Casting Breakdown

 

Production

MISSION CONTROL
Hijinx & National Theatre Wales


Directed by Kully Thiarai & Ben Pettitt-Wade, and created with Seiriol Davies 

 

Half a century on from the first moon landing, join us at an iconic Cardiff location for MISSION CONTROL.  

 

The planet Earth is overheating and under-resourced for the next chapter of humanity, but a new hope is just above the horizon. Who will get to set a course for a new beginning? This brand-new production, with a neuro-diverse cast of over 70, explores truth, technology and our lust for taking up space.

 

Performers

 

We are now casting 5 performers of any age and gender to complete our core cast of 12 actors. We will prioritise actors who are born in Wales, based in Wales or professionally trained in Wales, so it is essential that you please indicate your client’s connection to Wales.

 

We’re seeking collaborative performers with keen sensitivity and an ability to play, to join us for this celebratory and irreverent look at our obsession with technology and an ever-new frontier.

 

The core cast will bring the world of Mission Control to life, playing roles including Dr Matthews, genius technologist, Honey, omnipotent AI companion and Joanne, trying to take control of her destiny.

 

This will be an inclusive company.

 

Audition

 

Workshop auditions will be held on Tuesday 3rd September and Wednesday 4th September at Tabernacle Chapel, The Hayes, Cardiff.

 

Actors will be invited to a 2-hour workshop audition on either 3rd or 4th September and will also be asked to prepare a short piece of provided text to read at a pre-arranged time that afternoon.

 

In the workshops, auditionees will be invited to work with some of the actors already cast, in small groups, to explore some key themes and moments of the show.

Production dates

 

Rehearsals commence 28th October 2019

Tech week commences 18th November

Show dates 22nd – 24th November

 

Location

 

Rehearsals will be based at the Tabernacle Chapel, The Hayes, Cardiff CF10 1AJ

The production will be performed at an iconic Cardiff venue.

 

Remuneration

 

Company wage is £585 per week.

Travel, relocation and commuting allowances will be provided in line with Equity rates.

Holiday pay and pension contributions will be made as per the UK Theatre / Equity Subsidised Agreement.

 

Want to get in touch?

 

This breakdown has been shared via Spotlight with all UK agents, who are invited to submit their clients for consideration. We will work with the productions’ lead creatives to select actors to invite to audition.

 

If you’re an unrepresented professional actor and/or you would like to speak directly to us about this project, please contact Mawgaine: casting@nationaltheatrewales.org

Please contact us if you have any access requirements and we will endeavour to meet them. This includes flexibility for people with caring responsibilities and we are a member of Parents in Performing Arts.

National Theatre Wales Casting Policy

When possible and appropriate, NTW considers and casts performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.

NTW is committed to casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Manyleb Castio

 

Cynhyrchiad

MISSION CONTROL
Hijinx a National Theatre Wales


Cyfarwyddwyd gan Kully Thiarai a Ben Pettitt-Wade, a’i greu gyda Seiriol Davies 

 

Hanner canrif wedi glaniad cyntaf dyn ar y lleuad, ymunwch â ni mewn lleoliad adnabyddus yng Nghaerdydd ar gyfer MISSION CONTROL.   

Mae ddaear yn gor-boethi a heb ddigon o adnoddau ar gyfer pennod nesaf dynoliaeth, ond mae ‘na obaith newydd ar y gorwel. Pwy fydd yn gosod y trywydd ar gyfer y dechreuad newydd hwn? Mae’r cynhyrchiad newydd sbon hwn, sydd â chast o dros 70 o actorion niwro-amrywiol, yn archwilio’r gwir, technoleg a’n trachwant am lenwi gofod.

 

Perfformwyr

 

Rydym yn awr yn dymuno castio 5 perfformiwr o ba ryw ac oedran bynnag, er mwyn llenwi’n cast creiddiol o 12 actor. Byddwn yn rhoi blaenoriaeth i actorion a aned yng Nghymru, sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ynteu wedi eu hyfforddi’n broffesiynol yng Nghymru, felly’n mae’n allweddol eich bod yn nodi cyswllt eich cleient â Chymru.

 

Rydym yn chwilio am berfformwyr sy’n hynod sensitif ac â’r gallu i chwarae, er mwyn ymuno â ni ar gyfer yr olwg ddathliadol a chwareus hon ar ein hobsesiwn â thechnoleg a’r gorwel bythol newydd.

 

Bydd y cast creiddiol yn dod â Mission Control yn fyw, gan chwarae rhannau megis Dr Matthews, y technolegydd athrylithgar, Honey, y cydymaith AI hollalluog a Joanne, sy’n ceisio cael rheolaeth dros ei dyfodol.

 

Bydd hwn yn gwmni cynhwysol.

 

Clyweliad

 

Bydd gweithdai clyweld yn cael eu cynnal dydd Mawrth 3ydd Medi a Mercher 4ydd Medi yng Nghapel Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd.

 

Gwahoddir actorion i weithdy clyweld 2 awr o hyd naill ai ar 3ydd ynteu’r 4ydd Medi ac yn cael gwahoddiad hefyd i ddarparu darn byr o destun a ddarperir ar adeg a fydd wedi ei drefnu rhag blaen y prynhawn hwnnw.

 

Yn ystod y gweithdai, bydd y rhai a fydd yn mynychu yn derbyn gwahoddiad i weithio gyda rhai o’r actorion sydd eisoes yn y cast, o fewn grwpiau bach, er mwyn archwilio rhai o’r themâu allweddol a’r eiliadau allweddol o fewn y sioe.

  

Dyddiadau cynhyrchu

 

Ymarferion yn cychwyn 28ain Hydref 2019

Wythnos Tech yn cychwyn 18fed Tachwedd

Dyddiadau’r sioe 22ain – 24ain Tachwedd

 

Lleoliad

 

Cynhelir ymarferion yng Nghapel Tabernacl, Yr Aes, Caerdydd CF10 1AJ

Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio mewn lleoliad eiconig yng Nghaerdydd.

 

Cyflog

 

Cyflog y Cwmni yw £585 yr wythnos.

Bydd ad-daliadau teithio, ail-leoli a chymudo yn cael eu talu yn unol â chyfraddau Equity.

Bydd tal gwyliau a chyfraniadau pensiwn yn cael eu talu yn unol â Chytundeb Sybsideiddio Equity/UK Theatre

 

Eisiau cysylltu?

 

Mae’r amlinelliad hwn wedi ei rannu trwy gyfrwng Spotlight gyda holl asiantau’r DU, a wahoddir i gyflwyno eu cleientiaid i’w hystyried. Byddwn yn gweithio gydag unigolion creadigol amlycaf y cynhyrchiad er mwyn dethol actorion i’w gwahodd i’r clyweliad.

 

Os ydych yn actor proffesiynol heb gynrychiolaeth a / ynteu yn dymuno siarad yn uniongyrchol â ni ynghylch y prosiect yna cysylltwch â Mawgaine: casting@nationaltheatrewales.org

Os gwelwch yn dda cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion mynediad arbennig ac fe wnawn ein gorau i’w bodloni. Mae hyn yn cynnwys bod yn hyblyg ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu ac rydym yn aelod o Parents in Performing Arts.

Polisi castio National Theatre Wales

Lle bo hynny yn bosib ac addas, bydd NTW yn ystyried castio perfformwyr sy’n Gymry, wedi eu lleoli yng Nghymru ynteu wedi eu hyfforddi yn broffesiynol yng Nghymru.

Mae gan NTW ymrwymiad i gastio yn gynhwysol, er mwyn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru mewn ffordd ddilys.

Views: 813

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service