[Closed | Wedi cau] Network FAQs: New Digital Commissions | Comisiynau Digidol Newydd

The final deadline for the New Digital Commissions has now passed. | Mae rownd derfynol y Comisiynau Digidol nawr wedi cau.

National Theatre Wales has announced NETWORK, a programme of digital activity in partnership with BBC Cymru Wales and BBC Arts, to include New Digital Commissions in partnership with Theatr Genedlaethol Cymru. Please leave any further questions as a comment on this post and one of our team will respond as soon as possible. || Mae NTW newydd lansio NETWORK, rhaglen o weithgaredd digidol mewn partneriaeth â'r BBC, i gynnwys Comisiynau Digidol Newydd mewn partneriaeth â Theatr Genedlaetthol Cymru, gyda phroses galwad agored sydd ar agor nawr. Defnyddiwch y sylwadau o dan y post hwn i ofyn unrhyw gwestiynau pellach, a bydd aelod o dim NTW yn eich ateb cyn gynted a phosib.

Call-out info | Gwybodaeth galwad

  

What support will be provided by National Theatre Wales and/or Theatr Genedlaethol Cymru?

NTW and Theatr Genedlaethol Cymru staff are currently working remotely and will support each digital commission. This will include producing, production, marketing and artist development support. The budget, of up to £5,000, will be allocated in discussion between the lead artists and either NTW or Theatr Genedlaethol Cymru, and the rates for all collaborators is £585 per week / £100 per day. The budget is also intended to cover production costs and any team members with very specific technical skills that can’t be covered by NTW and Theatr Gen's in-house production teams. The intention is that these projects will be delivered relatively quickly and artists working on them will only be doing so for a limited time. Production costs are likely to include design costs and specific equipment costs if this equipment cannot be supplied by NTW/Theatr Genedlaethol Cymru. 

How does the rolling application process work?

Applications open initially on Monday 6th April. The first decision date will be in April, with a second decision date in early May and a third decision date in late May. On each decision date three commissions will be awarded. This means we are currently looking at nine commissions in total. Applications received earlier in the process may still be considered throughout the length of the project. We will be updating our social media pages continuously with all the relevant dates.

Will I be working with NTW or Theatr Genedlaethol Cymru?

NTW and Theatr Genedlaethol Cymru are working closely on the delivery of the digital commissions, in response to the needs of each individual selected project. The applications are being read by a spread of staff from across both Theatr Genedlaethol Cymru and National Theatre Wales regardless of their linguistic medium. Selection is based on the quality of the applications alone and will not be informed by the intended language of the projects. Applications for bilingual projects are not being treated more favourably. 

Can I apply with the same project more than once?

Because applications may be taken forwards from previous rounds there is no need to submit the same project more than once.

Can I still apply if I don’t know exactly what kind of digital platform I would want to use?

Yes. NTW’s production and producing teams are here to provide help and expertise. They will work with you to find the best form and platform for your idea. However, we ask that your project should be specifically designed with a digital platform and audience in mind. 

I’ve never made a professional theatrical production before. Can I still apply?

We invite applications from everyone who is interested in creating a new live project in a digital space. The projects will be selected based on the individual submissions’ merits. Our aim is to create a programme of high-quality work that lives up to the best of NTW and Theatr Gen.

Is this open call only for people born or living in Wales?

We invite applications from those who were born, trained and/or currently reside in Wales. If you’re applying as a group, this criteria should apply to the majority of the group.

I have a great idea for a project but don’t know who my collaborators are. 

That’s fine. We work with you to develop all aspects of the project using NTW’s networks and resources, including finding the right creative team.

I’m already developing a project idea elsewhere that I think would work well as a Network digital commission. Can I still apply?

We don’t want to limit your ideas. If you think a Network digital commission with National Theatre Wales and/or Theatr Genedlaethol Cymru is the right home for your project, then it is. 

///

Pa gefnogaeth bydd ar gael gan National Theatre Wales a/neu Theatr Genedlaethol Cymru?

Mae staff NTW a Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio o adref, a byddwn yn cefnogi pob comisiwn digidol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogaeth technegol, cynhyrchu, marchnata a Datblygu Creadigol. Bydd y cyllid, o hyd at £5,000, yn cael ei wario o ganlyniad i drafodaeth rhwng y prif artist a naill ai NTW neu Theatr Genedlaethol Cymru, a'r ffioedd i holl artistiaid ar y prosiect yw £585 yr wythnos / £100 y diwrnod. I’w cynnwys yn y ffigwr hwn hefyd bydd ffioedd y tim cynhyrchu ac unrhyw aelodau o’r tim creadigol ag arbenigeddau sydd tu hwnt i dimoedd cynhyrchu mewnol NTW a Theatr Gen. Y bwriad ydy cael y prosiectau allan yn weddol sydyn, gyda’r artistiaid yn gweithio arnynt am gyfnod cyfyngedig. Mae costau cynhyrchu yn debygol i gynnwys costau dylunio a chostau deunyddiau penodol na all NTW na Theatr Gen eu darparu.

Sut bydd amserlen y broses geisiadau yn gweithio?

Mae ceisiadau yn agor ar Ddydd Llun y 6ed o Ebrill. Mae’r dyddiad dethol cyntaf ym mis Ebrill, yr ail ym mis Mai, a’r trydydd ym mis Mehefin. Ar bob dyddiad dethol bydd tri prosiect yn cael eu dewis. Rydym yn bwriadu felly comisiynu naw prosiect i gyd. (Mae posibilrwydd y byddwn yn ymestyn y cyfnod a’r nifer.) Bydd ceisiadau a dderbynir yn gynt yn y broses dal i gael eu cysidro trwy gydol hyd y prosiect. Byddwn yn rhoi’r dyddiadau perthnasol diweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. 

A fydda i’n gweithio gyda NTW neu Theatr Genedlaethol Cymru?

Bydd NTW a Theatr Genedlaethol Cymru yn gweithio’n agos i gyflwyno’r comisiynau digidol, gan ymateb i anghenion penodol pob prosiect a ddewisir.

Ydw i’n cael gwneud cais gyda’r un syniad mwy nag unwaith?

Gan fod ceisiadau’n cael eu cymryd ymlaen o rowndiau cynharach, does dim angen i chi wneud mwy nag un cais.

Ydw i’n cael gwneud cais os nad ydw i’n gwybod yn union pa blatfform digidol dwi eisiau defnyddio?

Wyt. Bydd gwahoddiad agored i chi gymryd mantais o holl gymorth ac arbenigedd timoedd cynhyrchu NTW a Theatr Genedlaethol Cymru. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddarganfod ffurf a platfform eich syniad. Serch hynny, gofynwn bod eich prosiect yn cael ei ddylunio gyda ffurf a chynulleidfa ddigidol mewn golwg. 

Dwi heb greu cynhyrchiad theatr proffesiynol cyn hyn. Ydw i dal yn cael gwneud cais?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhywun sydd â diddordeb creu prosiect byw newydd mewn gofod digidol. Bydd y prosiectau’n cael eu dethol yn seiliedig ar eu cryfderau unigol fel ceisiadau. Ein bwriad yw creu rhaglen o waith o safon sy’n deilwng o’r gorau o NTW.

Ydy’r alwad yma ar gyfer trigolion o Gymru yn unig?

Rydym yn croesawu ceisiadau gan rheiny a gafodd eu geni, hyfforddi neu sydd ‘nawr yn byw yng Nghymru. Os ydych yn ymgeisio fel grwp, dylai’r criteria yma berthnasu i fwyafrif y grwp.

Mae gen i syniad gwych am brosiect ond nid wyf yn gwybod pwy dylai fy nghyd-artistiaid fod.

Dim problem. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu holl elfennau’r prosiect, gan ddefnyddio holl ryngweithiau ac adnoddau NTW, gan gynnwys ffurfio’r tim creadigol perffaith.

Dwi’n datblygu syniad ar gyfer y prosiect hwn gyda rhywun arall yn barod, ond gall weithio’n dda fel rhan o rhaglen Network. Ydw i dal yn cael gwneud cais?

Nid oes diddordeb gennym gyfyngu eich syniadau. Chi sydd yn gwybod os mai comisiwn digidol fel rhan o Network yw’r cartref iawn ar gyfer eich syniad.

Views: 544

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Kylie Ann Smith on April 15, 2020 at 4:22
Hi...i'd like to work with someone who is a virtual game designer but have no idea how much that would cost in relation to the 5grand budget as there are 3 performers and a composer and editor i'd like to work with too, so it's going to be tight!
Comment by alun howell on April 9, 2020 at 2:03

Does dim son am faint o actorion neu ba hyd felly dw I'n bwriadu cario ymlaen I ddatblygu y stori a gadael y pethau technegol I bobl ddeallus fel ti os yw hynny yn iawn.

Comment by Dylan Huw on April 9, 2020 at 1:32

Haia Alun, diolch am adael sylw, a grêt clywed dy fod yn meddwl gwneud cais. Ar gyfer y broses ceisio a dethol, beth ry'n ni'n chwilio amdano yw syniad cryf a chyfoethog ar gyfer darn o theatr byw digidol gall gael ei gyflwyno o fewn mis. Bydd cefnogaeth hael i ddatblygu'r prosiect i bob un fydd yn cael ei ddethol gan dimoedd NTW a Theatr Gen. Fy nghymorth i felly byddai i ymgyfarwyddo dy hun â'r ffurflen gais (fan hyn) a'r wybodaeth sydd arlein (fan hyn), a'u defnyddio i ddatblygu dy syniad er mwyn anfon cais mor gryf a phosib. Gad wybod os oes mwy o gwestiynau! Dylan. X

Comment by alun howell on April 8, 2020 at 11:17

Dwi a diddordeb i sgwennu drama am gyfarfod a Zoom gyda 5 cymeriad a stori gryf ond does dim syniad 'da fi sut i'w datblygu'r syniad. Beth wnaf I yn y lle cyntaf oll? 

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service