Angen Rheolwr Llwyfan ar gyfer Parti Perfformio NTW TEAM, Sir Benfro

Mae NTW TEAM yn nodi diwedd y flwyddyn gyntaf o'n rhaglen pedair blynedd drwy gynnal Partïon Perfformio TEAM yn Sir Benfro a Wrecsam, gyda'r cyntaf yn digwydd yn Hwlffordd ym mis Tachwedd. 

Beth yw Parti Perfformio? Mae'n gymysgedd o berfformio, sgwrs a pharti!

Y diben? I gael gwell syniad o’r hyn sy’n bwysig i bobl Sir Benfro, i roi gwybod ychydig yn rhagor i chi am NTW a TEAM ac i ni ddarganfod yr hyn yr hoffech chi gael gan eich Theatr Genedlaethol wrth i ni barhau ar ein taith i greu sioe gyda'n gilydd dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. 

Ymunwch â ni am y cyfle i ddweud eich dweud ac i fod yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau o'r dechrau.  Bydd Catherine Paskell yn gweithio'n agos gyda'r gymuned i greu rhywbeth hwyliog a rhyngweithiol, wedi'i ysbrydoli gan TEAM yn Sir Benfro ac mae angen i chi gymryd rhan! 

Rydym yn chwilio am Rheolwr Llwyfan i gynorthwyo'r tîm creadigol a’r Cyfarwyddwr, Catherine Paskell, wrth ddatblygu perfformiadau byr, wedi'u dyfeisio i annog sgyrsiau gydag aelodau'r gynulleidfa yn ystod y digwyddiad. 

Bydd angen i chi fod ar gael:

Dydd Llun 19eg Tachwedd

Dydd Mawrth 20fed Tachwedd

Dydd Mercher 21ain Tachwedd

Dydd Iau, 22ain Tachwedd

 

Gan y bydd hyn yn digwydd yn Hwlffordd, mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan Rheolwyr Llwyfan yn Sir Benfro. Y ffi fydd £100 y dydd.

Byddai'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer ymgeisydd sydd ar hyn o bryd yn gweithio yn y celfyddydau sy'n dymuno datblygu eu harfer ymhellach.


Rolau, gofynion a chyfrifoldebau:

  • Mae profiad o weithio ar y cyd â phobl greadigol a grwpiau cymunedol eraill yn hanfodol.
  • Blwyddyn o leiaf o brofiad yn y theatr a'r celfyddydau.
  • Profiad o weithio ar gyfer cynyrchiadau theatr mewn lleoliadau nad ydynt yn draddodiadol 
  • Byddai dealltwriaeth o ddull ac ethos TEAM NTW yn fanteisiol.
  • Rhagweithiol, llawn dychymyg, hyblyg a gallu cydweithio â'r tîm creadigol ehangach.
  • Dilyn polisïau Iechyd a Diogelwch NTW a pholisïau eraill fel y bo'n briodol.


I wneud cais, dylech anfon copi o'ch CV a llythyr eglurhaol, yn dweud wrthym yr hyn yr ydych yn credu y gallwch gyfrannu i'r rôl hon, ar heb fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4, at Naomi Chiffi i team@nationaltheatrewales.org erbyn canol dydd ar 16 Hydref. Cynhelir cyfweliadau ar 29ain Hydref yn Sir Benfro.

Views: 116

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service