Croesi Traeth/ Crossing A Beach

Event Details

Croesi Traeth/ Crossing A Beach

Time: June 30, 2017 to July 2, 2017
Location: Harlech
Website or Map: https://gwylgregynogfestival.…
Event Type: show, sioe, dawns, dance, theatr, theatre
Organized By: Laura H Drane
Latest Activity: Jun 8, 2017

Export to Outlook or iCal (.ics)

Event Description

Croesi Traeth | Crossing A Beach 
 
21.00 01/07/2017
14.30 02/07/2017
 
Cyrchfan: Maes parcio, Min-y-Don, Ffordd Glan Môr, Harlech
 
 
Daeth cwsg i gloi fy llygaid ar y traeth                                  
A chrwydrais wlad ryfeddol wedyn
 
Perfformiad dawns ar draeth Harlech
 
Daeth y ddawnswraig Margaret Morris i Harlech ym 1919 er mwyn cynnal ysgol haf. Ym myd y freuddwyd ar y traeth, ymuna griw arall gyda hi, ac yn eu plith mae’r cyfarwyddwr ffilm Roman Polanski, a saethodd Macbeth ar draeth Morfa Bychan; ymgyrchwyr Meibion Glyndŵr; yr archangel Mihangel a gofodwyr eraill; ac Ellis Wynne, y Bardd Cwsc ei hun.
 
O’ch lle ar y tywod, cewch weled byd newydd, gyda chymorth clustffonau ac…ysbienddrych.
 
Cyrhaeddwch o leiaf 15 munud cyn i’r sioe ddechre os gwelwch yn dda – fe fydd yn cychwyn yn brydlon.  Perfformir y sioear y traeth  yn yr awyr iach ac mae’n daith gerdded fer o’r maes parcio ato ac yn ôl (ar lwybrau ac ar dywod, rhyw 500m I gyd).  Gwisgwch ddillad ac esgidiau priodol. Rydyn yn cadw’r hawl i ganslo’r sioe os nad yw’r tywydd yn dda.
 
Mae’r sioe yn Gymraeg a Saesneg.
 
Noddir gan Gronfa Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru, Creu Cymru, Ty Cerdd, Cronfa Partneriaeth Eryri, Theatr Ardudwy a Gŵyl Gregynog.
 

Comment Wall

Add a Comment

RSVP for Croesi Traeth/ Crossing A Beach to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Attending (1)

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service