Adolygiad Young Critics: 'Fe Ddaw'r Byd i Ben' gan Dafydd James @SHERMANCYMRU

                 Mae Dafydd James wedi llwyddo i ysgrifennu sioe gyda haenau amrywiol sy’n debygol o wneud i’r gynulleidfa crio a chwerthin gyda’i cynhyrchiad newydd ‘Fe Ddaw’r Byd i Ben’ Trwy deulu’r sioe, mae James yn ceisio tynnu sylw at y pethau pwysig yn fywyd.

        Mae’r sioe yn canolbwyntio ar deulu fferm y noswyl diwedd y byd pan mae Sara (Annes Elwy), y chwaer estron, yn cyrraedd adref ar ôl pum mlynedd o ddistawrwydd. Tra bod Sara yn

disgwyl i’r byd i orffen, mae efaill Sara, Catrin (Elliw Dafydd), yn disgwyl babi. Yna mae Mabli (Melangell Dolma) ei chwaer bach yn credu fod Sion Corn ar y ffordd, y fam (Siw Huws) off ei phen ar“meow meow”gyda Tom (Jay Worley), tad y babi a mae’r tad mewn bocs hufen ia yn y lloft. Wrth i’r amser agosai, mae’r teulu yn dysgyn i ddarnau. Mae pethau yn cael ei ddweud ac mae rhaid iddynt wynebu ei gilydd i weithio drwy beth chwalodd y perthynas.

         Trwy ysgrifennu am deulu cymhleth llawn ddifrod mae’n hawdd gallu fod yn ddiog ag amlwg

gyda’r cymeriadau, ond mae rhaid canmol Dafydd James sydd wedi llwyddo i ysgrifennu cymeriadau

cryf iawn; mae gan bob cymeriad stori ddiddorol sydd yn gwneud i’r gynulleidfa poeni amdanynt.

         Mae’r ganmoliaeth fwyaf yn mynd Siw Huws sydd yn chwarae Fam y teulu. Mae’r cariad, poen a’r angerdd ynddi hi drwy’r sioe yn anhygoel ac yn dorcalonnus ag mi roedd ei newid rhwng adegau dwys a digri yn llwyddianus iawn. Ynghyd ag  yr actorion proffesiynol Siw Hughes ag John Norton, mae’r cast yn cynnwys myfyrwyr Coleg Brenhinol Celf a Drama Cymru ag mi roedd hi’n braf iawn gweld wynebau newydd mor dalentog yn dod i’r blaen. Mae portread Elliw Dafydd o Catrin, yn  ferch hoyw sydd hefo digon o lais yn enwedig angen digon o sylw a canmnoliaeth, mae’r themau mae’r areithiau mae ei chymeriad yn adrodd yn bwysig iawn ag mi lwyddodd Elliw Dafydd i cyfleu cymeriad angerddol gryf.

       Cafodd y set ei osod fel ty fferm syml trwy y defnydd o olau a sain. Roedd y lwyfan yn aml-haenog gyda ddigon o stafelloedd wahanol, er fod y dull yma yn dechneg wych i greu’r ty a’r gwahanol olygfeydd o fewn y ty teimlaf fod hyn ddim wedi gweithio’n ogystal am golygfeydd oedd yn digwydd tu allan i’r ty fferm.

         Mae’r sioe ar ei rediad gyntaf ag am cael ei ddatblygu’n bellach gan Dafydd James yn y dyfodol ar ol cael ei perfformio ag ei technegu gan myfyrwyr Coleg Brenhinol Celf a Drama. Mae’r themau a’r pynciau cafodd ei godi a’i cynrhychioli yn y sioe yma’n bwysig iawn ag mi oedd hi’n bleserus gweld llais newydd yn dod i’r blaen yn theatr Gymraeg. Mi fydda’i yn edrych ymlaen i weld y sioe wedi datblygu ag dod yn nol ag mi fydda’i yn annog unrhyw un arall i’w fynd i’w weld.

Llywela Ann

Views: 220

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service