#AgorAllan2022 – Cyfleoedd i artistiaid yng Nghymru greu celfyddydau awyr agored newydd a mynd â nhw ar daith

Y gwanwyn hwn, mae Articulture a phartneriaid ledled Cymru a’r DU yn lansio #AgorAllan2022 – sef cyfres o gomisiynau a chyfleoedd datblygu ar gyfer Artistiaid sy’n dymuno creu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru, y DU ac Iwerddon a mynd â nhw ar daith.
 
Fel yr awgryma’r teitl, ‘agor allan’ yw nod #AgorAllan2022 – agor y drws i leoedd newydd, syniadau newydd a phosibiliadau newydd yn yr awyr agored gyda’n gilydd.

A oes gennych syniad ar gyfer perfformiad neu brosiect celf awyr agored?
Mae’n syml – cysylltwch â ni i ddweud ‘helo’.

Mae cyfleoedd i Artistiaid yn cynnwys:

  • Creu & Mynd ar Daith: Cymru - dri chomisiwn newydd ar gyfer Artistiaid na chânt eu cynrychioli’n ddigonol ac sy’n dymuno datblygu celfyddydau awyr agored newydd yng Nghymru a mynd â nhw ar daith
  • Creu & Mynd ar Daith: DU & Iwerddon - dau gyfle comisiynu gyda phartneriaeth ‘Pedair Gwlad’ newydd, yn cael ei arwain gan Surge yn yr Alban
  • Cysylltu a Datblygu Syniadau ar gyfer Celfyddydau Awyr Agored - digwyddiadau rhwydweithio a cymorthfeydd parhaus gyda Chynhyrchwyr celfyddydau awyr agored.

NODYN: y dyddiad cau i gofrestru diddordeb yn 'Creu & Mynd ar Daith: Cymru' yw dydd Gwener 11 Mawrth - ond y cyfan sydd angen i artistiaid ei wneud yw anfon e-bost atom i ddweud helo, dim byd mwy.

Manylion llawn: https://articulture-wales.co.uk/agorallan2022 

Cyswllt: rosie@articulture-wales.co.uk

Ni waeth be fo’ch cefndir na’ch profiad – cofiwch gysylltu i gael sgwrs. Rydym yn croesawu pawb!

Views: 89

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service