Y gwanwyn hwn, mae Articulture a phartneriaid ledled Cymru a’r DU yn lansio #AgorAllan2022 – sef cyfres o gomisiynau a chyfleoedd datblygu ar gyfer Artistiaid sy’n dymuno creu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru, y DU ac Iwerddon a mynd â nhw ar daith.
Fel yr awgryma’r teitl, ‘agor allan’ yw nod #AgorAllan2022 – agor y drws i leoedd newydd, syniadau newydd a phosibiliadau newydd yn yr awyr agored gyda’n gilydd.
A oes gennych syniad ar gyfer perfformiad neu brosiect celf awyr agored?
Mae’n syml – cysylltwch â ni i ddweud ‘helo’.
Mae cyfleoedd i Artistiaid yn cynnwys:
- Creu & Mynd ar Daith: Cymru - dri chomisiwn newydd ar gyfer Artistiaid na chânt eu cynrychioli’n ddigonol ac sy’n dymuno datblygu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru a mynd â nhw ar daith
- Creu & Mynd ar Daith: DU & Iwerddon - dau gyfle comisiynu gyda phartneriaeth ‘Pedair Gwlad’ newydd, yn cael ei arwain gan Surge yn yr Alban
- Cysylltu a Datblygu Syniadau ar gyfer Celfyddydau Awyr Agored - digwyddiadau rhwydweithio a cymorthfeydd parhaus gyda Chynhyrchwyr celfyddydau awyr agored.
NODYN: y dyddiad cau i gofrestru diddordeb yn 'Creu & Mynd ar Daith: Cymru' yw dydd Gwener 11 Mawrth - ond y cyfan sydd angen i artistiaid ei wneud yw anfon e-bost atom i ddweud helo, dim byd mwy.
Manylion llawn: https://articulture-wales.co.uk/agorallan2022
Cyswllt: rosie@articulture-wales.co.uk
Ni waeth be fo’ch cefndir na’ch profiad – cofiwch gysylltu i gael sgwrs. Rydym yn croesawu pawb!
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community