Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Theatr Felinfach
gan Caryl Lewis
Mae sibrydion yn bethau cyffredin iawn i’w clywed mewn pentrefi cefn gwlad. Ond sibrydion go wahanol sy’n poeni un gymuned fechan. Weithiau’n gwmni diddan, dro arall yn datgelu cyfrinachau, mae sgyrsiau Elsi gyda’r meirwon yn anesmwytho’r gymuned. Ai rhodd neu groes i Elsi yw ei dawn anghyffredin?
Mewn drama newydd wedi ei gosod yng Ngheredigion y 1950au gan un o hoff awduron Cymru, cawn stori iasol y negesydd wrth iddi ail fyw nid yn unig ei gorffennol dirdynnol ei hun, ond boen a thrallod y gymdogaeth i gyd.
Cyfarwyddwr: Ffion Dafis
Theatr Genedlaethol Cymru, in partnership with Theatr Felinfach
By Caryl Lewis
Whispers are a common feature of countryside life. But a very different kind of whispering is worrying one small community. Elsi’s conversations with the dead are unsettling the village, revealing long buried secrets and telling hidden truths. Is Elsi’s extraordinary talent a gift or a curse?
A new play set in 1950s Ceredigion by one of Wales’ favourite authors, Y Negesydd is a chilling tale of an exceptional woman as she re-lives not only her own harrowing past, but the pain and torment of a community facing rapid change.
Director: Ffion Dafis