Helo! Dyma fi yn ôl yn y swyddfa ar ôl diwrnod llawn o waith cyfranogi {150 } ddoe. Cael cyfarfod a chlywed criw Ysgol Rhyd y Waun yn perfformio ei darn nhw, a gwir i chi mae nhw werth i weld. Dwi w…

Helo!

Dyma fi yn ôl yn y swyddfa ar ôl diwrnod llawn o waith cyfranogi {150 } ddoe.

Cael cyfarfod a chlywed criw Ysgol Rhyd y Waun yn perfformio ei darn nhw, a gwir i chi mae nhw werth i weld. Dwi wrth yn modd bod mewn ystafell ymarfer efo criw ifanc o bobol sydd mor hyderus, ac yn caru bod ar lwyfan, mae wir yn deimlad gwefreiddiol. Mae'r criw yma wedi bod yn ymarfer yn drylwyr iawn, a dwi wir yn edrych ymlaen at weld y criw yn perfformio wythnos nesaf.

Wedyn off a fi yn y golff bach llwyd am fusnes i'r lleoliad, (Storfa’r tŷ opera cenedlaethol Abercwmboi Aberdâr) lle oedd na lot o waith yn mynd ymlaen, cotiau "high Viss" yn bob man, a hetiau caled ar ben pawb wrth i'r lampau cael ei gosod, ar set gael ei greu.

Pobol ifanc yn chwerthin wrth greu darn o theatr efo Llinos mai wrth y lliw oedd y drydedd rhan o’r dydd, a gwir i chi mae lot mawr iawn o waith yn digwydd yma, dros 30 o bobol ifanc yn mwynhau theatr, teimlad hynod braf i fod yn rhan o honno, ar holl bobol ifanc i weld yn mwyhau ei hunan yn fawr iawn wrth berfformio. Daeth rhai o’r props i'r ystafell ymarfer, wrth i ni sylweddoli bod y perfformiadau yn agosáu, ond ni phoener bydd bob dim yn ei le yn daclus a del, wrth i ni fynd yno eto i ymarfer Dydd Sadwrn.

Edrych ymlaen Bro Taf!

Cariad mawr

Llinos

Views: 313

Comments are closed for this blog post

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service