Ar hyn o bryd, rwy'n ceisio datblygu prosiect theatr lled-wirioneddol, hynny yw, mae'n cynnwys elfennau o theatr verbatim, ond hefyd elfennau dychmygus hefyd, drwy ddychmygu sut byddai'r sgyrsiau wedi digwydd? Yn naturiol mae hyn yn anodd efo pobol sydd yn bodoli yn y byd go iawn, gan fod angen i'r portread fod yn un realistig, ond hefyd un nad yw'n enllibus - tricky. O, ac er mwyn cymhlethu pethau mae e'n ddwyieithog. Oes gan unrhyw un unrhyw brofiadau o weithio ar theatr ferbatim?