Event Details

Theatr Gen Byw

Time: February 14, 2017 from 7pm to 10pm
Location: Ar draws y wlad
Website or Map: http://theatr.cymru/portfolio…
Event Type: theatre
Organized By: Theatr Genedlaethol Cymru
Latest Activity: Jan 16, 2017

Export to Outlook or iCal (.ics)

Event Description

Methu dod i Gastell Caerffili i weld Macbeth? Peidiwch â phoeni. Gyda’n menter newydd, Theatr Gen Byw, gallwch fwynhau’r cynhyrchiad ysblennydd hwn yn eich canolfan gelfyddydau / sinema leol, gan fod y cyfan yn cael ei ddarlledu’n fyw.

Darllediad Byw: Dydd Mawrth, 14 Chwefror, 2017
Ail-ddangosiad (gydag is-deitlau Saesneg) – dyddiadau amrywiol.

“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll;
Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael am ei wrhydri. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y  diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

“… y mae pethau
Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.”

Addas i oedran 11+.
Ceir manylion llawn y canolfannau yma

Can’t make it to Caerphilly Castle to see Macbeth? With our new venture, Theatr Gen Byw, you can enjoy this spectacular production broadcast live to your local cinema / arts centre.

Live Broadcast, Tuesday 14 February, 2017
Repeat Screenings (with English sub-titles)

“Fair is foul and foul is fair;
Hover through the fog and filthy air.”

The King of Scotland has generously rewarded his brightest warrior. But supernatural beings have predicted for Macbeth a far greater honour. When his merciless wife is captivated by the promise of infinite power, fuelling her husband’s fiendish ambition, he is doomed, and their devilish plans turn to bloody massacre.

Theatr Genedlaethol Cymru’s site-specific production – live from Caerphilly Castle – of Shakespeare’s brutal tragedy in a new Welsh translation by the late Gwyn Thomas.

Cast includes Richard Lynch (Pobol y Cwm, Hinterland) as Macbeth and Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) as his merciless wife.

Director: Arwel Gruffydd.

“Things bad begun make strong themselves by ill.”

Age guidance: 11+.

Comment Wall

Add a Comment

RSVP for Theatr Gen Byw to add comments!

Join National Theatre Wales Community

Attending (1)

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service