Gweithio gydag Actorion / Working with Actors

Event Details

Gweithio gydag Actorion / Working with Actors

Time: July 6, 2012 from 10am to 6pm
Location: Galeri Caernarfon
Website or Map: http://www.palasprint.com
Phone: 01286 674 631
Event Type: gweithdy
Organized By: Angharad Blythe
Latest Activity: Jun 28, 2012

Export to Outlook or iCal (.ics)

Event Description

GWEITHIO GYDAG ACTORION 
Gweithdy undydd i Actorion a Chyfarwyddwyr 
GYDA STEPHEN BAYLY

‘Take it from a Director. If you get an actor that Sandy Meisner has trained, you’ve been blessed’ Elia Kazan

Mae Gŵyl Arall – ar y cyd â Cwmni Da a Galeri – yn cyflwyno gweithdy cyffrous ar ddulliau Stanford Meisner gan y cyfarwyddwr, y cynhyrchydd a’r actor Stephen Bayly.

Yn yr Unol Daleithiau, ystyrir y dull Meisner fel y ffordd orau o weithio gydag actorion ac mae’n dod yn fwyfwy poblogaidd yng ngwledydd Prydain hefyd erbyn hyn. Mae gweithdy Stephen Bayly yn cynnig dewis amgen i ‘Method Acting’, gan ddysgu cyfarwyddwyr i weithio gydag actorion sydd wedi eu trwytho yn y dull Meisner i roi stamp unigryw ar y testun ac fel ffordd i ddod ag o’n fyw.

Defnyddir dulliau Meisner gan yr actor a’r cyfarwyddwr Sidney Pollock a’r awdur a’r cyfarwyddwr David Mamet ymysg eraill, er mwyn annog eu hactorion i roi perfformiadau gwir, sy’n gyforiog o emosiwn. Yn ddiarwybod i lawer ohonom, mae nifer o actorion mwya deinamig a chyffrous America eu trwytho yn y dull Meisner (Leonardo DiCaprio, Gene Hackman, Ed Harris, Robert Duvall, Joanne Woodward a Jon Voight, i enwi dim ond rhai). Sut mae’r actorion hyn yn gweithio? Sut all cyfarwyddwyr ddefnyddio’r dulliau hyn i gael perfformiadau mwy gonest a threiddgar gan eu cast?

Mae Stephen Bayly wedi cynhyrchu ffilmiau fel Richard III a Mrs Dalloway ac ymysg y ffilmiau y mae wedi eu cyfarwyddo mae Rhosyn a Rhith a gafodd groeso brwd iawn yn Cannes a’r gyfres boblogaidd Joni Jones. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr y National Film and Television School. Astudiodd Stephen y dull Sanford Meisner yn ddwys am bum mlynedd yn The Actors Temple, Llundain ac erbyn hyn mae’n dysgu cyfarwyddwyr yn Nghiwba, Nigeria, Sbaen, Llundain a thrwy Skillset Academi Cymru a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Am ragor o wybodaeth am Meisner a Stephen Baly, ewch i:www.directingarts.com

MAE LLEFYDD YN GYFYNGEDIG FELLY ARCHEBWCH EICH LLE AR Y CWRS ARBENNIG HWN CYN GYNTED AG Y BO MODD

Ffi: £30

Bydd saib am ginio rhwng 1.30-2.30pm. Ni allwn gynnig bwyd ond mae digon o lefydd i fwyta yn y cyffiniau.

I archebu eich lle a thalu, ewch i www.palasprint.com neu ebostiwch Angharad Elen: angharadelen@yahoo.com cyn dydd Mercher, 4 Gorffennaf.

Wedi’r gweithdy, bydd Gŵyl Arall yn dangos y ffilm Rhosyn a Rhith am y tro cyntaf yng Nghmru ers 20 mlynedd a mwy, a hynny yn y sinema yn Galeri am 7.30pm, nos Wener, 6 Gorffennaf, lle bydd Stephen Bayly yn cynnal sesiwn Cwestiwn ac Ateb. I archebu tocynnau, ffoniwch Galeri ar 01286 685 222.


Comment Wall

Add a Comment

RSVP for Gweithio gydag Actorion / Working with Actors to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Attending (1)

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service