Y gwanwyn hwn, mae Articulture a phartneriaid yn lansio #AgorAllan – gyda chronfa o £15K ar gyfer artistiaid heb gynrychiolaeth sylweddol i ddatblygu a theithio gweithiau celf awyr agored newydd yng Nghymru.
Oes gennych chi syniad? Mae’n syml - cysylltwch â ni i ddweud helo.
Ysbryd y cyfle hwn yw 'agor allan' – agor lleoedd, syniadau, posibiliadau a chamu allan yn yr awyr agored gyda'i gilydd.
Mae'r cyfle hwn i artistiaid sydd eisiau gweithio yn y Gymraeg, y rhai sy'n uniaethu fel Pobl Dduon, Frodorol neu Bobl o Liw a phobl sy'n Fyddar neu'n Anabl. Rhaid i’r prif artist fod wedi ei leoli yng Nghymru.
Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sy'n gweithio yn yr awyr agored, a'r rhai a hoffai wneud hynny am y tro cyntaf.
Oes gennych chi syniad?
Cysylltwch â ni i ddweud helo -
rosie@articulture-wales.co.uk
07966 071073 (ffonio neu neges destun),
facebook.com/ArticultureWales
@Articulture_
Mae angen i chi wneud hyn erbyn diwedd dydd Gwener 23 Ebrill fan bellaf, ond cofiwch gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch cyn hyn, fel y gallwn eich helpu i ddatblygu eich syniad.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma
#Cefnogir AgorAllan2021 gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Articulture a Chonsortiwm Celfyddydau Awyr Agored Cymru.
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community