Adolygiad Young Critics: Lights Down, Listen Sessions: 'Terrace' gan Dafydd James

              ‘Terrace’ gan Dafydd James yw’r sioe radio diweddaraf i’w chael ei berfformio yn y Sherman Cymru fel rhan o’r sesiynau  ‘Lights Down, Listen’ gan y Sherman 5 mewn cydweithrediad gyda BBC Wales Radio Drama. Bwriad ‘Lights Down, Listen’ yw cael sioeau radio newydd allan tra tynnu pobl o’i bywydau arferol prysur ag gwneud iddyn nhw gwrando ar rywbeth heb wrthdyniadau. 

          Mae’r ddrama yn dilyn bywydau cwpwl  – Mathew (Alex Harries) a Stevie (Lee Mengo) fel maen nhw’n symud fewn i dŷ newydd yn Grangetown, Caerdydd er mwyn gallu delio yn well gyda salwch Mathew. Fel mae’r sioe yn mynd ‘mlaen rydych chi’n cael eich cyflwyno i gymeriadau’r stryd – sef ei chymdogion trwy nifer o ffurfiau gwahanol. Mae lot o’r stori yn dod yn fyw trwy’r waliau gyda Stevie yn dechrau cymryd mantais o’r waliau tenau ag yn dechrau creu storiau difyr am ei chymdogion a beth sydd yn “wir mynd blaen tu ôl i’r llenni”. Y cymdogion sydd yn sefyll allan o’r sioe yw Heledd (Eiry Hughes) sef hen ffrind Mathew sydd yn gymeriad bywiog a caredig sydd hefo digon o lais a David (Steve Toussaint) sydd yn dod a thensiwn i’r sioe gyda’r awgrym fod o’n gwerthu stolen goods â'i fod o’n PIMP yn cael ei ddweud ar draws y stryd.

          Yn ‘Terrace’ mae Dafydd James wedi llwyddo i ysgrifennu drama ddoniol iawn ag  onest ofnadwy sydd yn cynrychioli stryd amlddiwylliannol  yng Nghaerdydd yn gryf iawn trwy gynrychioli a chynnwys pobl o amrywiaethau o hil, rhywioldeb a dosbarth cymdeithasol gwahanol ac mae’r ffordd mae o’n cynrychioli ag trafod perthynas rhwng y bobl yma i gyd yn hynod o ddiddorol ag eye opening.  Gyda pherfformiad gwych gan Alex Harries a Lee Mengo mae perthynas Stevie a Mathew yn dod ar draws yn annwyl ofnadwy, gyda rhannau yn gwneud i chi rolio chwerthin ag crio.

          Fel mae’r sioe yn mynd ymlaen mae iechyd Mathew yn gwaethygu tra mae’r storiâu o bwy sydd o gwmpas y ddau fachgen yn mynd yn fwy gwyllt gyda Stevie yn mynd yn obsessed hefo beth mae pawb o gwmpas nhw yn gwneud tan o’r diwedd mae’r gwir yn dod allan ac mae realiti yn taro. 

         Cafodd y llwyfan ei osod fel stafell fyw hen fashiwn bach a'i oleuo gan nifer o ganhwyllau a lampau vintage a dyddiedig gyda fairy lights yn mynd ar draws y to a’r gynulleidfa. Credaf fod hyn yn creu awyrgylch hynod o gartrefol a hudol iawn. Roedd cynnwys ‘Terrace’ fel rhan o ‘Lights Down, Listen’ yn syniad da iawn gan fod y profiad yn un oedd yn cael ei rhannu gyda phawb arall, roedd fod yno yn gwrando ar sioe radio yn gwneud i’r gynulleidfa teimlo’n rhan o’r sioe, fel tasa nhw yn byw yn Grangetown gyda’r cymeriadau yma i gyd ag fel bysa nhw yn gwrando ar bob dim trwy’r waliau fel yr oedd Stevie a Mathew yn hytrach ‘na gwrnado ar  ben ei hunain.

Views: 219

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service