Adolygiad 'Y Storm' gan Shakespeare (cyfiethiad gan Gwyneth Lewis) Theatr Genedlaethol Cymru. / Review of Theatr Genedlaethol's 'Y Storm' by Shakespeare (Translation by Gwyneth Lewis)

"Mae uffern yn  wag, a’r diafoliaid yma.”

 

“Wyt ti’n rhan o’r perfformiad?”

Mae’r sioe ar fin cychwyn, a mae’r fenyw drws nesaf yn gofyn y cwestiwm i mi yn eithaf uchel.

“Y...nac ydw. Dwi jest yma i wylio’r sioe.” rwy’n ateb yn ddryslyd.

Does dim gwadu’r ffaith:  mae mwyafrif y cynulleidfa cryn lawer yn hynach na fi, ond mae beth dwi’n gweld yn ystod y dwy awr nesaf yn uwcholeuo’r ffaith bod y cynhyrchiad  yn haeddu denu cynulleidfa eang o bob grwp oedran.  Mae’r cynhyrchiad yn ffres, ifanc, egniol ac yn fwy na ddim, yn wahanol.  Yn amlwg mae Theatr Genedlaethol yn symud tuag at cynhyrchiadau sy’n gwthio’r ffiniau.

Mae cyfieithu o unrhyw iaith i’r llall yn tueddol o gario problemmau ynglun a trosgynnu, yn enwedig pryd mae’n cyfiethiad o, yn ol pob tebyg, drama olaf Shakespeare i’r Gymraeg. Mae cyfiethiad Gwyneth Lewis, cyn fardd cenedlaethol Cymru, yn un dwys a trylwyr; mae’r Cymraeg yn llifo’n farddonol, gan sicrhau bod y darn yn hygyrch ac yn hawdd i ddeall.  Wrth ystyried bod y cynhyrchiad yn cynnwys elfennau syrcas, roedd y dewisiad i lwyfannu’r sioe yn pabell yng nghanol yr maes Eisteddfod  yn hynod o briodol. Wrth gerdded mewn roedd yr awyrgylch yn cael ei sefydlu’n syth, a gyda cyfarwyddwyr fel Elen Bowman, roeddwn i’n hyderus bod y perfformiad yn mynd i fod yn un a oedd yn mynd i godi syndod ar y cynulleidfa.  Mewn ffordd hollol ffantastig wrth gwrs. Roedd darnau o ddefnydd gwyn yn hongian o’r nenfwd er mwyn gweithio fel sgrin, fel bod delweddau a fideos effeithiol  yn cael ei daflunio arni.  Trwy gydol y berfformiad roedd y naws yn gyson, gyda goleuadau diddorol ac, ambell i waith, iasol.

Roedd thema’r Syrcas yn un addas iawn, ac mi roedd yn dod a rhywbeth gwahanol i’r perfformiad. Roedd y syniad o syrcas yn dod a theimlad hudolus i’r darn, elfen sydd yn amlwg yn bwysig iawn i’r ddrama gwreiddiol. Fe wnes i fwynhau’r defnydd y wialen gan Prospero (Llion Williams). I mi, roedd hyn yn  atgofa fi o Gwydion, hen ddewin Cymraeg,  ac felly yn cyfeirio nol i’r syniad o ‘hud’ond hefyd yn cyfrannu rhyw fath o elfen arwyddocaol Cymraeg i’r darn.  Roedd y cymeriadau yn cerdded trwy ac yn sefyll yng nghanol y cynulleidfa yn aml, dyfais a oedd wedi gweithio'n dda er mwyn cyfleu llygaid gwyliadwrus Prospero dros yr ynys.

O ran perfformiadau, roedd y cast yn un cryf iawn, gyda Llion Williams yn rhoi perfformiad di-nam fel Prospero. Roedd Meilir Rhys Williams fel yr Ysbryd Ariel yn hudol ac annaerol,  a’r perthynas rhwng Fferdinand (Gwydion Rhys) a Miranda (Lisa Marged) yn credadwy a ddeniadol.

Rwy’n mynnu eich bod chi’n ceisio gweld y cyfieithiad am ei lwyfannu diddorol, y perfformiadau gwych, a’r cyfiethiad siarp a crwn. Da iawn i Theatr Genedlaethol Cymru; rwy’n edrych mlaen yn fawr iawn i brosiects dilynol y cwmni.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

"Hell is empty and all the devils are here."

“Are you part of the performance?”

The show is about to start and the lady next door to me asks this question loudly.

“Err...no, I’m just here to watch the performance.” I reply, startled.

There’s no denying the fact that the majority of the audience are considerably older than me, but what I witness over the next two hours only highlights the issue that such a performance is arguably targeted, and definitely should be enjoyed by wider-ranged audience. The performance is fresh, exciting, young, energetic and different. Theatr Genedlaethol is obviously moving towards productions that push the boundaries.

Translating from any language to another poses specific problems regarding transcendence, especially when one considers the attempt to translate one of Shakespeare’s greatest works into the Welsh language. Gwyneth Lewis, former national bard of Wales, achieves a fantastically rich and thorough translation; the Welsh flows lyrically, also ensuring that the language is accessible and easily understood. After discovering that the performance would include elements of the circus, the decision to stage the piece aptly in a tent in the middle of the Eisteddfod field becomes apparent. On walking into the space, the ambience was immediately established, and with a director like Elen Bowman, I was confident that some aspects of the performance would perhaps surprise some members of the audience: in a purely fantastic way of course. There were large pieces of white material hanging from the rafters, acting as a screen onto which effective images and videos were able to be projected. Throughout the whole performance, the atmosphere was consistent, with use of interesting and often eerie lighting.

The theme of the circus was extremely appropriate, and brought something different to the performance. The concept brought a certain magical sense, an important element in Shakespeare’s original work. I particularly enjoyed the use of Prospero’s (Llion Williams) whip, as it reminded me of Gwydion, the Welsh magician, and thus harked back to the idea of ‘magic’, but also giving it a distinctly Welsh feel. The characters often walked through and stood amongst the audience, a device which worked well to convey the watchful eye of Prospero over the island.

With regards to performances, the cast was an impressively strong one. Llion Williams gave a flawless performance as Prospero. Meilir Rhys Williams as the spirit Ariel was enchanting and unearthly, whilst the relationship between Fferdinand (Gwydion Rhys) and Miranda (Lisa Marged) was believable and engaging.

I insist that you make the effort to see this production for its interesting staging, excellent performances, and a sharp, well-rounded translation. Well done to Theatr Genedlaethol Cymru. I look forward to subsequent projects from the company. 

http://www.theatr.com/cy/sioeau/y-storm.aspx

Views: 1047

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service