National Theatre Wales & Oily Cart are casting for SPLISH SPLASH, a complex needs show.

 

Oily Cart has an international reputation for its work with young people with complex learning disabilities. We are looking for wonderful performers for a new hydro-pool production. The show will be created in collaboration with National Theatre of Wales as part of NHS70, a month-long festival, inspired by some of the founders, staff and patients of this extraordinary institution.

 

SPLISH SPLASH is a multi-sensory, underwater production exclusively for children and young people with sensory impairments, performed in hydropools, in hospitals and schools across Wales. There will be three versions: one for those with profound and multiple learning disabilities, another for those on the autism spectrum, and a third for the deafblind. Our aim is to present a watery wonderland, a magical space where every sense is delighted. Hydro-therapy pools will be transformed by underwater lighting, clouds of bubbles drifting from below, curtains of perfumed spray, and live music played on floating pipes, with a sound that can be felt as much as heard.

 

We’re looking for performers with terrific singing voices, who are comfortable in the pool. Performers should be prepared to develop close-up communication skills.

We encourage applications from people of colour.

 

Salary: £525.30 per week, plus per diems and accommodation provided whilst on tour.

 

Dates:

Rehearsals 26th Feb - 30 March 2018 with previews (London)

Bring back rehearsals in Wales: 18th June – 30thJune 2018

Wales tour from 1st - 29th July 2018 

Re-rehearsals in London: w/b 10th September 2018

Rest of the UK tour taking place in 17th September – 7th October 2018

 

NTW Casting Policy:

 

Every project is unique and NTW auditions to discover the most talented performers who connect to the company’s values and can help us to create extraordinary work. In doing so, NTW is flexible but committed in pursuit of the following priorities across each project:

  • Creating opportunities for performers who are Welsh, based in Wales or professionally trained in Wales.
  • Casting inclusively, promoting equality of opportunity in the arts and authentically representing Wales’ diverse communities.

 

Additional needs:

 

We will strive to make any required provisions, at audition and at work, to ensure that everyone has equal access to this opportunity. To discuss how we can meet your access requirements and/or additional needs, please don’t hesitate to be in touch.

 

Applying:

 

If you would like to be considered for this production please take a look at www.oilycart.org.uk for further details of the company and its work.

 

Then please send a CV, photograph and a covering letter outlining why you are interested in working on Splish Splash and describing what skills and experience you would bring to this role to casting@nationaltheatrewales.org

 

Please indicate in which city you’d like to audition, if invited.

 

Deadline: 8th December 2018 by 5pm

Auditions will take place in London on 19th December 2018

Auditions will take place in Cardiff on 21st December 2018

 

-------------------------------------------------------------------

 

Mae National Theatre Wales & Oily Cart yn castio ar gyfer SPLISH SPLASH, sioe anghenion cymhleth.

 

Mae gan Oily Cart enw da rhyngwladol am ei waith gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu cymhleth. Rydym yn edrych am berfformwyr ardderchog ar gyfer cynhyrchiad newydd mewn pwll hydro. Bydd y sioe yn cael ei chreu mewn cydweithrediad â National Theatre Wales fel rhan o NHS70, gŵyl mis o hyd, wedi’i hysbrydoli gan rai o sefydlwyr, staff a chleifion y sefydliad anhygoel hwn.

 

Mae SPLISH SPLASH  yn gynhyrchiad amlsynhwyraidd, o dan y dŵr yn arbennig i blant a phobl ifanc â nam ar y synhwyrau, a berfformir mewn pyllau hydro mewn ysbytai ac ysgolion ledled Cymru. Bydd tair fersiwn: un ar gyfer y rheini sydd ag anableddau dysgu dwys a lluosog, un arall i'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistiaeth, a thrydedd ar gyfer pobl sy'n fyddar ac yn ddall.  Eu nod yw cyflwyno rhyfeddod dyfrllyd, lle hudol lle mae pob synnwyr wrth ei fodd. Bydd pyllau hydro-therapi yn cael eu trawsnewid gan oleuadau o dan y dŵr, cymylau swigod yn ymddangos oddi isod, llenni o chwistrell llawn arogl da, a cherddoriaeth fyw wedi'i chwarae ar bibellau sy’n arnofio, gyda sain y gellir ei deimlo llawn cymaint â'i glywed.

 

Rydym yn edrych am berfformwyr gyda lleisiau canu arbennig, sy’n gyfforddus yn y pwll. Dylai perfformwyr fod yn barod i ddatblygu sgiliau cyfathrebu agos atoch chi.

Rydym yn annog ceisiadau gan bobl groendywyll.

 

Cyflog: £525.30 yr wythnos, ynghyd â thaliadau per diem a llety’n cael ei ddarparu tra ar daith.

 

Dyddiadau:

Ymarferion 26ain Chwefror – 30ain Mawrth 2018 gyda rhagddangosiadau (Llundain)

Ymarferion yng Nghymru: 18fed Mehefin - 30ain Mehefin 2018

Taith Cymru rhwng 1af - 29ain Gorffennaf 2018

Ail-ymarferion yn Llundain: wythnos yn dechrau 10fed Medi 2018

Taith gweddill y DU rhwng 17eg Medi - 7fed Hydref 2018

 

Polisi castio NTW:

 

Mae pob prosiect yn unigryw ac mae NTW yn clyweld er mwyn darganfod y perfformwyr mwyaf talentog sy'n cysylltu â gwerthoedd y cwmni a all ein helpu ni i greu gwaith anhygoel. Wrth wneud hynny, mae NTW yn hyblyg ond wedi ymrwymo i geisio cyflawni'r blaenoriaethau canlynol ar draws pob prosiect:

§ Creu cyfleoedd i berfformwyr sy'n Gymry, yn byw yng Nghymru neu sydd wedi'u hyfforddi'n broffesiynol yng Nghymru.

§ Castio’n gynhwysol, gan hyrwyddo cyfle cyfartal yn y celfyddydau a chynrychioli cymunedau amrywiol Cymru yn gywir.

 

Anghenion ychwanegol:

 

Byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddarpariaethau gofynnol, yn ystod y clyweliad ac yn y gwaith, i sicrhau bod gan bawb fynediad cyfartal i'r cyfle hwn. I drafod sut y gallwn gwrdd â'ch gofynion mynediad a/neu anghenion ychwanegol, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Ymgeisio:

 

Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cynhyrchiad hwn, edrychwch ar www.oilycart.org.uk am fanylion pellach am y cwmni a’i waith.

 

Yna anfonwch CV, ffotograff a llythyr eglurhaol yn nodi pam mae gennych ddiddordeb mewn gweithio ar Splish Splash ac yn disgrifio pa sgiliau a phrofiad y byddech yn gallu eu cynnig i’r rôl hon i casting@nationaltheatrewales.org

 

Nodwch ym mha ddinas yr hoffech gael clyweliad, os cewch wahoddiad.

 

Dyddiad cau: 8fed Rhagfyr 2018 erbyn 5pm

Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal yn Llundain ar 19eg Rhagfyr 2018

Bydd clyweliadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ar 21ain Rhagfyr 2018

 

Views: 1292

Add a Comment

You need to be a member of National Theatre Wales Community to add comments!

Join National Theatre Wales Community

image block identification

© 2024   Created by National Theatre Wales.   Powered by

Badges  |  Report an Issue  |  Terms of Service