BURSARIES AVAILABLE FOR UNFUNDED ARTISTS TO ATTEND ON THE EDGE / BWRSARÏAU AR GAEL I ARTISTIAID HEB EU HARIANNU FYNYCHU ON THE EDGE

BURSARIES AVAILABLE FOR UNFUNDED ARTISTS TO ATTEND
ON THE EDGE
The ASSITEJ Artistic Gathering will be held in Birmingham from 2nd- 10th July 2016.
This is the first time such an event has been held in the UK and is an unprecedented  opportunity for Welsh practitioners to see productions from around the world as well as the UK and Ireland, to see work in progress, to participate in workshops and discussions and to meet and network with UK and International delegates who are involved in making theatre for young audiences.

Thanks to funding from Arts Council Wales, TYA Wales is able to offer a number of bursaries of £500 for unfunded Wales based  artists ( or artists with a proven commitment to Wales) to attend On the Edge.The bursary award will cover cost of a half week package  plus accommodation and travel.  A half week package runs from 2nd -5th July or 6th- 10th July. Some larger bursaries will be available for Artists with additional needs
For further details about On the Edge go to www.ontheedge2016.com . Full details of the programme and information about the packages will be available at end of January.

If you wish to apply for a bursary send your cv and a covering letter explaining what you hope to get out of attending On the Edge to kevin@theatriolo.com by 5pm February 8th 2016. For further information about the bursaries or any questions email kevin@theatriolo.com 

The applications will be considered by a panel consisting of Sarah Argent ( TYA UK Board Member and Freelance Director specialising in Theatre for Early Years) Iola Ynyr ( Artistic Director of Cwmni’r Fran Wen) Kevin Lewis (Artistic Director of Theatr Iolo) with advice from Arts Council Wales. Decisions will be made by 12th February 2016.
 
BWRSARÏAU AR GAEL I ARTISTIAID HEB EU HARIANNU FYNYCHU 
ON THE EDGE 
 

Cynhelir Cyfarfod Artistig ASSITEJ ym Mirmingham rhwng yr 2il a’r 10fed o Orffennaf 2016. Dyma’r tro cyntaf i ddigwyddiad o’r fath gael ei gynnal yn y DU ac mae’n gyfle heb ei ail i ymarferwyr o Gymru weld cynyrchiadau o bob cwr o’r byd yn ogystal â’r DU ac Iwerddon, gweld gwaith sydd ar y gweill, cymryd rhan mewn gweithdai a thrafodaethau a chyfarfod a rhwydweithio â chynrychiolwyr o’r DU ac yn Rhyngwladol sy’n ymwneud â chreu theatr ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.

O ganlyniad i gyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae TYA Cymru yn gallu cynnig nifer o fwrsarïau £500 i artistiaid heb eu hariannu yng Nghymru (neu artistiaid sydd ag ymrwymiad i Gymru) fynychu On the Edge. Bydd y bwrsari yn talu cost pecyn hanner wythnos yn ogystal â chostau llety a theithio. Mae pecyn hanner wythnos yn rhedeg o’r 2il -5ed Gorffennaf neu o’r 6ed- 10fed Gorffennaf. Bydd rhai bwrsarïau mwy o faint ar gael i Artistiaid ag anghenion ychwanegol. I gael rhagor o fanylion am On the Edge ewch i www.ontheedge2016.com. Bydd manylion llawn am y rhaglen a gwybodaeth am y pecynnau ar gael ddiwedd mis Ionawr.

Os hoffech wneud cais am fwrsari anfonwch eich cv a llythyr eglurhaol yn egluro sut yr ydych yn gobeithio elwa yn sgil mynychu On the Edge at kevin@theatriolo.com erbyn 5pm 8fed Chwefror 2016. I gael rhagor o wybodaeth am y bwrsarïau neu os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch e-bost at kevin@theatriolo.com 

Caiff y ceisiadau eu hystyried gan banel sy’n cynnwys Sarah Argent (TYA - Aelod Bwrdd y DU a Chyfarwyddwr Annibynnol sy’n arbenigo mewn Theatr ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar), Iola Ynyr (Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen), Kevin Lewis (Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo) a chyngor gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Gwneir penderfyniadau erbyn 12fed Chwefror 2016.
 
 
                       
   
    
  

Views: 337

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service