Adolygiad Young Critics: Gwyl Agor Drysau/Opening Doors Festival 2014 @AradGoch

              Dros y diwrnodau diwethaf o Ebrill 1af – 4ydd mae Aberystwyth wedi bod yn hynod o frysyr gyda phobol ar draws y byd yn dod at ei gilydd i ddathlu’r Wŷl rhyngwladol ‘Agor Drysau’ a’i trefnir gan Jeremy Turner a Chwmni Theatr Arad Goch bob dwy flynedd. Mi roedd y gwŷl yn ei wythfed flwyddyn ag yn fwy nag erioed gan fod y Cwmni Arad Goch yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed, cafodd y gwŷl ei thrawsnewid fewn i barti anferth gyda ffrindiau hen a newydd y cwmni yn cael gwahoddiad i berfformio. Nod y gwŷl oedd i’w ddangos i gynulleidfa Cymru (a gweddill y byd) safon a’r amrywiaeth mewn theatr i blant yn rhyngwladol. Mae yno gymaint i’w ddweud am ‘Agor Drysau’ gan fod o wedi bod yn wythnos llawn perfformiadau, gweithdai, trafodaethau a phrofiadau anhygoel.

            Roedd gan Arad Goch tri o’i sioeau ymlaen yn ystod y gwŷl, y sioe gyntaf cafodd ei ddangos oedd ‘SXTO’ sef sioe am aflonyddu rhywiol trwy gyfryngau cymdeithasol.  Mae ‘SXTO’ wedi bod yn sioe sydd wedi bod mewn datblygiad am dros dair blynedd gyda’r cwmni yn gweithio’n agos gyda phlant o’r ardal. Mae’r sioe yn ffocysu ar grŵp o blant yn ei harddegau a’r diwylliant ‘sextio’ yn ei bywydau ag sut allith un camgymeriad cael effaith difrifol ar fywyd rhywun. Yn fy marn i er bod y sioe yn seiliedig ar destun mor gyfoes credaf fod yr iaith oedd yn cael ei ddefnyddio yn ddyddiedig, ar adegau teimlaf fod y ffaith fod y cymeriadau yn cael ei chwarae gan oedolion yn amlwg gyda geiriau hen fel ‘tart’ yn cael ei ail-adrodd. Er hynny, clod mawr i’r cyfarwyddwr Angharad Lee gan fod y sioe yn ofnadwy o gyflym a slick. Roedd y defnydd amlbwrpas o’r locedi er mwyn creu golygfeydd gwahanol yn daclus ag clyfar. 

             Nesaf mi welsom ni ‘Outsiders’ gan Arad Goch sef sioe oedd yn edrych ar hunaniaeth plant ifanc yng Nghymru trwy ei phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol. Roedd presenoldeb technoleg yn y sioe yma yn gryf iawn ag yn syniad gwych i gyfleu ymddygiad plant ifanc ar y we, yn enwedig gan fod y gynulleidfa o’r dangosiad yma wedi troi’r elfen dechnegol fewn i gêm gwbl wahanol i beth oedd wedi’i disgwyl. Er hyn credaf fod yr actorion wedi delio hefo’r mater yn wych sydd yn dystiolaeth fod nhw’n hyderus yn ei chymeriadau ag bod nhw wedi cael ei gyfarwyddo’n wych.  All ddweud fod mewnbwn y gynulleidfa wedi tynnu oddi ar y sioe ond yn fy marn i gredaf fod o wedi cryfhau neges y sioe gan ddangos fod pobol yn gwneud rhywbeth pan maen nhw yn ‘anonymous’, allith neb weld pwy ydi nhw, does ddim gwrthdaro ac rydych chi’n gwbl rydd, does ddim outsiders ar y we.

          Y drydedd sioe gan Arad Goch welsom ni yn yr wythnos oedd ‘Where The Leaves Blow’, sioe ryngweithiol i blant 2 – 8 oed. Er fy mod i ddim yn y gynulleidfa dargedol fel merch 19, teimlais i fel plentyn o’r foment gyntaf ble ddoth actores Ffion Wyn Bowen allan i’r gynulleidfa a gofynnodd am help i chwilio am bethau pert er mwyn addurno’i thŷ newydd. Pan gerddais fewn i’r theatr cefais fy nhrawsnewid i fyd newydd, gyda’r set wedi ei osod fel marquee ble roedd pawb yn mynd i mewn ag eistedd i lawr yn dŷ’r ddynes yma go iawn. Fel roedd y sioe yn datblygu cafodd ein cyflwyno i gymeriad arall (Gethin Lloyd Evans) ble ddechreuodd y ddau ohonynt chwarae ac addurno’r tŷ cyn troi ar y gynulleidfa a gofyn iddyn nhw ymuno. Mi roedd y sioe yn agos iawn ag mi oedd hi’n neis teimlo fel rhan o rywbeth, yn anffodus pan welais i’r sioe doedd yno ddim plant yn y gynulleidfa ond doedd hynny ddim yn atal neb rhag neidio mewn a chymryd rhan yn y cynhyrchiad, mi wnaeth yr actorion gwneud i’r gynulleidfa teimlo’n gwbl ddiogel a chyffroes sydd yn sgil pwysig.

Uchod gweler gynilleidfa 'Where The Leaves Blow' yn ymuno gyda'r sioe

            Pam mae’n dod i ddewis hoff gynhyrchiad yn Ŵyl Agor Drysau mae’n amhosib, bu rhaid dewis rhwng 17 cynhyrchiad hollol wahanol. Mae’r diolch yno i Jeremy Turner am wahodd gymaint o sioeau amrywiol gan fod o’n hagor llygad pobol i beth yw theatr i blant go iawn. Dros yr ŵyl gwelais gymaint o gynyrchiadau anhygoel, gwelais atgofion cwpwl yn dod i fyw mewn ‘Cwpwrdd Ddillad’, Mi wnes i ffrind newydd gyda’r lleuad yn Luna, esi ar antur gyda dyn gwyllt a’i man eating chicken, dysgais am yr arwr Ulyssus, mi wnes i helpu milwr tlawd ennill filoedd yn ‘The Enormous Turnip’, torrais fy nghalon dros storiâu cariad a hanes adar llatai gan Georgia Ruth a chefais fy synnu gan dalent ag egni criw National Youth Theatre yn ‘Dead Born Grow’. Heb yr ŵyl yma mi fysa’r storiâu yma ar goll i mi ac mi fyswn i byth wedi cael gweld beth sydd o gwmpas.   

            Credaf fod yr Ŵyl hefyd yn siawns i bobol mynd i weld pethau fysa nhw fel arfer ddim yn gweld, esiampl dda yw ‘Echoa’ gan gwmni Ffrangeg o’r enw Compagnie Arcosm. Roedd ‘Echoa’ yn sioe oedd yn seiliedig ar ddawns, rythm a cherddoriaeth trwy ei lleisiau a’i chyrff gyda set amlbwrpas cymhleth. Yn fy marn i gredaf fod hi’n anodd iawn dal sylw gynulleidfa am awr mewn sioe sydd ddim gyda naratif neu siarad ond roedd egni a thalent y perfformwyr yn tynnu sylw pawb trwy’r sioe, roedd ‘Echoa’ yn sioe oedd yn dysgu pobol be oedd ei chyrff yn gallu gwneud, beth oedd ei lleisiau yn gallu gwneud a'i wneud mewn ffordd ddoniol, fywiog a bendigedig.

Uchor gweler set amlbwrpas 'Echoa'

            Sioe wnaeth sefyll allan i mi yn yr ŵyl oedd ‘Kish Kush’ gan Teatrodistinto o’r Eidal. Yn Kish Kush mae’r llwyfan wedi ei haneru a’i gorchuddio ac fel mae’r perfformiad yn esblygu mae’r ddau gymeriad yn cael gwrthdariad, dechrau chwarae ag yno, dod i ddeall ei gilydd. Sioe yw ‘Kish Kush’ sydd yn esbonio’r byd ag bod yno diwylliannau gwahanol, fod pobol ar draws y byd yn hoffi pethau gwahanol ond dal gallu fod yn ffrindiau. Ar ôl y sioe mi roedd yno sesiwn cwestiynau ag oedd y theatr llawn plant yn barod i ofyn i’r dynion am y sioe, roedd gweld ymateb mor gryf gan blant am destun mor ddwys yn wych ac wedi gwir agor fy llygaid o beth mae theatr i blant yn gallu gwneud.

Uchod gweler y sioe 'Kish Kush'

               Trwy’r wythnos mi roedd yno hefyd trafodaethau a gwahanol weithdai, y drafodaeth fwyaf oedd am hanes theatr i blant ag ble roedd pawb yn weld dyfodol theatr i blant yn mynd. Mi roedd llawer o wledydd gwahanol ag myfyrwyr Prifysgol De Cymru yn y drafodaeth yma ag oedd hi’n braf cael clywed gan bob un o’r bobol yma fod nhw eisiau gwneud ymdrech gyda theatr i blant, â'i fod am fod o gwmpas am flynyddoedd. Hefyd dysgais fod yno llawer iawn o wyliau tebyg i ‘Agor Drysau’ yn digwydd ar draws y byd sydd  ag yn bleser i’w glywed.

              Mi oni’n ffodus iawn i fod yn rhan o bob un gweithdy cafodd ei sefydlu gan Arad Goch, yr un cyntaf oedd gweithdy pypedau gan gwmni Branar o Iwerddon a oedd yna gyda’r sioe Clann Lir. Dydw i erioed wedi gweithio gyda phypedau o’r blaen ac nid y fi oedd yr unig un yn y gweithdy oedd yn newydd i’r byd pypedau, er hyn wnaeth pawb neidio fewn. Ar ddiwedd y gweithdy oedd rhaid pawb dangos pwt bach oeddent nhw wedi cynllun gyda’i phyped ag oedd hi’n andros o hwyl. Credaf fod hyn yn esiampl wych o beth oedd Jeremy Turner eisiau gyda ‘Agor Drysau’ gan fod y gweithdy yma wedi agor drysau i mi fel rhywun sydd erioed wedi gweithio yn y maes yna. Roedd yr ail weithdy gan ‘PoorBoy Theatre’ o’r Alban yn eithaf tebyg, gyda phawb yn dysgu sut wnaethant nhw greu sioe mor ddigidol ȃ ‘Pirates and Mermaids’. Roeddynt yn hynod o lwcus yn y drydydd weithdy gan ei fod yn cael ei gynnal gan y cwmni ‘Zeal’ o Awstralia ȃ oedd yno gyda’i sioe heriol ‘King Hit’. Nod y gweithdy oedd deall sut oeddent nhw’n gweithio fel cwmni i greu perfformiad mor gymhleth. Erbyn y diwedd oedd pawb wedi mwynhau ag cael blas bach fewn i’r byd theatr.

Uchod gweler pyped o gweithdy 'Branar'

Uchod mae cardyn post o'r sioe 'Pirates and Mermaids' er mwyn i'r gynilleidfa dilyn y sioe ym mhellach

            Before coming to the festival Theatre for children didn’t interest me, I was under the impression that it was all patronising and preachy with everything having to have a message or a moral. This festival has not only opened many doors for me but it’s also been a big eye opener, theatre for children is incredibly important and incredibly varied and my original opinion couldn’t have been more wrong. I felt a wide variety of emotions watching these shows; I was transformed into different worlds and captivated by everything I saw. Even as a young adult I felt the magic and excitement that was portrayed by these shows and I didn’t want it to end. It was a pleasure to see children and adults enjoy the festival and talk to each other about what they saw, sharing their work and discussing what they loved. I feel incredibly fortunate to have attended this festival as I have learnt a lot, my mind has been opened and I have met a lot of incredible people. The future really excites me. Jeremy Turner, everyone in Arad Goch and everyone that worked on the productions, the discussions and workshops have created a very successful, exciting and educational festival that is worth attending. Edrychaf ‘mlaen am yr un nesaf – Agor Drysau 2016. 

Views: 636

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Comment by Guy O'Donnell on April 8, 2014 at 4:56

Great review Llywela, really gives me a sense of the range of activity at the festival, love your photos!

Comment by Catrin Fflur Huws on April 7, 2014 at 22:37

Cytuno'n llwyr Llywela - roedd yr wyl yn wych. Cwpwrdd Dillad oedd yr 'high point' i mi - roeddwn i'n crio fel babi drwyddo i gyd. Wyddwn i ddim faint byddai plant yn gael ohono - er ei fod yn syml a heb iaith, efallai mai emosiynau oedolion oedd yn cael eu portreadu.

Beth synodd fi oedd gymaint oedd y plant yn y gynulleidfa yn fwynhau Echoa - dwi'n meddwl fel oedolyn mod i'n mynd dipyn yn athronyddol yn ei gylch, lle roedd y plant yn y gynulleidfa jest yn ei dderbyn am y peth anarchaidd oedd e.

 

diolch o galon i Arad Goch am wyl mor arbennig.

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service