Adolygiad Young Critics: 'TOM - A Story of Tom Jones' gan Theatr Na nOg @theatrnanog

              Tom Jones, mae pawb wedi dod i’w adnabod o fel drysor cenedleuthol gyda gyrfa sydd yn rhedeg drosd 50 o flynyddoedd. Mae’r byd wedi disgyn mewn cariad gyda’i lais anferthol a’i carisma ag rwan mi rydym yn cael clywed y hanes o syd ddaeth o i fod yn y dyn mae pawb yn ei edmygu heddiw.

           Ysgrifennwyd gan Mike James mae ‘Tom – A Story of Tom Jones’ yn ffycysu ar bywyd Tom Jones cyn ei lwyddiant. Rydym yn cael dod i’w adnabod y mab o Bontypridd a phriododd yn ifanc, gweithiodd yn galed i gynnal ei deulu a’i freuddwydion yn erbyn yr ods.

           Gyda llwyfannu amlbwrpas anhygoel gan Sean Crowley rydym yn cael gweld y daith wynebodd Tom Jones ar y ffordd i’r top trwy newid y llwyfan yn gyson gyda’r defnydd o gefndir a sgriniau sydd yn cael ei manipiwleiddio er mwyn creu mwy nag un lleoliad.  Mae’r gosodiad ar gefn y llwyfan yn gwneud job ardderchog yn cyfleu datblygiad gigs Tom a’r band gyda newidiadau manwl yn cael ei ychwanegu pob cam sydd dim ond yn cael ei ganmol gyda phresenoldeb cryf Kit Orton fel Tom Jones.

           Mae portread Kit Orton o Tom Jones yn cyfleu’r charm, talent a sex appeal sydd gan Tom ar lwyfan yn wych iawn ag oedd yn ddigon i gael ymateb gwyllt gan y merched y gynulleidfa ond mae’r ganmoliaeth fwyaf yn mynd tuag at hogia’r band “Tommy Scott and The Senators” sef Daniel Lloyd, Kieran Bailey, Alex Parry a Tom Connor sydd yn cyfleu’r arddull roc a roll o’r 50au yn berffaith trwy ei hyblygrwydd fel cerddorion ag actorion. Yno mae presenoldeb Elin Phillips fel Linda, ei wraig gefnogol ag annwyl yn y ddrama yn ymddwyn fel asgwrn gefn i’r sioe trwy ddilyn ei berthynas nhw a’r straen mae breuddwyd Tom yn cael ar ei deulu.

            Mae TOM - A story of Tom Jones gan Theatr NanOg yn sioe gerdd newydd llawn gymeriadau all pawb garu, stori ysbrydoledig sydd yn cael y gynulleidfa ar ei draed mewn hapusrwydd ar y diwedd, sydd yn mynd a chi drwy amrywiaeth o deimladau. Ar hyn o bryd mae’r sioe ar daith ar hyd y wlad gan ddechrau yn y lle ddechreuodd i gyd sef ‘Muni Arts Center’ ym Mhontypridd. Gyda chymysg o ganeuon Tom Jones ar y diwedd mae’r theatr yn cael ei drawsnewid fewn i sioe ac mae’r stafell yn teimlo fel parti anferth gyda’r gynulleidfa i gyd ar ei draed yn dawnsio ag yn canu.

Llywela Ann

Views: 307

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service