MANYLEB CASTIO

 

Pryd Mae’r Haf?

gan Chloë Moss

Trosiad gan Gwawr Loader

 

Cynhyrchiad Criw Brwd a Theatr Genedlaethol Cymru mewn cydweithrediad â
The Other Room a Theatr Soar


Wedi’i gosod yng nghymoedd y de yn 1989, mae’r ddrama’n dilyn hanes Luke a Christie – y ddau yn eu harddegau ac yn ffrindiau gorau. Wrth iddyn nhw adael yr ysgol, mae eu bywydau’n dilyn llwybrau gwahanol – mae Luke yn ymuno â’r fyddin, ond aros gartre mae Christie, gan barhau ei berthynas â’i gariad, Julie. Ond mae’r ddau fachgen yn darganfod bod eu cyfeillgarwch yn dioddef oherwydd y llwybrau gwahanol maen nhw wedi’u dewis.

 

Addasiad Cymraeg yw hwn gan Gwawr Loader o’r ddrama Christmas is Miles Away gan Chloë Moss. Mae’r ddrama wedi’i gosod yn y 1980au hwyr ac yn rhoi llwyfan i’r teimladau hynny o rwystredigaeth, pryder a gobaith sydd mor berthnasol i bobl ifanc heddiw ag yr oeddynt yn y cyfnod hwnnw. Sion Pritchard fydd yn cyfarwyddo’r cynhyrchiad.

 

Clyweliadau

Cynhelir clyweliadau ar  26 Medi 2019 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd ac ar 27 Medi yn Theatr Soar, Merthyr Tudful.

 

Perfformwyr

LUKE: 16–18 oed. Mae Luke yn ŵr ifanc o gefndir dosbarth gweithiol ac mae ganddo berthynas gythryblus gyda’i dad. Yn siaradus a doniol, mae’n cuddio’i broblemau y tu ôl i’w hyder cyfeillgar.

Actorion 17+ yn unig. Acen cymoedd y de (Merthyr a'r ardal gyfagos), ond rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Rhaid bod yn hyderus gyda gwaith corfforol.

 

CHRISTIE:  16–18 oed. Gŵr ifanc sensitif, clyfar, artistig, sy’n dyheu am gael dianc oddi wrth ei broblemau ond sy’n ei chael yn anodd i gyfathrebu. Mae’n gariad i Julie.

Actorion 17+ yn unig. Acen cymoedd y de (Merthyr a’r ardal gyfagos), ond rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Rhaid bod yn hyderus gyda gwaith corfforol.

 

JULIE:  16–17 oed. Merch synhwyrol, fedrus, deimladwy, sydd ag angen angor ond sy’n teimlo ei bod ar goll. Mae hi’n gariad i Christie. 

 

Actorion 17+ yn unig. Acen cymoedd y de (Merthyr a'r ardal gyfagos), ond rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Rhaid bod yn hyderus gyda gwaith corfforol.

 

Dyddiadau Ymarferion

Yn Theatr Soar, Merthyr Tudful ac yn The Other Room, Caerdydd

13/01/2020 – 06/02/2020:

 

Yn Y Llwyfan, Caerfyrddin

06/04/2020 – 18/04/2020

 

Dyddiadau Perfformiadau

6/02/2020 – 15/02/2020

20/04/2020 – 09/05/2020

 

Cyflog

Telir cyflog, lwfans cymudo / ail-leoli / teithio, tâl gwyliau a phensiwn yn unol â chyfraddau Equity/UK Theatre ar gyfer theatr sybsideiddiedig.

 

Anfonwch eich cais, yn cynnwys CV a llun cyfredol a / neu linc i’ch tudalen Spotlight erbyn 12pm 19 Medi 2019, at Nia Skyrme: nia.skyrme@theatr.com

CASTING SPECIFICATION

 

Pryd Mae’r Haf?

by Chloë Moss

Adaptation by Gwawr Loader

 

A production by Criw Brwd and Theatr Genedlaethol Cymru in association with
The Other Room and Theatr Soar


Set in the south Wales valleys in 1989, the play follows the story of Luke and Christie, two teenage boys who are best friends. As they leave school, their lives follow different paths – Luke joins the army, but Christie stays at home and continues his relationship with his girlfriend, Julie. But the boys find that their friendship suffers as a result of the different paths they have chosen to follow.

 

This is a Welsh adaptation by Gwawr Loader of the play Christmas is Miles Away by Chloë Moss. The play is set in the late 1980s, and gives a platform to those feelings of frustration, anxiety and hope that are as relevant to young people today as they were then. Sion Pritchard will be directing the production.

 

Auditions

Auditions will be held on 26 September 2019 in the Royal Welsh College of Music and Drama, Cardiff, and on 27 September in Theatr Soar, Merthyr Tydfil.

 

Performers

LUKE: Aged 16–18. Luke is a young man from a working class background, and his relationship with his father is a turbulent one. Chatty and funny, he hides his problems behind a facade of friendly confidence.

Actors aged 17+ only. South Wales accent (Merthyr and the surrounding area), but we welcome applications from all fluent Welsh speakers. Applicants must be confident with physical work.

 

CHRISTIE: Aged 16–18. A sensitive, bright, artistic young man, who yearns to be able to escape from his problems, but finds it difficult to communicate. He is Julie’s boyfriend. 

 

Actors aged 17+ only. South Wales valleys accent (Merthyr and the surrounding area), but we welcome applications from all fluent Welsh speakers. Applicants must be confident with physical work.

 

JULIE: Aged 16–17. A sensible, able, sensitive girl, who needs an anchor in her life but who feels lost. She is Christie’s girfriend. 

 

Actors aged 17+ only. South Wales valleys accent (Merthyr and the surrounding area), but we welcome applications from all fluent Welsh speakers. Applicants must be confident with physical work.

 

Rehearsal Dates

In Theatr Soar, Merthyr Tydfil and in The Other Room, Cardiff

13/01/2020 – 06/02/2020:

 

In Y Llwyfan, Carmarthen

06/04/2020 – 18/04/2020

 

Performance Dates

6/02/2020 – 15/02/2020

20/04/2020 – 09/05/2020

 

Remuneration

The following will be paid: salary, commuting / relocation / travel allowance, holiday pay and pension, in accordance with the Equity/UK Theatre rates for subsidised theatre.

 

Please send your application, including a CV and current headshot and / or link to your Spotlight page by 12pm 19 September, to Nia Skyrme: nia.skyrme@theatr.com

Views: 345

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service