Casting Breakdown
HAIL CREMATION!
By Jon Tregenna, directed by Adele Thomas
A psychedelic musical about Llantrisant’s most eccentric doctor who became known as the ‘father of cremation’. Staged at Newbridge Memo, HAIL CREMATION! Tells the story of the extraordinary life of Dr. William Price, a Welsh visionary and an eccentric of Victorian society.
Roles
We are now seeking to complete our cast of exceptional performers who’ll be the heart of this psychedelic musical odyssey. We are looking for adventurous, flexible and playful performers who will create a panoply of characters, creatures and spirits. We welcome suggestions of all ethnicities for all roles, except where we indicate otherwise.
The performance world, which will evolve in rehearsal with the chorus, currently draws upon a huge range of forms from drag to Bob Fosse from The Mighty Boosh to Beyonce via Welsh clog dancing.
Meetings for this role will be in January 2020. Please get in touch now to express interest or suggest your client.
Audition
We will be meeting actors on the 11th, 19th and 20th December and may find further dates if required.
We will meet dancers in January 2020.
Engagement dates
Rehearsals commence Monday 10th February 2020
Previews from 23rd March 2020
Engagement concludes 4th April 2020
Remuneration
Our company wage is £585 / week.
If required, travel, relocation and/or commuting allowances will be provided in line with Equity rates.
Access
Please contact us if you have any access requirements and we will endeavour to meet them. This includes flexibility for people with caring responsibilities and we are a member of Parents in Performing Arts.
Want to get in touch?
This breakdown has been shared via Spotlight with all UK agents, who are invited to submit their clients for consideration. We will work with the productions’ lead creatives to select actors to invite to audition.
If you’re an unrepresented professional actor and/or you would like to speak directly to us about this project, please contact Mawgaine: casting@nationaltheatrewales.org
National Theatre Wales Casting Policy
When possible and appropriate, NTW considers and casts performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
NTW is committed to casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.
Manylion Castio
HAIL CREMATION!
Gan Jon Tregenna, cyfarwyddwyd gan Adele Thomas
- Sioe gerdd seicedelig am feddyg mwyaf ecsentrig Llantrisant a ddaeth yn adnabyddus fel 'tad amlosgi'. Yn cael ei llwyfannu yn Neuadd Goffa Trecelyn, mae HAIL CREMATION! yn adrodd hanes bywyd rhyfeddol Dr William Price, gweledigaethwr Cymreig ac ecsentrig yn y gymdeithas Fictoraidd.
Rolau
Rydym nawr yn ceisio cwblhau ein cast o berfformwyr eithriadol a fydd yn greiddiol i'r sioe gerdd seicedelig hon. Rydym yn chwilio am berfformwyr anturus, hyblyg a chwareus a fydd yn creu amrywiaeth o gymeriadau, creaduriaid ac ysbrydion. Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer pob ethnigrwydd ar gyfer pob rôl, ac eithrio lle'r ydym yn nodi fel arall.
Mae'r byd perfformio, a fydd yn esblygu mewn ymarferion gyda'r corws, ar hyn o bryd yn tynnu ar amrywiaeth enfawr o ffurfiau, o drag i Bob Fosse i The Mighty Boosh i Beyonce heb anghofio clocsio Cymreig.
Clyweliadau
Byddwn yn cyfarfod â pherfformwyr ar 11eg, 19eg ac 20fed o Ragfyr a gallem ddod o hyd i ragor o ddyddiadau os oes angen.
Dyddiadau'r gwaith
Ymarferion yn dechrau ddydd Llun 10fed Chwefror 2020
Rhagddangosiadau o 23ain Mawrth 2020
Daw'r gwaith i ben ar 4ydd Ebrill 2020
Tâl
Cyflog y cwmni yw £585 yr wythnos.
Os bydd angen, darperir lwfansau teithio, adleoli a/neu gymudo yn unol â chyfraddau Equity.
Mynediad
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad a byddwn yn ymdrechu i gwrdd â hwy. Mae hyn yn cynnwys hyblygrwydd ar gyfer pobl â chyfrifoldebau gofalu, ac rydym yn aelod o Parents in Performing Arts. mawgaine@nationaltheatrewales.org
Am gysylltu?
Rhannwyd y manylion hyn drwy Spotlight â holl asiantau'r DU, y'u gwahoddir i gyflwyno eu cleientiaid i'w hystyried. Byddwn yn gweithio gyda gweithwyr creadigol arweiniol y cynhyrchiad i ddewis actorion i'w gwahodd i glyweliad.
Os ydych chi'n actor proffesiynol heb gynrychiolaeth a/neu os hoffech siarad yn uniongyrchol â ni am y prosiect hwn, cysylltwch â Mawgaine: casting@nationaltheatrewales.org
Polisi Castio National Theatre Wales
Lle y bo'n bosibl ac yn briodol, mae NTW yn ystyried ac yn castio perfformwyr sy'n Gymry, sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi derbyn hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru.
Mae NTW yn ymrwymedig i gastio'n gynhwysol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru yn ddilys.
© 2023 Created by National Theatre Wales.
Powered by
You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!
Join National Theatre Wales Community