a’u mwynhau.

Sut i ymgeisio- 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, anfonwch e-bost atom gyda'r wybodaeth ganlynol:

  • Paragraff byr amdanoch chi'ch hun,
  • Yr adran yr hoffech gael eich rhoi ynddi, a pham, 
  • Paragraff yn rhoi gwybod inni beth rydych chi'n gobeithio ei gael o'r lleoliad hwn,
  • Paragraff ynghylch sut y byddai'r profiad yn helpu eich gyrfa yn y dyfodol.

Anfonwch yr e-bost hwn at work@nationaltheatrewales.org erbyn 12 hanner dydd ar ddydd Llun 23 Medi 2019. 

Byddwn yn dewis hyd at 10 o bobl i ddod i’n swyddfa yng Nghaerdydd ar ddydd Iau 7 Hydref, i siarad â ni ymhellach. Os na chewch eich gwahodd y tro hwn, cadwch lygad ar dudalen TEAM NTW ac edrychwch am gyfleoedd ar gyfer lleoliadau yn y dyfodol yn ystod y misoedd nesaf.

Beth yw TEAM?

Mae’n rhad ac am ddim i ymuno â TEAM ac mae’n agored i unrhyw un dros 16 oed.

Ymunwch â TEAM a byddwch yn cael:

  • Cyfle i ddweud eich dweud ynglŷn â sut yr ydym yn rhedeg NTW
  • Mynediad am ddim i rai o sioeau NTW (yn aml cyn unrhyw un arall)
  • Cyfleoedd am leoliadau, hyfforddi a mentora
  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol a rhwydweithio
  • Cyfleoedd gwaith â thâl
  • Cefnogaeth barhaus i ddatblygu eich syniadau eich hun
  • Gostyngiadau i sioeau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan ein partneriaid

a llawer mwy

Mae ymuno yn hawdd:

  • Ymunwch â Grŵp TEAM NTW ar ein cymuned ar-lein. Dyma lle bydd ein holl gyfleoedd yn cael eu rhoi yn gyntaf, felly cadwch lygad am rywbeth sy’n addas i chi.
  • Ymunwch â ni mewn unrhyw ddigwyddiad NTW a siarad ag aelod o staff, y Panel TEAM neu aelod arall o TEAM.
  • Dewch i bencadlys NTW a chael sgwrs.

Views: 115

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service