A message from the Chair of National Theatre Wales' Board / Neges gan gadeirydd bwrdd National Theatre Wales, Clive Jones

“National Theatre Wales (NTW) is planning a programme of work for next year which will explore the nature of truth and our fragmenting sense of community, against a backdrop of the UK’s Brexit deadline and the moon landing 50thanniversary.

Productions, further details of which will be revealed later this month, will take place in a variety of locations, connecting with audiences in Wales and beyond. Performances and events will be site-located in the landscape, found spaces, theatres, urban centres, rural locations and online. The company will prototype new ideas, as well as bring ambitious new work to formal theatre spaces.

In keeping with NTW‘s eight-year history, Welsh talent will be at the centre of the 2019 season, featuring internationally renowned Welsh artists, as well as offering creative development opportunities for those wishing to further their artistic practice. As ever, NTW will work across the whole of Wales.

Productions will come in many shapes and sizes. There will be a trilogy of work from a leading Welsh writer, located in the Welsh landscape, theatres and on digital platforms. The latest phase of The Storm Cycle, launched last year, will hit Wales in 2019, working with young people aged 16-25 – a section of the population with intense interests at stake in the Brexit story – to reflect and explore our own options for the choices we face.

New writing, premiered as part of this year’s NHS70 Festival, which brought performances to every health board in Wales, will be taken to new and larger audiences.

An immersive theatre experience with over 300 participants will mark Wales’ Year of Discovery and explore notions of difference and otherness.

From May to November, a multi-artform installation will link Wales and Venice and provide rich digital rewards for our audiences.

For the second year in succession, deeply embedded theatrical work will be undertaken in the communities of Wrexham and Pembrokeshire, and NTW will also launch a brand new two-year European project with partners in France, Romania and Portugal.

NTW TEAM, which has over 1,000 members and is dedicated to continuous engagement with artists and communities, will become even stronger, exploring new ways to co-create work, building towards two new, original productions in 2020 and 2021.

In addition to delivering one of its most ambitious programmes to date, NTW will host a series of meetings and creative exchanges as part of its next, three-year strategic review and ongoing dialogue with artists.

Like the artists of Wales, NTW believes in an open-minded, plural and expansive theatre. One that is internationalist in its outlook but rooted in Wales and which seeks to make different kinds of theatre for Wales’ diverse audiences. The company welcomes this dialogue, but will not hesitate to rebut factually inaccurate claims.

The suggestion that the company’s output has drastically diminished in the last two years is an example of such inaccuracy. During the leadership of the company’s founding Artistic Director (2008-2015), NTW staged 41 productions. During the tenure of current Artistic Director Kully Thiarai (since 2016), the company has staged 21 productions in just over two years.

The company has a Wales-first casting policy. This means that NTW will always strive to offer roles first and foremost to Welsh and Wales-based performers. However, the company, in seeking to reflect the rich cultural diversity of Wales and in accordance to its stated aims on diversity, maintains the right to cast further afield to fulfil its artistic ambition.

From day one, National Theatre Wales has sought to challenge and explore perceptions of what theatre can and should be. It has and always will seek to create extraordinary experiences for audiences and push boundaries to ensure a thriving and evolving theatre culture. That remains unchanged.

NTW is open to constructive debate about the role and mission of a national theatre, in-line with its policy of being as transparent as possible, a core value of the company’s. As a national company, NTW recognises and respects that it holds a rare and privileged position that comes with huge responsibility. The company takes that responsibility very seriously. All strategic decisions are taken with great care and consideration. These are not easy or simple decisions to make – nor should they be.

Eight years ago the company set out to be a radical and innovative force as Wales’ English language theatre, taking the whole nation of Wales as its stage and its passion. Those aims and ambitions are as true today as then.

The company has won high praise from many quarters for its work, including its most recent production, Tide Whisperer, which transfixed the people of Tenby in September with its startling stories of refugees on land and sea. A huge hit with local audiences, the production has also been viewed by more than 9,000 people online in 28 countries around the world.

NTW looks forward to delivering a rich range of work in 2019, as it also prepares for its 10th anniversary year in 2020 and a lively but fair-minded debate about the opportunities and challenges that lie ahead.”

--

“Mae National Theatre Wales (NTW) yn cynllunio rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf fydd yn archwilio natur gwirionedd a'n hymdeimlad o gymuned sy'n chwalu, yn erbyn cefndir dyddiad terfyn Brexit y DU a hanner can mlwyddiant glanio ar y lleuad.

Bydd y cynyrchiadau, y bydd manylion pellach amdanynt yn cael eu datgelu yn ddiweddarach y mis hwn, yn digwydd mewn amrywiaeth o leoedd, ac yn cysylltu â chynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt. Bydd perfformiadau a digwyddiadau wedi'u lleoli mewn safleoedd yn y dirwedd, mannau a ganfyddir, theatrau, canolfannau trefol, lleoliadau gwledig ac ar-lein. Bydd y cwmni yn creu prototeipiau o syniadau newydd, yn ogystal â dod â gwaith newydd uchelgeisiol i ofodau theatr ffurfiol.

Yn gydnaws â hanes wyth mlynedd NTW, bydd doniau Cymreig yn flaenllaw yn nhymor 2019, fydd yn cynnwys artistiaid Cymreig sy'n enwog yn rhyngwladol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd datblygiad creadigol ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu harfer artistig ymhellach. Yn yr un modd ag erioed, bydd NTW yn gweithio ar draws Cymru gyfan.

Bydd cynyrchiadau o bob lliw a llun yn cael eu creu. Bydd trioleg o waith gan un o brif awduron Cymru, wedi'i leoli yn nhirwedd Cymru, mewn theatrau ac ar lwyfannau digidol. Bydd rhan mwyaf diweddar  The Storm Cycle, gafodd ei lansio llynedd, yn bwrw Cymru yn 2019, ac yn gweithio gyda phobl ifanc 16-25 – rhan o'r boblogaeth â buddion dwys yn y fantol yn stori Brexit - i fyfyrio ac archwilio ein hopsiynau ein hunain ar gyfer y dewisiadau rydym yn eu hwynebu.

Byddwn yn mynd ag ysgrifennu newydd, a gyflwynwyd am y tro cyntaf fel rhan o ŵyl NHS70 eleni ac a ddaeth â pherfformiadau i bob bwrdd iechyd yng Nghymru, i gynulleidfaoedd newydd a mwy o faint.

Bydd profiad theatr ymdrochol gyda dros 300 o gyfranogwyr yn nodi Blwyddyn Darganfod Cymru ac yn ymchwilio i syniadau ynghylch gwahaniaeth a dieithrwch.

Rhwng mis Mai a mis Tachwedd, bydd gosodiad yn cynnwys sawl ffurf ar gelfyddyd yn cysylltu Cymru a Fenis ac yn darparu buddion digidol cyfoethog ar gyfer ein cynulleidfaoedd.

Am yr ail flwyddyn yn olynol, ymgymerir â gwaith theatraidd sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn cymunedau yn Wrecsam a Sir Benfro, a bydd NTW hefyd yn lansio prosiect Ewropeaidd newydd sbon dros ddwy blynedd gyda phartneriaid yn Ffrainc, Romania a Phortiwgal.

Bydd NTW TEAM, y mae ganddo dros 1,000 o aelodau ac sydd wedi'i ymroi i ymgysylltiad parhaus gydag artistiaid a chymunedau, yn dod hyd yn oed yn gryfach gan archwilio ffyrdd newydd i gyd-greu gwaith, ac anelu at gynyrchiadau gwreiddiol, newydd yn 2020 a 2021.

Yn ogystal â chyflawni un o'i raglenni mwyaf uchelgeisiol hyd yn hyn, bydd NTW yn cynnal cyfres o gyfarfodydd a chyfnewidfeydd creadigol fel rhan o'i adolygiad strategol tair blynedd nesaf, a deialog parhaus gydag artistiaid.

Yn yr un modd ag artistiaid Cymru, mae NTW yn credu mewn theatr sy’n lluosog a helaeth gyda meddwl agored. Un sy'n rhyngwladol ei naws ond â'i gwreiddiau yng Nghymru ac sy'n ceisio gwneud gwahanol fathau o theatr ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol Cymru. Mae'r cwmni yn croesawu'r drafodaeth hon, ond bydd yn barod iawn i wrthbrofi honiadau sy'n ffeithiol anghywir.

Mae'r awgrym bod allbwn y cwmni wedi lleihau'n sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yn enghraifft o anghywirdeb o'r fath. Yn ystod arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Artistig cyntaf (2008-2015), llwyfannodd NTW 41 o gynyrchiadau. Yn ystod cyfnod Kully Thiarai fel Cyfarwyddwr Artistig (ers 2016), mae'r cwmni wedi llwyfannu 21 o gynyrchiadau mewn ychydig dros ddwy flynedd.

Mae gan y cwmni bolisi castio Cymru'n gyntaf. Golyga hyn y bydd NTW bob amser yn ymdrechu i gynnig rolau yn gyntaf ac yn bennaf i berfformwyr Cymreig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r cwmni, wrth geisio adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru, ac yn unol â'i nodau a leisiwyd ar amrywiaeth, yn cadw'r hawl i gastio'n ehangach er mwyn cyflawni ei uchelgais artistig.

O'i ddiwrnod cyntaf mae'r cwmni wedi ceisio herio ac archwilio canfyddiadau o'r hyn y gall theatr fod a'r hyn y dylai fod. Mae wedi ceisio creu profiadau anhygoel ar gyfer cynulleidfaoedd a gwthio ffiniau'r ffurf ar gelfyddyd i sicrhau diwylliant theatr sy'n ffynnu ac yn esblygu, a bydd bob amser yn parhau i wneud hynny. Nid yw hynny wedi newid.

Mae NTW yn agored i drafodaeth adeiladol am rôl a chenhadaeth theatr genedlaethol, yn unol â'i bolisi o fod mor dryloyw â phosibl, sef un o werthoedd craidd y cwmni. Fel cwmni cenedlaethol, mae NTW yn cydnabod ac yn parchu ei fod mewn sefyllfa anghyffredin a breintiedig sy'n dwyn cyfrifoldeb enfawr. Mae'r cwmni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif. Gwneir pob penderfyniad strategol gyda gofal ac ystyriaeth fawr. Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd neu syml i'w gwneud - ac ni ddylent fod felly.

Wyth mlynedd yn ôl aeth y cwmni ati i fod yn rym radical ac arloesol fel y theatr Saesneg ei hiaith i Gymru, gan ddefnyddio cenedl gyfan Cymru fel ei lwyfan, ac mae ei angerdd a'r nodau ac uchelgeisiau hynny mor wir heddiw ag yr oeddent bryd hynny.

Mae'r cwmni wedi ennill canmoliaeth uchel o sawl cyfeiriad am ei waith, gan gynnwys ei gynhyrchiad mwyaf diweddar, Tide Whisperer, wnaeth hoelio sylw pobl Dinbych-y-Pysgod ym mis Medi gyda'i straeon syfrdanol am ffoaduriaid ar dir a môr. Yn hynod boblogaidd gyda chynulleidfaoedd lleol, mae'r cynhyrchiad hefyd wedi cael ei weld gan mwy na 9,000 o bobl ar-lein, ym mwy na 28 gwlad ledled y byd.

Mae NTW yn edrych ymlaen at gyflawni amrywiaeth gyfoethog o waith yn 2019, wrth iddo baratoi ar gyfer blwyddyn ei ddeng mlwyddiant yn 2020 a thrafodaeth fywiog ond teg am y cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau.”

Views: 242

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service