Event Details

Gwyl MAP

Time: March 30, 2014 to April 1, 2014
Location: Aberystwyth
Website or Map: https://www.facebook.com/gwyl…
Event Type: gwyl, theatr, theatre, festival
Organized By: Sera Moore Williams
Latest Activity: Mar 22, 2014

Export to Outlook or iCal (.ics)

Event Description

Pam MAP?

Myfyrwyr! Arloesi!! Perfformio!!!

Os yda chi am gyfrannu at ddyfodol tirwedd y theatr yng Nghymru, mynnwch gymryd rhan!

Gwyl Theatr Myfyrwyr 1af Cymru!

Diwrnod a hanner yng Nghanolfan y Celfyddydau, ac yng Nghanolfan Arad Goch Aberystwyth, o ddangos gwaith, o drafod gwaith, o gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda rhai o ymarferwyr theatr mwyaf blaengar Cymru, ac i greu, ar y cyd, i gloi yr wyl, ddigwyddiad theatraidd! Cyfle gwych i gymdeithasu a chreu cysylltiadau a phrosiectau ar gyfer y dyfodol.


Aberystwyth. Mawrth y 30ain a’r 31ain 2014.


Os yda chi am gyfrannu at ddyfodol tirwedd y theatr yng Nghymru, mynnwch gymryd rhan!

Gweithdai MAP

Dewisiwch 1 gweithdy ar gyfer dydd Llun ac 1 ar gyfer dydd Mawrth.

Rhowch eich dewisiadau mewn trefn. 

Gyrrwch eich taflen yn ôl cyn gynted â bo modd i sera.williams@decymru.ac.uk

Byddwn yn ceisio sicrhau fod pawb yn mynychu 1 dewis 1af o leiaf. Ond cyntaf i’r felin caiff falu!

Dydd Sul Mawrth 30ain

1. Taclo Testun Rhian Morgan

Bydd y sesiwn yn cynnwys gwaith ar rythmau iaith, atalnodi, sŵn geiriau a'r llais, a bydd cyfle i roi darn cyfoes 'ar ei draed' mewn modd ddeinamig. Bydd cyfle hefyd i feddwl am baratoi ar gyfer clyweliadau. Dewch â darnau yr hoffech weithio arnynt i’r gweithdy.

2. Datgloi testun. Iaith a Rhythm yn Shakespeare Richard Lynch

Byddai darllen y golygfeydd canlynol ymlaen llaw yn ddefnyddiol ar gyfer y dosbarth hwn; Henry V 2.3; Henry IV Part II Act IV golygfa V; Julius Caesar 1.2 (llinellau 90-131). Os oes unrhyw beth penodol yr hoffech ddadansoddi yna dewch â’r darn dan sylw gyda chi.

3. Yr Actor a'r Cyfarwyddwr Sara Lloyd

Cyfle i ddarganfod byd y ddrama. Bydd cyfle i gyfarwyddo a chyfle i actio. Dwy awr i neidio i fewn i bwll y ddrama a rhoi rhywbeth ar ei draed!

Dydd Llun Mawrth 31ain

1. Beth? Eddie Ladd

Gweithdy theatr gorfforol a fydd yn ystyried sut mae creu coreograffi, llunio testun a darganfod pwnc.

2. Perfformio Chwedl Michael Harvey

Yn y gweithdy ymarferol hwn edrychwn ar sut i roi chwedl lafar ar lwyfan gan gadw a manteisio ar ei rhinweddau llafar, ein sgiliau perfformio, y gofod, a'n gilydd. Edrychwn ar y man cyfarfod rhwng y steil 'adrodd' a'r steil 'theatraidd' sydd, ar yr un pryd, mor wahanol ac mor debyg i'w gilydd. 

3. Deffro Creadigrwydd Dafydd James

Gweithdy sgwennu. Cyfle i freuddwydio, chwydu a saernïo.

Comment Wall

Add a Comment

RSVP for Gwyl MAP to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Attending (2)

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service